Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig

URN: SKABA2
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n cynnal yr ymgynghoriad ac yn cynllunio a pharatoi cyn amrywiaeth o driniaethau esthetig. Mae’r safon hon yn rhan o gyfres o safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer estheteg gan gynnwys safonau yn ymwneud âg ieuangu’r croen, electrocautery, defnyddio teclynnau laser, golau ac egni esthetig ynghyd â micropigmentiad. Bydd angen ichi gydymffurfio gyda’r protocol yn ymwneud â thriniaethau a gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol er mwyn cynnal ymarferion gwaith diogel ac effeithiol wrth baratoi ar gyfer triniaethau esthetig. Bydd hefyd angen ichi arddangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol er mwyn llunio cynllun triniaeth unigryw i’r cleient gan ystyried eu hanghenion a’u proffil ffordd o fyw wrth iddyn nhw heneiddio. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. llunio a chytuno ar gynllun triniaeth esthetig y cleient gan ddwyn i ystyriaeth y canlynol: 1.1 hanes meddygol datganedig y cleient a'u statws meddygol cyfredol 1.2 hanes triniaethau'r cleient 1.3 **dosbarthiad croen** y cleient, ynghyd â chyflwr a sensitifrwydd y man triniaeth 1.4 disgwyliadau'r cleient ac amcanion y driniaeth 1.5 addasrwydd corfforol ac emosiynol y cleient ar gyfer triniaethau 1.6 ffioedd y driniaeth 1.7 cyfyngiadau a gwrtharwyddion perthynol a diamod datganedig 2. trafod proses y driniaeth a deilliannau realistig gyda'r cleient 3. derbyn caniatâd, gwybodus a dilys wedi'i arwyddo gan y cleient neu warchodwr ar gyfer y driniaeth 4. tynnu llun cyn y driniaeth fel tystiolaeth o'r man triniaeth gan ddilyn arferion cyfundrefnol 5. trafod y teimlad corfforol posib yn ystod y driniaeth gyda'r cleient gan ddilyn protocol y driniaeth 6. trafod yr opsiynau ar gyfer rheoli poen er mwyn bodloni'r gofynion cyfreithiol a phrotocol cyfundrefnol 7. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ymgynghoriad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd broffesiynol 2. y ffactorau i'w hystyried wrth lunio cynllun triniaeth esthetig unigryw unigol neu fel rhan o gwrs 3. pam fod angen ichi ddatblygu a chytuno ar gynllun triniaeth 4. pam fod angen ichi dderbyn y canlynol gan eich cleient: 4.1 statws meddygol cyfredol 4.2 gwrtharwyddion perthynol a diamod yn ymwneud â'r driniaeth 5. y rheswm dros dderbyn hanes triniaeth y cleient 6. pwysigrwydd asesu addasrwydd corfforol ac emosiynol y cleient ar gyfer y driniaeth 7. perthnasedd adnabod dosbarthiad, cyflwr a sensitifrwydd croen y cleient 8. pwysigrwydd adnabod disgwyliadau'r cleient a chytuno ar amcanion y driniaeth 9. pwysigrwydd egluro proses y driniaeth a deilliannau realistig 10. buddion cymhorthion gweledol yn ystod yr ymgynghoriaeth 11. sut gall ffioedd y triniaethau bennu amcanion y triniaethau 12. arwyddocâd cyfreithiol derbyn caniatâd wedi'i arwyddo, gwybodus a dilys gan y cleient neu warchodwr ar gyfer y driniaeth  13. gofynion cyfreithiol ar gyfer storio, gwarchod a chadw data'r cleientiaid  14. pam na ddylid cynnal triniaethau esthetig ar blant 15. oedran lle mae unigol wedi'i ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio yn genedlaethol 16. pa wrtharwyddion neu gyflyrau cyflwynedig sydd angen eu cyfeirio at wasanaeth meddygol 17. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion 18. sut a phryd i gyfeirio cleientiaid at weithwyr proffesiynol sydd ddim yn y maes gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol maes gofal iechyd 19. sut mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod hawliau'r cleient a'r ymarferwr 20. sut i baru newidynnau triniaethau i weddu i ddosbarthiadau croen ac amcanion y triniaethau 21. ffyrdd o gyfathrebu unrhyw deimlad corfforol yn sgil y driniaeth i'r cleient 22. sut mae trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall 23. yr opsiynau rheoli poen er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a phrotocol cyfundrefnol 24. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno tystiolaeth ffotograffig cyn y driniaeth 25. arwyddocâd cyfreithiol cofnodi **cyngor ac argymhellion** yr ymgynghoriad  26. y weithdrefn paratoi ar gyfer y canlynol: 26.1 triniaethau esthetig 26.2 mannau triniaeth 26.3 sut mae hyn yn amrywio o brotocol triniaethau a chyfarwyddyd gwneuthurwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Dosbarthiad Croen** 1. Graddfa Fitzpatrick 2. Difrod-llun Glogau

Gwybodaeth Cwmpas

Cyngor ac argymhellion

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr
  2. cynnal triniaethau
  3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig
  4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau
  5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd

Gwrtharwydd ydy lle mae sefyllfa lle gall cyffur, meddyginiaeth, croen neu gyflwr meddygol effeithio ar ddechreuad y driniaeth.

Gallwn ddisgrifio gwrtharwydd absoliwt fel gwrtharwydd ataliol neu. Mae'n bosib y bydd angen cyfeirio'r cleient at wasanaeth meddygol. 

Mae modd disgrifio gwrtharwydd perthynol fel gwrtharwydd cyfyngol a bydd gofyn i'r ymarferwr addasu'r driniaeth i fodloni anghenion y cleient.



Dosbarthiad Croen

Mae modd pennu dosbarthiad croen yn ôl lefel y melanin yn y croen a chaiff ei fesur gan ddefnyddio graddfa rifiadol Fitzpatrick. Caiff graddfa Fitzpatrick ei chategoreiddio i dair graddfa, mae'r ffenoteip Uwchfioled yn pennu sensitifrwydd y croen i Uwchfioled, y ffototeip pigmentol sy'n pennu math lliw ethnig y croen ac yn olaf y lefel risg o gancr y croen. Caiff graddfa difrod-llun Glogau ei chategoreiddio i bedwar lefel ac mae difrifoldeb y difrod i'r croen yn pennu cynllun triniaeth esthetig harddwch. Caiff y ddau ddull eu hintegreiddio gyda thechnolegau a theclynnau newydd yn aml.   



Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 and 11 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

ymgynghori, cyfathrebu, math o groen, cyflwr croen, croen dosbarthiad, cynllun triniaeth, ffordd o fyw