Ieuangu’r croen gan ddefnyddio triniaethau meicrobigo’r croen

URN: SKABA11
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n defnyddio technegau meicrobigo i wella cyflwr croen y corff a’r wyneb. Bydd yn rhaid ichi hefyd gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth er mwyn gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn gofalu am anghenion y cleient yn y dyfodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth

  2. cytuno ar amcanion y driniaeth gyda'r cleient

  3. cytuno ar strategaeth rheoli poen gan ddwyn i ystyriaeth lefel goddefedd y cleient, gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol

  4. dewis dyfnder y nodwydd ar gyfer y dosbarthiad croen, nodweddion croen, amcanion y driniaeth a man y driniaeth

  5. cydymffurfio gyda phrotocol y driniaeth ac addasu hyd y driniaeth i weddu i dosbarthiad y* croen* a nodweddion croen *y cleient ynghyd ag *amcanion y driniaeth

  6. gwirio lles y cleient a monitro adwaith y croen drwy gydol y driniaeth

  7. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth

  8. gofalu fod man y driniaeth yn lân a diogel ar ôl y driniaeth gyda chynnyrch ôl-triniaeth

  9. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth yn dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol

  10. cwblhau cofnodion y cleient a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth data

  11. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth

  12. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun.

  13. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl ofal ar ôl y driniaeth. 

  14. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol gyda'ch cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a hylendid wrth gynnal triniaethau meicrobigo'r croen

  2. y dewisiadau ar gyfer rheoli poen a'r peryglon cysylltiedig posib

  3. y gofynion cyfreithiol a chyfyngiadau ar gyfer dod o hyd i, storio a defnyddio anesthetig lleol wedi'i drwyddedu ym Mhrydain

  4. y mathau, diben a defnydd o offer meicrobigo ynghyd ag asiantaethau, gan ddwyn i ystyriaeth:

4.1* *dosbarthiad croen

4.2* *nodweddion croen

4.3 amcanion y driniaeth

4.4 y man ar yr wyneb neu gorff

4.5 gwahanol ddyfnderoedd y nodwyddau gaiff eu defnyddio er mwyn bodloni amcanion y driniaeth

  1. cyfyngiadau nwyddau ac offer caiff eu defnyddio ar gyfer triniaethau meicrobigo

  2. y rheswm dros weithio'n systematig er mwyn ymdrin â man y driniaeth yn dilyn protocol y driniaeth

  3. diben addasu hyd, dwysedd a dyfnder y driniaeth er mwyn dwyn i ystyriaeth:

7.1 dosbarthiad croen

7.2 nodweddion croen

7.3 cyflyrau sy'n bodoli eisoes

7.4 amcanion y driniaeth

  1. adweithiau niweidiol posib a sut i fynd i'r afael â nhw 

  2. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth

10. yr anatomiffisioleg sy'n berthnasol i'r safon hon

  1. gofynion cyfreithiol ynghlwm â chwblhau a storio cofnodion cleientiaid

  2. deilliannau disgwyliedig y driniaeth yn dilyn triniaeth meicrobigo

  3. diben gweithgareddau gwerthuso

  4. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno

  5. cyngor ac argymhellion yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau


Cwmpas/ystod



Gwybodaeth Ychwanegol

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg.

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal.

Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.  

Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.


Cwmpas Perfformiad

Amcanion y driniaeth

  1. Lleihau manlinellau
  2. gwella cyflwr y croen
  3. gwella teimlad y croen
  4. gwella llacrwydd y croen

* *

Nodwydd – yr wyneb

  1. 0.5mm
  2. 1.0mm

*
*

Nodwydd – y corff

  1. 1.5mm
  2. 2.0mm

Dosbarthiad croen

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Llun-niwed Glogau

Nodweddion croen

  1. sensitifrwydd y croen
  2. tewdra'r croen
  3. cyflwr y croen

Gwybodaeth Cwmpas

Adweithiau niweidiol

  1. cleisio
  2. llid
  3. adwaith alergaidd
  4. adwaith histamin gormodol
  5. proses iachau dan fygythiad
  6. pendro
  7. llewygu

* *

Anatomi a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 
  2. strwythur a swyddogaeth croen ac ychwanegiadau'r croen
  3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen
  4. proses heneiddio'r croen gan gynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd
  5. proses iachau'r croen a chlwyfau

Cyngor ac argymhellion

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr
  2. cynnal triniaethau
  3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig
  4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau
  5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa



Dosbarthiad Croen

Mae modd pennu dosbarthiad croen yn ôl lefel y melanin yn y croen a chaiff ei fesur gan ddefnyddio graddfa rifiadol Fitzpatrick. Caiff graddfa Fitzpatrick ei chategoreiddio i dair graddfa, mae'r ffenoteip Uwchfioled yn pennu sensitifrwydd y croen i Uwchfioled, y ffototeip pigmentol sy'n pennu math lliw ethnig y croen ac yn olaf y lefel risg o gancr y croen. Caiff graddfa difrod-llun Glogau ei chategoreiddio i bedwar lefel ac mae difrifoldeb y difrod i'r croen yn pennu cynllun triniaeth esthetig harddwch. Caiff y ddau ddull eu hintegreiddio gyda thechnolegau a theclynnau newydd yn aml.   

Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 3, 4 , 5, 6, 7, 8, 9 and 10


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT35

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

dermapen, meicrobigo’r croen , adfywio croen, pigo'r croen