Defnyddio amledd radio i ieuangu’r croen a gwella amlinell y corff
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n defnyddio amledd radio i ieuangu’r croen a gwella amlinell y corff. Hefyd bydd yn rhaid ichi gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth ar gyfer gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn anghenion y cleient yn y dyfodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar **amcanion y driniaeth** gyda'r cleient 3. paratoi **man y driniaeth** ar gyfer triniaeth amledd radio 4. dewis a defnyddio **newidynnau offer** a thaenwyr sy'n bodloni **amcanion y driniaeth** ac yn gweddu i **m****an y driniaeth** 5. dilyn protocol y driniaeth gan ofalu bod y taenwr yn llifo'n barhaus ac yn cyffwrdd y **man triniaeth** drwy gydol y driniaeth 6. monitro adwaith y croen a lles y cleient, gan addasu hyd y driniaeth a **newidynnau'r offer** gan ddilyn protocol y driniaeth 7. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 8. gorffen y driniaeth drwy ofalu bod yr **offer** wedi'i ddiffodd 9. dilyn cyfarwyddyd y gwneuthurwr er mwyn cwblhau'r driniaeth 10. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 11. cwblhau cofnodion y cleient a'u cadw yn unol â'r ddeddfwriaeth data 12. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 13. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 14. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 15. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol gyda'ch cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaethau amledd radio 2. gweithdrefnau paratoi ar gyfer gwahanol fannau triniaeth 3. y mathau o nwyddau gaiff eu defnyddio gyda thriniaethau amledd radio 4. sut i addasu a sicrhau'r deilliannau gorau posib gyda thriniaethau amledd radio gan ddwyn i ystyriaeth: 4.1 **dosbarthiad croen** 4.2 **nodweddion croen** 4.3 **cyflyrau'r corff** 4.4 amcanion y driniaeth 5. yr effeithiau corfforol yn sgil y driniaeth amledd radio 6. sut caiff allbwn yr amledd radio ei ddisgrifio a'i fesur yn berthnasol i'r sbectrwm electromagnetig 7. ymadwaith amledd radio gyda'r croen a meinweoedd gwaelodol 8. y gwahaniaeth rhwng amledd radio unbegwn, deubegwn a thairbegwn. 9. y mathau o driniaethau gallwn eu cynnal ar y cyd â neu ar ôl triniaethau amledd radio 10. y mathau o declynnau mesur tymheredd is-goch neu laser 11. peryglon dichonol defnyddio teclynnau amledd radio 12. yr **adweithiau niweidiol** posib a sut i fynd i'r afael â nhw 13. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth 14. yr **anatomi** a **ffisioleg** sy'n berthnasol i'r safon hon 15. gofynion cyfreithiol ynghlwm â chwblhau a storio cofnodion cleientiaid 16. deilliannau disgwyliedig y driniaeth yn dilyn triniaeth amledd radio 17. diben gweithgareddau gwerthuso 18. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 19. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau |
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg.
Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal.
Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.
Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.
Cwmpas Perfformiad
Amcanion y driniaeth
- lleihau manlinellau a rhychau
- gwella cyflwr y croen
- amlinellu'r corff
- amlinellu croen yr wyneb
- gwella golwg llid yr isgroen
- lleihau cylchedd
Man y triniaeth
- yr wyneb a gwddf
- rhan uchaf y corff
- breichiau neu goesau
Newidynnau'r offer
- amledd
- tymheredd
- amser
- dwysedd
Offer
- teclyn amledd radio yn unig
- tanwr ar gyfer yr wyneb
- taenwr ar gyfer y corff
- offer therapi electro amlswyddogaethol
Gwybodaeth Cwmpas
**Dosbarthiad croen** 1. Graddfa Fitzpatrick 2. Llun-niwed Glogau ** ** **Nodweddion croen** 1. tewdra'r croen 2. lefel hydradiad 3. math y croen 4. cyflwr y croen ** ** **Cyflyrau'r corff** 1. cramen braster anghytbwys 2. teimlad croen anghytbwys **Adweithiau niweidiol** 1. hyperemia a llid difrifol 2. poen gormodol 3. llosgiadau 4. pothellu 5. cleisio 6. adwaith alergedd 7. oedema gormodol 8. pendro 9. llewygu ** ** **Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. a swyddogaeth y croen ac ychwanegiadau'r croen 3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen 4. proses heneiddio'r croen gan gynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd 5. proses iachau'r croen 6. proses synthesis collagen ac elastin gan gynnwys symbyliad ffibroblastig 7. amrywiannau a lleoliad tewdra croen a chramennau meinweoedd bloneg yng ngwahanol rannau'r wyneb a gwddf a chorff 8. ffisioleg a gradd llid yr isgroen 9. strwythur a swyddogaeth bloneg a lipolysis 10. effeithiau ffisiolegol triniaethau amledd radio ar feinweoedd meddal a strwythurau ysgerbydol gwaelodol |
**** **Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Amledd radio deubegwn** Mae amledd radio deubegwn yn gosod dau electrod cymesur a chyfagos er mwyn treiddio cerrynt amledd radio drwy gyfaint diffiniedig o feinweoedd, er mwyn cynhesu'r targed dymunol.** ** **Sbectrwm Electromagnetig** Mae'r sbectrwm electromagnetig yn gyfuniad o ddau brif ffurf o ymbelydredd. Caiff uwchfioled ei ddefnyddio'n bennaf i roi lliw ar groen ac is-goch er mwyn cynhesu'r meinweoedd er dibenion therapiwtig. **Newidynnau'r offer** Elfen, nodwedd neu reolaeth ar declyn esthetig gall amrywio ac addasu'r gallu o ran gweithredu. Yn arbennig ar gyfer teclynnau Amledd Radio, gall yr egni gaiff ei ddefnyddio ei gludo ar ffurf watiau neu joules. **Amledd radio unbegwn** Mae amledd radio unbegwn yn gosod un electrod unigol ar y man gaiff ei drin ac electrod gwrthwynebol sy'n gymharol bell i'r cyntaf er mwyn gofalu caiff y cerrynt ei dreiddio'n ddwfn drwy'r corff. **** **Dosbarthiad Croen** Mae modd pennu dosbarthiad croen yn ôl lefel y melanin yn y croen a chaiff ei fesur gan ddefnyddio graddfa rifiadol Fitzpatrick. Caiff graddfa Fitzpatrick ei chategoreiddio i dair graddfa, mae'r ffenoteip Uwchfioled yn pennu sensitifrwydd y croen i Uwchfioled, y ffototeip pigmentol sy'n pennu math lliw ethnig y croen ac yn olaf y lefel risg o gancr y croen. Caiff graddfa difrod-llun Glogau ei chategoreiddio i bedwar lefel ac mae difrifoldeb y difrod i'r croen yn pennu cynllun triniaeth esthetig harddwch. Caiff y ddau ddull eu hintegreiddio gyda thechnolegau a theclynnau newydd yn aml. **** **** **Protocol y driniaeth** Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth. ** ** **Amledd radio tairpegwn** Mae amledd radio tairpegwn yn cynhesu celloedd braster penodol o dan y croen heb effeithio'r meinweoedd amgylchynol gan gynyddu metaboledd a secretiad braster hylifol. |
Dolenni I NOS Eraill
SKABA1, 2, 3, 4, 5 ,6, 7, 8, 9 and 11