Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig

URN: SKABA1
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hwn yn arbennig ar gyfer ymarferwyr esthetig er mwyn cydymffurfio gyda chynnal ymarferion iechyd, diogelwch a glanweithdra effeithiol yn eich gwaith gan ddilyn protocol y driniaeth a gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol. Mae’r safon hwn yn rhan o gyfres o safonau galwedigaethol cenedlaethol yn ymwneud â thriniaethau esthetig sef safonau yn ymwneud ag ieuangu croen, electrocautery, defnyddio dyfeisiau laser, golau ac egni esthetig a micropigmentiad. Bydd angen ichi baratoi eich hun a’ch cleient, eich man cynnal y driniaeth, teclynnau, offer a chynnyrch cyn ichi fynd ati i gynnal y driniaeth esthetig.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. parhau i gydymffurfio gyda'ch cyfrifoldebau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth esthetig 2. rhoi dulliau lleihau risg ar waith er mwyn lleihau peryglon a risgiau yn gysylltiedig gyda thriniaethau esthetig 3. paratoi a gwarchod eich hun ac eraill yn y safle triniaethau yn unol â gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol 4. protocol lleoli eich cleient yn dilyn y driniaeth 5. gweithredu ymarferion gwaith sy'n gwneud y canlynol: 5.1 lleihau blinder a pheryg o anafiadau ichi ac eraill 5.2 lleihau'r peryg o groes-heintio drwy ddefnyddio offer diheintiedig a deunyddiau glân  5.3 cydymffurfio gyda rhagofalon glanweithdra a safonol cyffredinol 5.4 gweithredu ymarferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy 6. dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio'r offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel 7. dewis a defnyddio offer yn unol ag arweiniad y gwneuthurwyr 8. cynnal profion er mwyn pennu addasrwydd ar gyfer triniaethau 9. cael gwared ar ddeunyddiau ysbwriel er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich cyfrifoldebau chi yn ymwneud ag **iechyd a diogelwch** wedi'u diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn gysylltiedig â'ch swyddogaeth, gan gynnwys: 1.1 rheolau'r awdurdod lleol, gofynion trwyddedu ar eich cyfer chi a'ch safle 1.2 dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio 1.4 pam fod angen ichi gydymffurfio gyda phrotocolau atal a rheoli heintiadau 1.5 achosion a pheryglon datguddiad damweiniol i wastraff clinigol 2. y rhesymau dros gadw at **brotocolau triniaethau a chyfundrefnol** yn ystod y prosesau canlynol: 2.1 gosod a pharatoi'r man cynnal triniaethau 2.2 cynnal triniaethau esthetig 3. gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer gwarchod, pharatoi, urddas a phreifatrwydd y client 4. sut gall technegau lleoli ac arferion gwaith diogel atal **anafiadau a gwaeledd yn gysylltiedig â gwaith** 5. amodau priodol ar gyfer cynnal triniaethau gan gynnwys: 5.1 golau 5.2 gwres 5.3 gwyntylliad 6. peryglon a risgiau yn gysylltiedig gyda mannau triniaethau esthetig, yr offer, y deunyddiau a'r nwyddau ynghyd â'r rheoliadau i'w rhoi ar waith 7. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo **ymarferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy** 8. y canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer defnydd diogel o offer esthetig a phrotocol triniaethau 9. cyfarwyddiadau'r gweithle a gwneuthurwyr ar gyfer y defnydd diogel o offer, deunyddiau a chynnyrch 10. pam fod rhaid ichi gydymffurfio gyda phrynu offer a chynnyrch yn ddiogel 11. y gofynion cyfreithiol o ran profion cyn y triniaethau esthetig, gan ddwyn i ystyriaeth: 11.1 diben y profion 11.2 sut a phryd i gynnal y profion 11.3 addasu'r driniaeth yn sgil canlyniadau'r profion 11.4 y rheswm dros ddarparu cyfarwyddiadau ôl-ofal ar lafar ac ysgrifenedig i'r cleient 12. y gofynion cyfreithiol yn ymwneud gyda chael gwared ar wastraff

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

**Lechyd a diogelwch** 1. Rheoliadau a chyfarwyddiadau yn gysylltiedig gyda'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 2. Deddfwriaeth yr Awdurdod Lleol neu gynlluniau trwyddedu 3. Deddf Darpariaethau Amrywiol y Llywodraeth Leol 4. Deddf Diogelu'r Amgylchedd 5. Rheoliadau Rheoli Pelydriad Optegol Ffug yn y Gweithle 6. Rheoliadau Gorfodaeth Nwyddau Cosmetig ****Brotocolau triniaethau a chyfundrefnol** ** 1. rheoli'r clinig 2. cynllun triniaeth y cleientiaid 3. cadw cofnodion 4. rheoli gwastraff 5. cyngor ac argymhellion 6. archwilio'r clinig a chofnodion 7. diogelwch personol 8. canlyniadau profion **Anafiadau a gwaeledd yn gysylltiedig â gwaith** 1. anafiadau corfforol ac afiechydon 2. clefydau 3. anafiadau yn sgil defnyddio offer **Ymarferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy** 1. rheoli gwastraff amgylcheddol 2. defnydd o egni 3. ymarferion craidd amgylcheddol 4. gweithio o fewn amseroedd masnachu

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

**Profion** Profion, dull datguddiad prawf â gaiff ei ddefnyddio er mwyn pennu addasrwydd cychwynnol neu baramedrau ar gyfer y driniaeth, gall hyn olygu prawf clytiau, prawf alergeddau, prawf sensitifrwydd neu ddatguddiad prawf. **Diogelwch personol** Bydd hyn yn golygu Cyfarpar Diogelu Personol, rhagofalon glanweithdra cyffredinol, gwrth-heintiadau ar gyfer clefydau heintus wedi'u cludo yn yr aer neu waed. Diogelwch personol, gweithio ar eich pen eich hun a diogelu.   **** **** **Protocol y driniaeth** Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth. **Rhagofalon glanweithdra a safonol cyffredinol** Cafodd rhagofalon glanweithdra cyffredinol eu datblygu i fynd i'r afael â'r peryglon ynghlwm â phathogenau biolegol yn y maes meddygol. Mae rhagofalon safonol yn adnabod perygl trosglwyddo pathogenau o ffynhonnell fiolegol a ffyrdd o leihau heintiau o beryglon biolegol.

Dolenni I NOS Eraill

​SKABA2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 and 11


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

iechyd, diogelwch, arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy, anafiadau ac afiechyd cysylltiedig â gwaith