Darparu gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

URN: SKAB9
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu, cynnal a monitro gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled. Mae'r safon yma'n egluro'n feirniadol bwysigrwydd darparu cyngor am ddodi lliw haul sy'n berthnasol i'r math o groen sydd gan yr unigolyn a dosbarthiad y croen, a sicrhau bod y cyfarpar Uwch Fioled taenu lliw haul a'r defnydd ohono, yn cadw at reoliadau cyfredol y diwydiant a gofynion deddfwriaethol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys darparu ymateb cymorth cyntaf os bydd digwyddiad niweidiol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Darparu, cynnal a monitro gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau, i gynnwys: 2.1 profi'r offer cludadwy a chofnodi'r canlyniad a phrofi swyddogaeth y cyfarpar taenu lliw haul, yn ysbeidiol, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol a gofynion deddfwriaethol

2.2 ailosod y tiwb pan fo angen a chofnodi hynny yn y coflyfr cynnal a chadw

2.3 adrodd am unrhyw nam ar y cyfarpar i'r unigolyn perthnasol

2.4 glanhau a chynnal a chadw'r cyfarpar ar ysbeidiau rheolaidd a chofnodi hynny yn y coflyfr cynnal a chadw

  1. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled, i gynnwys:

3.1 dosbarthiad y croen
3.2 math o groen

3.3 cyflwr y croen

3.4 dewisiadau triniaeth amgen

4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled arfaethedig, i gynnwys:

4.1 yr amser a gymer i ddodi lliw haul gydag Uwch Fioled

4.2 risgiau tymor byr a thymor hir i iechyd o ymbelydredd Uwch Fioled

4.3 gwrth arwyddion

4.4 adweithiau niweidiol

4.5 teimlad corfforol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled 

  1. egluro sut i ddefnyddio'r cyfarpar mewn modd diogel yn unol â'r protocol dodi lliw haul gydag Uwch Fioled, i gynnwys:

6.1 beth i'w wneud os bydd argyfwng

  1. cyfeirio'r unigolyn at y cyfarpar dodi lliw haul Uwch Fioled yn unol â'r protocol dodi lliw haul gydag Uwch Fioled, i gynnwys:

7.1 tynnu sylw at gyfarwyddiadau'r cyfarpar a risgiau cysylltiedig

  1. darparu cynnyrch glanwaith effeithiol ar gyfer yr unigolyn i lanhau'r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  2. darparu'r unigolyn gyda chyfarpar amddiffyn personol yn unol â gofynion deddfwriaethol

10.monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

  1. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  2. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  3. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled a gweithredu'n briodol

  4. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

15. cofnodi canlyniad y gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled a’r gwerthusiad ohono

16. cwblhau'r gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled drwy gau'r cyfarpar i lawr a'i ddiheintio, yn unol â'r protocol dodi lliw haul gydag Uwch Fioled, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. yr effaith ffisiolegol gaiff ymbelydredd Uwch Fioled A, Uwch Fioled B ac Uwch Fioled C ar y croen, i gynnwys:

7.1 cynyddu'r risg o gancr y croen
7.2 y croen yn heneiddio cyn ei amser
7.3 difrod i'r croen

  1. sut i wybod bod rhywun wedi cael ei adael yn rhy agored i ymbelydredd Uwch Fioled o raddfa pedair gradd erythema

  2. pam nad yw rhai pwyntiau pwysedd yn magu lliw haul o dan ymbelydredd Uwch Fioled

  3. diben, y defnydd o a chyfyngiadau darparu a monitro triniaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled mewn perthynas â'r canlynol:

10.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
10.2 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
10.3 disgwyliadau'r unigolyn

  1. y mathau o gyfarpar dodi lliw haul Uwch Fioled a sut i wneud y profion sydd eu hangen i weld os yw'n ddiogel ac yn gweithio

     12. egwyddorion y sbecrwm electromagnetig mewn perthynas â chyfarpar dodi lliw haul Uwch Fioled

  2. pryd a sut i ailosod tiwbiau Uwch Fioled a'r risgiau cysylltiedig

     14. sut i lanhau a chynnal a chadw cyfarpar dodi lliw haul Uwch Fioled

  3. pwysigrwydd cyngor a chyfarwyddiadau cyn triniaeth am sut i ddefnyddio cyfarpar dodli lliw haul Uwch Fioled i gynnwys:

15.1 cael gwared o gosmetigion*,* **gwrthchwyswyr a phersawrau o'r croen 15.2 gwahardd sbardunau Uwch Fioled

  1. sut i rybuddio unigolion am y gwaharddiad cyfreithiol ar dabledi a phigiadau dodi lliw yn y Deyrnas Unedig

  2. pwysigrwydd dyfeisiadau gwarchod y llygad a ellir ond eu defnyddio unwaith i'r unigolion sy'n derbyn gwasanaeth dodi lliw haul Uwch Fioled

  3. pam ei bod hi'n bwysig trafod, sefydlu a chytuno ar hyd parhad y gwasanaeth dodi lliw haul Uwch Fioled, i gynnwys:

18.1 math o groen

18.2 dosbarthiad o'r croen

 19. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda gwasanaeth dodi lliw haul Uwch Fioled a sut i ymateb iddynt

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth dodi lliw haul Uwch Fioled

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  3. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

23. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth dodi 

  1. cadw, trafod, defnyddio a chael gwared o gyfarpar dodi lliw haul gydag Uwch Fioled yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol

  2. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

26. mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  1. sut i baratoi cynnyrch yn unol â'r protocol gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

  2. sut i ddarparu a monitro gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

  3. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  4. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled 

31. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

  1. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y dodi lliw haul gydag Uwch Fioled

33. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaethau dodi lliw haul gydag Uwch Fioled


Cwmpas/ystod

Cyfarpar

  1. Gwely lliw haul Uwch Fioled
  2. Lamp Uwch Fioled
  3. Blwch lliw haul Uwch Fioled

Dosbarthiad o'r croen

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Graddfa Lancer 

Math o groen

  1. sych

  • olewog

  • cyfuniad

  • cytbwys

  • Adweithiau niweidiol

    1. Difrod i'r llygaid
    2. heneiddio cynamserol o'r croen
    3. ymateb gwrthimiwnyddol a'r risg uwch o anafiadau i'r croen a chancr y croen
    4. llosgi
    5. pothellu
    6. lliwiad anwastad
    7. teimlo'n llewyglyd
    8. cyfog
    9. clawstrophobia
    ** ** **Protocol gwasanaeth dodi lliw haul gydag Uwch Fioled** 1.  amgylchedd waith 2.   iechyd a diogelwch 3.   atal a rheoli haint 4.   cynllun gwasanaeth 5.   cydsyniad gwybodus 6.   rheoli data 7.   canlyniadau profion 8.   cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 9.   archwilio ac atebolrwydd
    1. cyfarwyddiadau a chyngor

    2. cynaliadwyedd

    3. rheoli gwastraff

    4. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    5. ymarfer adfyfyriol

    **Cyfarwyddiadau**  
    1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

    2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

    3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

    4. triniaethau yn y dyfodol

    **Anatomeg a ffisioleg**
    1. strwythur a swyddogaeth y croen
    2. anatomeg and ffisioleg y corff dynol
    3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig





    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABT29

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    Dodi lliw haul Uwch Fioled, Uwch Fioled A, Uwch Fioled B, ymbelydredd Uwch Fioled C