Darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gwella lliw'r croen gan ddefnyddio technegau dodi lliw haul drwy chwistrellu
- Gwella lliw'r croen gan ddefnyddio technegau dodi lliw haul â llaw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau, i gynnwys:
2.1 defnyddio cyfleusterau echdynnu priodol yn unol â gofynion deddfwriaaethol
3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
4. adarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu arfaethedig, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol **
4.4 teimlad corfforol
cynnal prawf (profion) cyn y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
gwneud dadansoddiad o'r croen, i gynnwys:
6.1 dosbarthiad o'r croen
6.2 math o groen
6.3 cyflwr y croen
7. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant:
7.1 cyfarwyddiadau a chyngor cyn y driniaeth
- dewis a defnyddio cynnyrch paratoi glendid i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
9. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:
9.1 dodi lleithiwr ar fannau sych o'r croen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr deunydd lliw haul
Dodi lliw haul drwy chwistrellu
paratoi a defnyddio cyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth
dewis toddiant dodi lliw haul o'r cryfder priodol i'w ddefnyddio yn y cyfarpar chwistrellu lliw haul yn unol â'r protocol triniaeth
12. profi’r cyfarpar cyn ei ddodi er mwyn penderfynu’r llif aer a’r dwysedd lliw haul priodol drwy gywiro’r mesur pwysau am bob modfedd sgwar
13. gwneud y driniaeth dodi lliw haul drwy ei chwistrellu yn unol â’r protocol triniaeth
Dodi lliw haul â llaw
14. dewis y cynnyrch diblisgo a gwneud y driniaeth diblisgo yn unol â'r protocol triniaeth
dewis cryfder priodol yr eli neu'r hufen lliw haul i'w ddefnyddio yn unol â'r protocol triniaeth
dodi'r eli lliw haul yn unol â'r protocol triniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
23. cofnodi canlyniad y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu a’r gwerthusiad ohonynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben triniaethau dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu, y defnydd ohonymt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr y croen
7.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
pwysigrwydd profion cyn y driniaeth dodi lliw haul arnoch eich hun a chofnodi'r canlyniadau yn unol â gofynion deddfwriaethol
y mathau o gynnyrch dodi lliw haul â llaw a thrwy chwistrellu
y cynhwysyn dihydroxyacetone sy'n weithredol mewn toddiannau dodi lliw haul a'r effeithiau ffisiolegol a gaiff ar y croen
11. sut a phryd i ddefnyddio’r canlynol:
11.1 deunyddiau gwella lliw haul
11.2 deunyddiau cywiro lliw haul
- y mathau o gyfarpar chwistrellu lliw haul, i gynnwys:
12.1 cyfarpar chwistrellu lliw haul i'w ddal â llaw
13. pam a sut dylid cywiro’r mesur pwysau am bob modfedd sgwar ar y cyfarpar dodi lliw haul, i gynnwys:
13.1 cywiro diffygion
y risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyfarpar chwistrellu lliw haul gwasgeddedig
sut i baratoi, glanhau, cynnal a chadw ac ail-gydosod cyfarpar chwistrellu lliw haul a deunyddiau ategol cysylltiedig
16. pwysigrwydd cyngor a chyfarwyddiadau o flaen y driniaeth a sut y gall hynny effeithio ar y driniaeth a’r canlyniadau
17. pwysigrwydd eitemau a ddefnyddir ar gyfer gwarchod yr unigolion mewn triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu, i gynnwys:
17.1 gwisg dan draed a ddefnyddir unwaith
17.2 rhwyd gwallt a ddefnyddir unwaith
17.3 dillad is a ddefnyddir unwaith
17.4 pabel1
17.5 hufen rhwystro
17.6 tyweli
pwysigrwydd paratoi a diblisgio croen yr unigolyn cyn dodi'r toddiannau lliw haul
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth dodi lliw haul â llaw neu drwy chwistrellu
Cwmpas/ystod
Adweithiau niweidiol
- gwaedu
- llid y croen
- chwydd gwyn
- llosgi
- cosi
- llygaid yn dyfrio
- pesychu
- llewygu
- alergedd
Dosbarthiad o'r croen
- Graddfa Fitzpatrick
- Graddfa Lancer
Math o groen
- sych
- olewog
- cyfuniad
- cytbwys
Cyflwr y croen
hydwythedd llac
gorliwio a thanliwio
tagedig
llinorog
bregus
fasgwlaidd
sensiteiddiedig
sensitif
wedi sychu
ffoto sensitif
12. wedi ei niweidio gan olau
13. wedi sychu
14. wedi dylu
Protocol triniaeth dodi lliw haul
1.amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
Cyfarpar
- gwn chwistrellu
cywasgwr
maneg loywi
Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth y croen
- anatomeg and ffisioleg y corff dynol
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
*
**
*Cynnyrch
- toddiannau taenu lliw haul drwy chwistrellu
- toddiannau taenu lliw haul â llaw
- hufen rhwystro
- diblisgwyr
- leithyddion
- deunyddiau gwella lliw haul
- deunyddiau cywiro lliw haul
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Cyflwr croen sensitif
Adweithedd capilaraidd genetaidd wedi ei gynyddu a swyddogaeth rhwystr wedi ei newid gan arwain at freuder cynhenid epidermol
Cyflwr croen sensiteiddiedig
Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad I ffactorau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a'r ffordd o fyw sydd naill ai'n cynyddu cytocinau a modylyddion llidiol neu'n llesteirio'r rhwystr croen.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1