Darparu triniaethau edafu
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol **ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau edafu i gael gwared o flew nad oes mo'u heisiau ar yr wyneb a'r corff. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol,.
Y prif ddeilliannau yw:
- cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau gan ddefnyddio technegau edafu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei flew, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth edafu, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth edafu arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus ysgrifenedig yr unigolyn ar gyfer y driniaeth edafu
paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth edafu
taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a'i chwyddo yn unol â'r protocol triniaeth edafu
dewis cynnyrch effeithiol i baratoi cynnyrch paratoi glendid i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r protocol triniaeth edafu
gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:
9.1 dosbarthiad y blew
9.2 patrwm tŵf y blew
9.3 dosbarthiad y croen
9.4 cyflwr y croen
trimio dros flew hir os oes angen
dewis a defnyddio darn diheintiedig o gyfarpar edafu yn unol â'r protocol triniaeth edafu
cael gwared o flew â llaw mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio edau yn unol â'r protocol triniaeth edafu, i gynnwys:
12.1 yr unigolyn yn cefnogi'r croen I fod yn dynn yn ystod y driniaeth waredu
12.2 cael gwared o flew yn y cyfeiriad cyferbyniol i dŵf y blew
12.3 dodi tyndra cywir yr edau
creu siap i'r ael sy'n gytbwys, yn gymesur ac wedi ei ddiffinio ac sy'n cydweddu ag amcanion yr unigolyn
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth edafu
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth edafu, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
17. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth edafu a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
cofnodi canlyniad y driniaeth edafu a'r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at a rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben triniaethau edafu, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.3 disgwyliadau'r unigolyn
7.4 hanes triniaethau
y rhesymau dros dorri blew hir, cyn decharu ar y driniaeth edafu
pam bod y therapydd yn gofyn i'r unigolyn gefnogi'r croen i fod yn dynn drwy gydol y driniaeth edafu
y dulliau o gael gwared o flew a ddefnyddir i gyflawni technegau edafu diogel, sydyn ac effeithiol
pwysigrwydd cadw ac addasu tyndra'r edau
y rheswm pam caiff blew eu tynnu i ffwrdd yn erbyn cyfeiriad y tŵf
sut gall technegau edafu gael eu haddasu i osgoi anaf straen ailadroddus
pam bod edafu gan ddefnyddio'r geg yn risg i iechyd a diogelwch
strwythur anatomegol yr wyneb a'r nodweddion sy'n penderfynu cymesuredd a chydbwysedd o driniaeth edafu i'r ael
yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â thriniaeth edafu a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth edafu
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
21. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth edafu
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth edafu
sut gall taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a'I chwyddo gefnogi'r driniaeth edafu
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth edafu
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
27. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion am driniaeth edafu'r unigolyn
canlyniadau disgwyliedig triniaethau edafu
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth edafu
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl triniaeth edafu
Cwmpas/ystod
Hanes triniaethau
- plicio
- eillio
- hufennau diflewol
- diflewol trydanol
- menyg sgraffellog
- lleihau blew drwy olau
- edafu
- diflewiad trydanol
- trimio
- diflewydd
- laser a golau
- electrolysis
*
*Adweithiau niweidiol
- chwydd gwyn gormodol
- crafiadau
- blew toredig
- gorwaedu
- ad-dyfiant gormodol ac wedi ei leihau
- alergedd
Man triniaeth yr unigolyn
- wyneb
- corff
Protocol triniaeth edafu
- amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun triniaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. rheoli data
7. canlyniadau profion
8. archwilio ac atebolrwydd
9. cyfarwyddiadau a chyngor
cynaliadwyedd
rheoli gwastraff
ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
ymarfer adfyfyriol
Cyfarwyddiadau
1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth y blew a chylch tŵf y blew
- strwythur a swyddogaeth y croen
- anatomeg a ffisioleg y corff dynol
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Dulliau o gael gwared o flew
- techneg gwddf
- techneg llaw
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Techneg llaw
Cael gwared o flew gan ddefnyddio edau sy'n cael ei ddal a'i ddolennu rhwng y ddwy law. Fe'i defnyddir yn aml gan ymarferwyr arnynt hwy eu hunain ac ar eraill. Caiff y dechneg hon hefyd ei hadnabod fel hunan-ddull neu ddull dolennog dwbl.
Techneg gwddf
Cael gwared o flew gan ddefnyddio edau lle mae un rhan o'r edau yn cael ei ddal o amgylch y gwddf a'r rhan arall wedi ei ddolennu yn y dwylo. Mae hyn yn cymryd lle's dechneg geg, a gaiff hefyd ei hadnabod fel y dull dolennog sengl.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1