Darparu triniaethau cwyro personol agos

URN: SKAB6
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau cwyro personol agos. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau o fan personol agos

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth cwyro, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cynnal profion a chofnodi'r canlyniad er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

5.  cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth cwyro arfaethedig, i gynnwys:

5.1 canlyniadau disgwyliedig

5.2 gwrth-weithredoedd

5.3 adweithiau niweidiol

5.4 teimlad corfforol

6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth cwyro personol agos, yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. paratoi'r unigolyn a man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos i gynnwys:

7.1 cyfrifoldeb yr unigolyn i sicrhau bod man trinaieth yr unigolyn wedi ei saniteiddio cyn y driniaeth cwyro personol agos

  1. gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:
    8.1 dosbarthiad y blew

8.2 patrymau tŵf y blew
8.3 dosbarthiad y croen
8.4 cyflwr y croen

  1. dewis y cwyr yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos, i gynnwys:

9.1 tymheredd yn cael ei bennu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  1. dewis a defnyddio cynnyrch paratoi glendid a chyn-gwyr i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

  2. cael gwared o'r blew mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio systemau cwyr caled, i gynnwys:

11.1 cynnal prawf clytiau gwresol yn syth cyn y driniaeth cwyro ar arddwrn y therapydd a man triniaeth yr unigolyn 11.2 sefydlu patrwm tŵf y blew a thrimio'r blew hir cyn dodi'r cwyr

11.3 trosglwyddo'r cwyr o'r uned gwyr yn unol â gofynion deddfwriaethol er mwyn cadw'r risg o groes-heintio a halogiad mor isel â phosibl

11.4 dodi'r cwyr ar yr ongl briodol, yn uniongyrchol i dŵf y blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

11.5 cael gwared o'r cwyr yn sydyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

11.6 sicrhau bod man triniaeth yr unigolyn yn cael ei adael heb gwyr a blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

11.7 dodi cynnrych lleddfu ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

11.8 sicrhau cyn lleied o wastraff â phosibl er mwyn cynaliadwyedd

  1. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth cwyro personol agos

  2. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  3. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  4. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

16. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth cwyro a gweithredu'n briodol

  1. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth cwyro personol agos

18. cofnodi canlyniad y driniaeth cwyro personol agos a gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau, gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma:

4.1 strwythur anatomegol y genitalia benywaidd a'r genitalia gwrywaidd

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd nodi nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. diben, triniaethau cwyro, y defnydd ohonynt a'u cyfyngiadau mewn perthynas â'r canlynol:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.4 disgwyliadau'r unigolyn

7.5 hanes triniaethau

  1. y rhesymau dros dorri blew crwydr a rhai sy'n rhy hir, cyn cychwyn y driniaeth cwyro personol agos

  2. y strwythur anatomegol a'r nodweddion er mwyn penderfynu ar gymesuredd a chydbwysedd o driniaethau cwyro personol agos

  3. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth cwyro personol agos a sut i ymateb iddynt

  4. pam bod rhaid i'r therapydd gefnogi'r croen i fod yn dynn drwy gydol y driniaeth cwyro personol agos gyda chymorth yr unigolyn

  5. sut mae safle'r therapydd a'r unigolyn yn effeithio ar ganlyniadau'r driniaeth

     13. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth cwyro personol agos, i gynnwys:

13.1 pwysigrwydd rhoi polisi diogelu ar waith i warchod yr unigolyn a'r therapydd

13.2 cael gwared o wastraff cwyr halogedig mewn modd effeithiol ac yn unol â gofynion deddfwriaethol

  1. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth cwyro personol agos

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  3. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

17. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth cwyro personol agos

  2. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen

  3. sut i gadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas drwy gydol y driniaeth

  4. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  5. y mathau o gynnyrch cwyr caled a systemau cwyr a pha wahaniaethau sydd rhyngddynt, i gynnwys:

22.1 cynwysyddion

22.2 tymereddau gweithio

22.3 technegau ar gyfer dodi a thynnu i ffwrdd

22.4 man triniaeth yr unigolyn

  1. y mathau o a'r defnydd o dempledi siapio a ddefnyddir mewn triniaethau cwyro personol agos    

  2. y mathau o driniaethau cwyro personol agos sydd ar gael

  3. manteision a chyfyngiadau cynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau cwyro personol agos, i gynnwys:

25.1 sut mae dosbarthiad y blew a'r croen a goddefiad poen yr unigolyn yn gallu effeithio ar y dewis o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaeth cwyro personol agos

  1. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal  anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  2. achosion cynhenid, systemaidd ac argroenol tŵf di-eisiau o'r blew

  3. yr addasiadau sydd eu hangen pan yn cael gwared o flew dan amodau sy'n rhwystro triniaeth

  4. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

  5. y polisïau a'r gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer torri'r côd ymddygiad ac ymarfer gan yr unigolyn

  6. yr addasiadau sydd eu hangen pan yn cael gwared o flew dan amodau sy'n rhwystro triniaeth

  7. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth cwyro personol agos

  8. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

  9. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth cwyro personol agos

  10. canlyniadau disgwyliedig triniaethau cwyro personol agos

  11. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

  12. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth cwyro personol agos

  13. cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth  cwyro personol  agos


Cwmpas/ystod

Hanes triniaethau

  1. plicio
  2. eillio
  3. hufenau diflewol
  4. diflewiad trydanol
  5. menyg sgraffellog
  6. golau gwyntylledig dwys
  7. cael gwared o flew drwy laser
  8. diflewiad trydanol
  9. trimio

Adweithiau niweidiol

  1. cleisio

  • chwydd gwyn gormodol

  • llosgiadau

  • crafiadau

  • blew toredig

    1. y ddanadfrech

  • gwaedu

  • ad-dyfiant gormodol ac wedi ei leihau

  • crafiadau / sgriffiadau o'r croen

  • 10.  alergedd


    Protocol triniaeth cwyro personol agos

    1. amgylchedd waith

  • iechyd a diogelwch

  • atal a rheoli haint

  • cynllun triniaeth

  • cydsyniad gwybodus

    1. rheoli data

    7. canlyniadau profion

    1. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  • archwilio ac atebolrwydd

  • 10.  cynaliadwyedd

    11.  rheoli gwastraff

    12.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    13.  ymarfer adfyfyriol

         

      Dosbarthiad o'r blew

    1. syth
    2. cyrliog
    3. cyrliog iawn

    *
    *

    Cyfarwyddiadau

    1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
    2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
    3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
    4. triniaethau yn y dyfodol


    Anatomeg a ffisioleg

    * *1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth a rei gilydd

    1. strwythur a swyddogaeth y blew a chylch tŵf y blew

    2. strwythur anataomegol y genitalia

    3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

    Strwythur y genitalia benywaidd

    1. mons pwbis
    2. y gweflau gan gynnwys a gweflau mwyaf a'r gweflau lleiaf
    3. agoriad wrethrol allanol
    4. yr agoriad gweiniol
    5. y rhefr
    6. y perinëwm
    7. cwfwl clitoraidd


    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    Strwythur y genitalia gwrywaidd

    1. blaengroen
    2. pidyn
    3. pen y pidyn
    4. chwarennau hadlifol
    5. chwarennau ategol
    6. chwaren y prostad
    7. ceillgwd
    8. vas deferens
    9. ceilliau
    10. ceillgwd

    11. argeilliau

    12. mons pwbis

    13. man rhefrol


    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Anatomeg a ffisioleg

    Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Dosbarthiad o'r blew classification

    Gellir cyfeirio at bbosbarthiad 'r blew fel y math o flew.

    Cwyr poeth caled

    Mae cwyr poeth caled yn gwyr aml-gyfeiriol y gellir ei ddodi i'r blew, ei adael hyd nes ei fod bron â chaledu a'i dynnu i ffwrdd. Gall cwyr poeth caled gael amryw o briodoleddau.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

    Diogelu

    Dyma'r camau 'rydym yn eu cymryd i hyrwyddo lles oedolion bregus i'w gwarchod rhag niwed.


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1



    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABT23 and SKABT22

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    cwyro personol agos