Darparu triniaethau lled barhaol i godi’r amrannau a lamineiddio’r aeliau
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol **ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau lled barhaol i godi'r amrannau a lamineiddio'r aeliau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys, darparu ymateb cymorth cyntaf os bydd digwyddiad niweidiol.
Y prif ddeilliannau yw*:*
- newid strwythur ar ael gan ddefnyddio toddiannau cemegol ar gyfer codi a gosod
- newid strwythur ar ael gan ddefnyddio toddiannau cemegol ar gyfer codi a gosod* ***
- dadwneud mewn modd diogel effeithiau toddiannau codi amrannau ar amrannau sydd wedi eu codi'n ormodol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth i'r amrannau, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
- cynnal profion a chofnodi'r canlyniad er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth arfaethedig i’r amrannau a/neu’r aeliau, i gynnwys:
5.1 canlyniadau disgwyliedig
5.2 gwrth-weithredoedd
5.3 adweithiau niweidiol
5.4 teimlad corfforol
6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth arfaethedig i’r amrant a/neu’r ael yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael
dewis cynnyrch effeithiol i baratoi cynnyrch paratoi glendid i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael
gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:
9.1 dosbarthiad y blew
9.2 cyflwr y blew
9.3 patrwm tŵf y blew
9.4 dosbarthiad y croen
9.5 cyflwr y croen
9.6 nodweddion anatomaidd yr wyneb
dewis a pharatoi'r cynnyrch amrannau a/neu aeliau yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael Dodi laminiad ar yr ael
codi'r ael yn lled-barhaol mewn modd diogel ac effeithiol, i gynnwys:
11.1 dodi gludydd ar yr aeliau er mwyn angori blew'r ael yn eu siap newydd yn unol â'r protocol triniaeth
11.2 dodi’r toddiannau codi er mwyn dyrchafu’r aeliau, eu gadael i ddatblygu a chael gwared ohonynt gan ddefnyddio deunydd traul yn unol â’r protocol triniaeth
11.3 dodi’r toddiannau niwtraleiddio yn y safle ddyrchafedig, eu gadael i ddatblygu a chael gwared ohonynt gan ddefnyddio deunydd traul sych yn unol â’r protocol triniaeth
11.4 trimio blew'r ael i'r siap y cytunwyd yn y cynllun triniaeth
11.5 rhyddhau'r ael unigol o'r gludydd yn ysgafn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
11.6 gwarchod blew'r ael gyda thoddydd maethlon yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Codi'r amrant
- codi'r amrant lled-barhaol mewn modd diogel ac effeithiol i gynnwys:
12.1 defnyddio padiau o dan y llygad a thâp meicro i warchod yr amrannau is yn unol â'r protocol triniaeth
12.2 dodi digon o ludydd ar ochr isaf y gorchuddion cyrlio yn unol â'r protocol triniaeth
12.3 cysylltu'r gorchuddion cyrlio â chaead y llygad, yn agos at yr amrant yn unol â'r protocol triniaeth
12.4 dodi digon o ludydd ar wyneb y gorchuddion cyrlio er mwyn angori'r amrannau naturiol y neu siap newydd yn unol â'r protocol triniaeth
12.5 ynysu a chodi pob amrant at y gorchuddion cyrlio gan ddefnyddio offeryn cyrlio amrant
12.6 dodi'r toddiannau codi i ddyrchafu'r amrannau, eu gadael i ddatblygu a chael gwared o ddeunydd traul sych yn unol â'r protocol triniaeth
12.7 dodi'r toddiannau niwtraleiddio yn y safle ddyrchafedig, eu gadael i ddatblygu a chael eu gwared gan ddefnyddio ddeunydd traul sych yn unol â'r protocol triniaeth
12.8 rhyddhau'r amrannau unigol yn ysgafn o'r gorchuddion cyrlio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
12.9 cael gwared o’r gorchuddion cyrlio, gwarchodwr o dan y llygad a’r gludydd gormodol, gan sicrhau bod unrhyw anghysur i’r unigolyn cyn lleied â phosibl
12.10 gwarchod yr aeliau gyda thoddydd maethlon yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13.0monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth i'r amrant a/neu'r ael
14. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol, i gynnwys:
14.1 ymateb argyfwng cymorth cyntaf
15. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
16. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
17. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth i'r amrannau a/neu'r aeliau a gweithredu'n briodol
18. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth i’r amrannau a/neu’r aeliau a’r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at a rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben triniaethau i’r amrannau a/neu’r aeliau, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.4 disgwyliadau'r unigolyn
- strwythur anatomegol a nodweddion yr wyneb er mwyn penderfynu cymesuredd a chydbwysedd gan driniaethau i'r amrant a'r ael, i gynnwys:
8.1 siap a nodweddion y llygad
- yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â thriniaethau i'r amrant a'r ael a sut i ymateb iddynt
10. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i'r amrant a'r ael
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth i’r amrant a’r ael
15. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r amrant a'r ael
16. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
17. y mathau o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau i’r amrant a’r ael, a’u manteision a’u cyfyngiadau, i gynnwys
17.1 sut gall y ffordd o fyw, a dosbarthiad y blew a’i nodweddion effeithio ar y dewis a’r defnydd o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaeth i godi’r amrant a’r ael
sut mae toddiannau codi a gosod yn torri a thrwsio'r rhwymau deusylffid o fewn strwythur y blew
pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
pam bod toddiannau gosod a niwtraleiddio yn cael eu symud o'r gyda deunydd traul sych yn ystod y driniaeth
pwysigrwydd nodi hanes triniaethau i amrant ac ael yr unigolyn, i gynnwys:
21.1 anghydnawsedd cyfuno henna gyda chemegolion pyrmio a'i effaith ddeifiol ar y blew
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
24. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth i'w amrant a'i ael
canlyniadau disgwyliedig triniaethau i'r amrant a'r ael
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth i’r amrant a’r ael a’r gwerthusiad ohoni.
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl triniaethau i'r amrant a'r ael
Cwmpas/ystod
Profion
prawf(profion) croen ar gyfer y cynnyrch sydd i'w defnyddio
prawf sensitifrwydd
prawf rhybudd o alergedd
Adweithiau Niweidiol
gwaedu
y ddanadfrech
3.* ***crafiadau
difrod i'r llygad
llid y llygad
chwydd gwyn
colli amrant
dallineb
9. alergedd
**Protocol triniaeth i'r amrant a/neu'r ael**
1.amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
*
*Dosbarthiad o'r blew
syth
cyrliog
cyrliog iawn
Patrwm tŵf y blew
- cyfeiriad y tŵf
- colli
Cyfarwyddiadau
1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
- strwythur a swyddogaeth a chylch tŵf y blew
- strwythur sylfaenol a swyddogaeth y llygad
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB4, SKAB5, SKAB6,
SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1