Tynnu blew’n drydanol

URN: SKAB10
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer tynnu blew nad oes mo'u heisiau mewn modd diogel gan ddefnyddio technegau tynnu trydanol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Darparu triniaeth tynnu blew galfanig i gael gwared o flew nad oes mo'u heisiau
  2. Darparu triniaeth tynnu blew trydwymo tonfedd fer i gael gwared o flew nad oes mo'u heisiau
  3. Darparu triniaeth dynnu blew gymysg i gael gwared o flew nad oes mo'u heisiau

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tynnu blew'n drydanol, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 dewisiadau triniaeth amgen

4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth arfaethedig i dynnu blew’n drydanol, i gynnwys:

4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

4.3 dull tynnu blew'n drydanol

4.4 teimlad corfforol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth tynnu blew’n drydanol yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a'i chwyddo

  3. dewis cynnrych paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  4. gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:

9.1 dosbarthiad o'r blew

9.2 math o flew

9.3 patrymau t*ŵf y blew*

9.4 dosbarthiad y croen

9.5 math o groen

9.6 cyflwr y croen

  1. paratoi'r cyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. dewis y math o nodwydd a'i maint, ei llwytho mewn modd aseptig yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  3. gosod y dull tynnu blew'n drydanol, ei ddwysedd a'i barhad yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol, i gynnwys:

12.1 cynnal prawf ymchwilio i benderfynu goddefiad yr unigolyn a chadw golwg ar ymateb y croen/gwrth weithredoedd 

  1. dilyn y protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol er mwyn sicrhau cael gwared o'r blew mewn modd diogel ac effeithiol i gynnwys:

13.1 dal y croen â llaw

13.2 addasu technegau ar gyfer man triniaeth yr unigolyn

  1. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  3. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  4. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  5. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth tynnu blew'n drydanol a gweithredu'n briodol

  6. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

20. cofnodi canlyniad y driniaeth tynnu blew’n drydanol a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau therapi trydanol i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  2. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. sut gall hanes triniaethau ac ymyriadau argroenol effeithio ar y canlynol:

5.1 cylch tŵf y blew

5.2 y mathau o flew, eu priodoleddau a'u dosbarthiad

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

8. diben, triniaethau tynnu blew’n drydanol i’r wyneb y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:

8.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

8.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

8.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

8.4 disgwyliadau'r unigolyn

  1. sut gall geneteg a chyflyrau systemaidd effeithio ar y cynllun triniaeth a'r canlyniadau, i gynnwys:

9.1 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

9.2 anghydbwyseddau hormonaidd
9.3 hanes triniaethau

  1. y mathau o reolaeth poen a risgiau cysylltiedig

11. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth drydanol i'r wyneb a sut i ymateb

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. pam bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth tynnu blew'n drydanol:

13.1 teimlad corfforol

14. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  1. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

16. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth tynnu blew’n drydanol 

  1. cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar tynnu blew'n drydanol a nodwyddiau diheintiedig a ddefnyddir unwaith, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol

  2. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  3. pwysigrwydd chwyddo a pharatoi man triniaeth yr unigolyn a thaflu goleuni arno

  4. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:

20.1 pwysigrwydd sicrhau bod man triniaeth yr unigolyn cael cael ei adael yn lan, yn rhydd o olew ac yn sych, cyn triniaeth tynnu blew'n drydanol

  1. y gwahanol fathau o nodwyddau sydd ar gael a'u maint

  2. y mathau o gyfarpar tynnu blew'n drydanol, i gynnwys:

22.1 egwyddorion ac effeithiau thermolysis/trydwymo tonfedd fer (cerrynt eiledol) galfanig (cerrynt union) a thechnegau cymysgu 

  1. egwyddorion y cerrynt eilredol fel tonfedd fer, amledd radio ac amledd uchel y defnydd ohonynt a'u mantais

24. risg danfon cerrynt union drwy’r corff gydag unigolyn sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol 

  1. sut i baratoi'r cyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. sut i ddewis a llwytho'r nodwydd mewn modd aseptig I gael gwared o flew nad oes mo'u hangen mewn modd diogel ac effeithiol

  3. yr amrywiaeth o dechnegau a ddefnyddir i gael gwared o  flew nad oes mo'u hangen, i gynnwys:

27.1 effeithiau gwahanol gerynt ar y croen

28. sut i gynnal y croen â llaw er mwyn sicrhau canlyniadau triniaeth effeithiol  

29. y rhesymau dros weithio’n systematig gyda gofod cywir yn cael ei gadw ar draws y rhan o’r unigolyn sydd i’w thrin 

30. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

  1. sut i gael gwared o weddillion croen o'r nodwydd yn ystod y driniaeth, pan fod hynny'n angenrheidiol a phryd dylid cael un newydd

32. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth tynnu blew'n drydanol

  2. canlyniadau disgwyliedig technegau tynnu blew'n drydanol

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

36. pwysigrwydd cofnod canlyniad y driniaeth tynnu blew’n drydanol a’r gwerthusiad ohoni 

37. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth tynnu blew'n drydanol


Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. gorwaedu
  2. chwydd gwyn gormodol
  3. gwelwi
  4. gwaedu
  5. cleisio
  6. alergedd

Dull tynnu blew'n drydanol

  1. thermolysis/trydwymo tonfedd fer (cerrynt eiledol)
  2. galfanig (cerrynt union)
  3. cymysgedd


Man triniaeth yr unigolyn

  1. wyneb
  2. corff

Protocol triniaeth tynnu blew'n drydanol

  1. amgylchedd waith

  • iechyd a diogelwch

  • atal a rheoli haint

  • cynllun triniaeth

  • cydsyniad gwybodus

    1. rheoli data

  • canlyniadau profion

  • cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  •    archwilio ac atebolrwydd

  • 10.  cyfarwyddiadau a chyngor

    11.  cynaliadwyedd

    12.  rheoli gwastraff

    13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    14.  ymarfer adfyfyriol

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    *
    *

    Dosbarthiad y blew

    1. syth
    2. cyrliog
    3. cyrliog iawn

    Math o flew

    1. corflew
    2. manflew

    Dosbarthiad y croen

    1. Graddfa Fitzpatrick
    2. Phenoteip a genoteip
    3. Graddfa Lancer

    Math o groen

    1. sych
    2. olewog
    3. cyfuniad
    4. cytbwys


    Cyflwr y croen

    1. hydwythedd llac
    2. gorliwio a thanliwio
    3. sensiteiddiedig
    4. sensitif
    5. wedi sychu
    6. bregus
    7. fasgwlaidd

    Nodwydd

    1. un darn
    2. dau ddarn
    3. wedi ynysu

    4. aur

    5. dur gwrthstaen

    *
    *

    Cyfarwyddiadau

    1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

    2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

    3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

    4. triniaethau yn y dyfodol

    Anatomeg a Ffisioleg

    *
    *

    1.  strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd

    2.   gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

    3.   strwythur a swyddogaeth blew a'r ffactorau sy'n effeithio ar gylch tŵf y blew









    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Anatomeg a Ffisioleg

    Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

    Cyflwr croen sensitif

    Cynnydd mewn adweithedd capilaraidd genetig a newid yn y swyddogaeth rhwystr gan arwain at freuder epidermal cynhenid.

    Cyflwr croen sensiteiddiedig

    Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad i ffactorau amgylcheddol ac sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw sydd naill ai'n cynyddu cytocinau llidiol a modylyddion neu atal y rhwystr croen


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1



    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABT26

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    tynnu blew’n drydanol, dull o gael gwared o flew, thermolysis/trydwymo tonfedd fer (cerrynt eiledol) galfanig (cerrynt union) cymysgedd