Darparu triniaethau i’r amrannau a’r aeliau
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol sy'n darparu triniaethau i'r amrannau a'r aeliau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol., i gynnwys, darparu ymateb cymorth cyntaf os bydd digwyddiad niweidiol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Siapio'r aeliau
- Lliwio'r amrannau a'r aeliau gan ddefnyddio arlliw i'r amrant a'r ael
- Dodi aeliau clwstwr a'u tynnu i ffwrdd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r amrannau a'r aeliau a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben triniaethau i’r amrant a’r ael, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.4 disgwyliadau'r unigolyn
- sut i fesur aeliau'r llygad ac adnabod strwythur anatomegol a nodweddion yr wyneb, i gynnwys:
8.1 y mathau o siapiau i'r ael a'r amrannau a sut maent yn dylanwadu ar ddimensiynau'r wyneb
8.2 sut i gael cymesuredd a chydbwysedd
9. sut mae patrynau tŵf y blew yn dylanwadu ar ganlyniadau’r driniaeth
10. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaethau i’r amrant a’r ael i’r wyneb a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth i'r amrant a'r ael
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i'r amrant a'r ael
13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
14. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
15. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth i’r amrant a’r ael
16. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r amrant a'r ael
17. sut y gall chwyddo man triniaeth yr unigolyn a thaflu goleuni arno gefnogi'r driniaeth i siapio'r ael
18. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
19. y mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau i'r amrant a'r ael, i gynnwys:
19.1 sut mae ocsideiddio yn effeithio ar ba mor hir mae arlliw yn parhau
19.2 sut all dosbarthiad a nodweddion y blew effeithio ar y dewis o liw ac amser datblygu'r arlliw
20. cyfansoddiad yr henna a ddefnyddir i liwio blew'r ael a'r risgiau cysylltiedig i iechyd, i gynnwys:
20.1 pam bod henna yn anaddas ar gyfer amrannau
21. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
22. diben profion a’r rhesymau pam bod rhaid i chi wneud prawf gan ddefnyddio’r cynnyrch sydd i’w ddefnyddio
23. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r amrant a'r ael
24. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
25. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
26. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth i'w amrant a'i ael
27. canlyniadau disgwyliedig triniaethau i'r amrant a'r ael
28. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
29. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth i'r amrant a'r ael
30. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth i'r amrant a'r
Cwmpas/ystod
Profion
- prawf(profion) croen ar gyfer y cynnyrch sydd i'w defnyddio
- prawf sensitifrwydd
- prawf rhybudd o alergedd
*
*Adweithiau Niweidiol
- gwaedu
- y ddanadfrech
- crafiadau
- difrod i'r llygad
- llid y llygad
- chwydd gwyn
- colli amrant
- dallineb
- alergedd
*
*Protocol triniaeth i'r amrant a'r ael
1.amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
*
**
**
**
**
*Dosbarthiad o'r blew
- syth
- cyrliog
- cyrliog iawn
Lliw blew
- teg
- coch
- tywyll
- gwyn
Math o flew
- corflew
- manflew
Patrwm t*ŵ*f y blew
- cyfeiriad y tŵf
- colli blew
Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
strwythur a swyddogaeth y blew a chylch tŵf y blew
strwythur a swyddogaethau'r croen
- anatomeg a ffisioleg y corff dynol
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr'
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1