1. y gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn creu darnau ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
2. sut i gadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
3. y mathau o wallt ychwanegol sydd ar gael, eu manteision, cyfyngiadau ac ystyriaethau moesegol
4. sut i gael gafael ar wallt ychwanegol a chysylltu â chyflenwyr
5. sut i gofnodi a gwerthuso ffactorau ymgynghori er mwyn cwrdd â gofynion yr unigolion a hysbysu ynglŷn ag addasrwydd ar gyfer y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio a ddewiswyd i gynnwys :
5.1 yr amcanion, steil, hyd a lliw a ddymunir
5.2 cyflwr a sensitifrwydd croen y pen
5.3 maint y pen a siap yr wyneb
5.3 tôn y croen a lliw’r gwallt sy’n bodoli
5.4 math o wallt yr unigolion a'i wëad a’i ddwysedd
5.5 patrymau tŵf y gwallt
5.6 cydnabyddiaeth o gyflwr colli gwallt sy’n bodoli a’r prognosis tebygol
5.7 ystyriaeth o ffordd o fyw’r unigolyn
5.8 cyfyngiadau cyllidebol
5.9 defnydd o wallt naturiol neu artiffisial
5.10 mathau o sylfaen gwallt gosod ac estyniadau i’r gwallt sydd ar gael
5.11 mathau o atodiadau i’w defnyddio
5.12 gwrtharwyddion i’r gwasanaeth
5.13 iechyd a lles yr unigolyn
6. pwysigrwydd sicrhau cytundeb a chadarnhad o’r cyfarwyddiadau dylunio terfynol, yn cynnwys y math o sylfaen, math o wallt a’i liw, steil a siap, costau ac amserlenni ar gyfer creu’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio *
7. y mathau o addasiadau rhesymol all fod yn angenrheidiol er mwyn personoleiddio’r edrychiad gorffenedig a chyfyngiadau’r newidiadau ellir eu gwneud a’u maint
8. amrediad a defnydd yr offer a’r cyfarpar gellir eu defnyddio i greu’r *darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio *
9. sut i gymryd mesuriadau o gylchedd croen y pen a gwneud templed o’r rhan o groen y pen sydd i’w orchuddio
10. sut i greu sylfaen gan ddilyn y templed a’r mesuriadau a sut a ble i sicrhau pwyntiau atodi
11. pam fod rhaid i’r gwallt ychwanegol sydd i’w ddefnyddio gael ei baratoi cyn ei ddefnyddio, pam fod rhaid iddo fod yn gywir o’r gwraidd i’r pwynt ac wedi’i sicrhau rhwng mat llunio
12. y technegau sydd eu hangen i greu’r amrywiaeth o *ddarnau ychwanegol i’r gwallt wedi eu teilwrio i greu’r cyfarwyddiadau dylunio, gan gymryd i ystyriaeth y canlynol
12.1 cyfuniad a lleoliad y gwallt ychwanegol o liw gwahanol
12.2 cyfeiriad a dwysedd lleoliad y gwallt
12.3 cynhwysiad a safle’r atodiadau
13. y technegau torri y gellir eu defnyddio i greu’r siap a’r steil, eu cyfyngiadau a sut i gyflawni’r rhain ar ddarn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
14. y technegau a’r cyfarpar a ddefnyddir i greu’r gwëad neu’r cyrl a ddymunir er mwyn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio a chyfyngiadau’r rhai sy’n ymwneud â’r math o wallt a’r defnydd o brosesu gwres neu gemegol.
15. y technegau a’r cyfarpar a ddefnyddir er mwyn newid lliw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio, a chyfyngiadau’r rhain
16. pwysigrwydd sicrhau bod y darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio gorffenedig yn cwrdd â’r cyfarwyddiadau dylunio a sut i wneud unrhyw addasiadau rhesymol i gwrdd â gofynion yr unigolion i bersonoleiddio’r edrychiad gorffenedig.
17. sut i ffitio a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio
18. y math o gyngor i’w roi i’r unigolyn er mwyn cynnal a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio i gynnwys:
18.1 dulliau o lanhau a chyflyru a pha mor aml dylid gwneud hynny
18.2 y defnydd o gynnyrch ar gyfer glanhau, cyflyru, steilio a gorffen a’u cyfyngiadau
18.3 y defnydd o steilio a gorffen wedi eu gwresogi a’u cyfyngiadau
18.4 sut i gadw darnau ychwanegol i’r gwallt wedi eu teilwrio y gellir cael gwared â hwy
18.5 pryd i ddychwelyd ar gyfer cynnal a chadw pellach
19. sut i gynnal a chadw’r darn ychwanegol i’r gwallt wedi’i deilwrio i gynnwys
19.1 glanhau ac ailsteilio
19.2 adfer rhannau sydd wedi eu difrodi
19.3 addasu’r maint a’r ffit
19.4 ail-leoli a sicrhau
19.5 gwaredu
20. y math o wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data
21. sut a phryd i gyfeirio’r unigolyn at bobl broffesiynol eraill pan mae ffactorau ymgynghori yn mynd y tu hwnt i rychant eich ymarfer a pham ddylid gwneud hynny