Dewis, ffitio a chynnal darnau ychwanegol i’r gwallt

URN: SKAATS3
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro,Tricoleg
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​​Mae'r safon yma'n ymwneud â'ch gallu i ddewis, ffitio a chynnal gwahanol fathau o ddarnau ychwanegol i'r gwallt er mwyn darparu amrywiaeth o atebion i newid dwysedd y gwallt neu orchuddio'r gwallt a chroen y pen o ganlyniad i golli'r gwallt. Bydd hyn yn golygu gwneud ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn er mwyn penderfynu ar ofynion yr ungolyn a'i addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth. Bydd gofyn i chi ddeall manteision a chyfyngiadau'r darnau ychwanegol i'r gwallt, y gwahanol dechnegau atodi a dodi a dulliau cynnal a chadw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1.  dilyn gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
3. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda’r unigolyn er mwyn penderfynu eu hanghenion a’u haddasrwydd gan gymryd i ystyriaeth 
3.1 yr amcanion, dull, hyd a lliw a ddymunir
3.2 cyflwr y croen a chroen y pen
3.3 maint y pen a siap yr wyneb
3.4 tôn y croen a’r lliw gwallt sy’n bodoli ar hyn o bryd
3.5 y math o wallt sydd gan yr unigolyn, y gwëad a’r dwysedd
3.6 patrymau tŵf y gwallt
3.7  cydnabyddiaeth o gyflwr colli gwallt sy’n bodoli eisoes a’u prognosis
3.8 ystyriaeth o’r amgylchedd a’r ffordd o fyw
3.9 cyfyngiadau cyllidebol
3.10 defnydd o wallt naturiol neu artiffisial
3.11 mathau o sylfaen gwallt gosod ac estyniadau i’r gwallt
3.12 mathau o atodiadau i’w defnyddio
3.13  gwrtharwyddion i’r gwasanaeth
3.14 iechyd a lles yr unigolyn
3. trafod a darparu cyngor ynglŷn ag addasrwydd yn siliedig ar ganlyniadau’r yngynghoriad 
4. trafod a darparu cyngor ynglŷn ag addasrwydd yn siliedig ar ganlyniadau’r yngynghoriad 
5. hysbysu’r unigolyn o’r gweithdrefnau a’r strwythur taliadau ar gyfer ffitio a chynnal y darnau ychwanegol i’r gwallt 
6. caniatau amser i’r unigolyn ddethol a dewis o amrywiaeth o ddarnau ychwanegol i’r gwallt i gwrdd â’u gofynion a’r steil a ddymunir 
7. cadarnhau a chytuno ar y darn ychwanegol i’r gwallt sydd wedi’i ddewis
8. paratoi, sicrhau a rhannu gwallt a chroen pen yr unigolion i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth 
9. profi croen yr unigolion am adweithiau anffafriol posibl i ludyddion, hufennau tynnu blew a gwallt ychwanegol a chofnodi’r canlyniad 
10. paratoi darnau o’r gwallt er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd eu ffitio neu eu dodi yn ystod y gwasanaeth 
11. dodi’r unigolyn mewn safle gyfforddus er mwyn dodi’r darn ychwanegol i’r gwallt i gadw’r unigolyn mor gyfforddus â phosibl 
12. dewis a defnyddio offer a chyfarpar priodol i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth 
13. ffitio ac atodi’r darn ychwanegol i’r gwallt gan ddefnyddio technegau priodol  
14. sicrhau bod y darn ychwanegol i’r gwallt yn ffitio’n ddiogel heb achosi tyndra gormodol i’r gwallt a chroen y pen, ac anghysur i’r unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
15. addasu neu gael gwared o unrhyw ddarnau ychwanegol i’r gwallt fel bo angen er mwyn sicrhau cysur a heb achosi difrod i’r gwallt neu groen y pen 
16. cadarnhau bodlonrwydd yr unigolyn gyda’r edrychiad gorffenedig 
17.  darparu cyngor ar ôl y driniaeth i gynnal y darn ychwanegol i’r gwallt er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n hir ac i gadw’r difrod i wallt a chroen pen yr unigolion cyn lleied â phosibl, i gynnwys
17.1 dulliau o lanhau a chyflyru a pha mor aml dylid eu defnyddio 
17.2   y defnydd o gynnyrch ar gyfer glanhau, cyflyru, steilio a gorffen a’u cyfyngiadau 
17.3 y defnydd o steilio a gorffen wedi eu gwresogi a’u cyfyngiadau 
17.4 sut i dynnu a chadw darnau ychwanegol i’r gwallt y gellir cael gwared o hwy 
17.5 pryd i ddychwelyd ar gyfer cynnal a chadw pellach, addasu neu gael gwared o ddarnau ychwanegol i’r gwallt
17.6 addasrwydd i dorri, steilio a lliwio’r darn ychwanegol i’r gwallt a phwy all wneud hyn 
18. cwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data 
19. cyfeirio’r unigolyn at bobl broffesiynol eraill fel bo gofyn os oes angen gwasanaethau eraill y tu hwnt i rychwant eich ymarfer 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn darparu gwasanaethau darnau ychwanegol i’r gwallt 
2. sut i gadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaethau darnau ychwanegol i’r gwallt 
3. sut i ddod o hyd i gyflenwyr a chysylltu â hwy
4. pwysigrwydd cofnodi a gwerthuso’r ffactorau sy’n codi o’r ymgynghoriad, ar gyfer y darnau ychwanegol a ddewiswyd, i gynnwys:
4.1 yr amcanion, steil, hyd a lliw a ddymunir
4.2 cyflwr a sensitifrwydd croen y pen
4.3 maint y pen a siap yr wyneb
4.4 tôn y croen a lliw’r gwallt sy’n bodoli
4.5 math o wallt, gwëad a dwysedd yr unigolion
4.6 patrymau tŵf y gwallt
4.7 cydnabyddiaeth o gyflwr colli gwallt sy’n bodoli a’u prognosis 
4.8 ystyriaeth o amgylchedd a ffordd o fyw
4.9 cyfyngiadau cyllidebol
4.10 defnydd o wallt naturiol neu artiffisial
4.11 mathau o sylfaen gwallt gosod ac estyniadau i’r gwallt sydd ar gael
4.12 mathau o atodiadau i’w defnyddio
4.13  gwrtharwyddion i’r gwasanaeth
4.14 iechyd a lles yr unigolyn
5. pam ei fod yn bwysig dogfennu a chofnodi’r mannau lle mae gwallt eisoes wedi’i golli cyn ffitio’r darn ychwanegol i’r gwallt a chadarnhau a fydd y gwallt yn parhau i gael ei golli’n naturiol tra gwisgir y darn ychwanegol i’r gwallt *
6. y technegau cyfathrebu a sut i addasu’r rhain ar sail anghenion yr unigolion
7. yr angen i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â gweithdrefnau ffitio a chynnal a chadw, strwythur taliadau a’r effeithiau niweidiol posibl ar y *darn ychwanegol i’r gwallt a gwallt a chroen pen yr unigolion fel ag y maent ar hyn o bryd 
8. pwysigrwydd caniatau amser i’r unigolyn ddewis a dethol o amrywiaeth o* ddarnau ychwanegol i’r gwallt 
9. yr hawliau unigol a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gwerthu a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau
10. yr angen i gadarnhau a chytuno ar y *darn ychwanegol i’r gwallt a ddewiswyd cyn symud ymlaen at unrhyw bersonoleiddio a newid i’r darn ychwanegol i’r gwallt *
11.  sut i baratoi, sicrhau a rhannu gwallt a chroen pen yr unigolion i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth
12. sut i baratoi a chyflawni profion a chofnodi’r canfyddiadau
13. sut dylai darnau ychwanegol i’r gwallt* gael eu paratoi er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w ffitio neu eu dodi ac i gynorthwyo safleoli yn gywir ac osgoi eu gwneud yn glymau 
14. pwysigrwydd lleoli’r unigolyn mewn safle gyfforddus er mwyn dodi’r darn ychwanegol i’r gwallt *
15. y mathau o offer a chyfarpar priodol er mwyn cwrdd ag anghenion y gwasanaeth 
16. y technegau a ddefnyddir i rannu a thrin gwalltiau’r unigolion, ac i ffitio ac atodi’r *darn ychwanegol i’r gwallt *
17. pam fod angen i gyfeiriad a safle’r *darn ychwanegol i’r gwallt gael ei ystyried mewn perthynas â chyfeiriad tŵf gwallt yr unigolion eu hunain er mwyn eu cadw’n gyfforddus a gorffeniad effeithiol 
18. sut i sicrhau bod y* darn ychwanegol i’r gwallt yn ffitio’n ddiogel heb achosi tyndra gormodol i’r gwallt a chroen y pen, nac achosi i’r unigolyn deimlo’n anghyfforddus yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
19. y risgiau a’r arwyddion o golli gwallt drwy dyniant
20. sut i addasu a chael gwared o ddarnau ychwanegol i’r gwallt* heb achosi difrod i’r gwallt neu groen y pen 
21. pwysigrwydd cadarnhau bodlonrwydd yr unigolion gyda’r edrychiad gorffenedig
22. y mathau o gyngor ar ôl-ofal a ddarperir ar gyfer cynnal y darn ychwanegol i’r gwallt *a phwysigrwydd hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n hir a chadw’r difrod i wallt a chroen pen yr unigolion mor isel â phosibl yn cynnwys:
22.1 dulliau o lanhau a chyflyru a pha mor aml dylid gwneud hynny 
22.2 y defnydd o gynnyrch ar gyfer glanhau, cyflyru, steilio a gorffen a’u cyfyngiadau
22.3 y defnydd o steilio a gorffen wedi eu gwresogi a’u cyfyngiadau
22.4 breuder ac effaith gwres a hindreuliad ar y darn ychwanegol i’r gwallt
22.5 sut i dynnu darnau ychwanegol i’r gwallt a’u cadw
22.6 pryd i ddychwelyd ar gyfer cynnal a chadw pellach o’r darnau ychwanegol i’r gwallt, eu haddasu neu gael gwared â hwy
22.7 addasrwydd i dorri, steilio a lliwio’r darn ychwanegol i’r gwallt a phwy sy’n gallu gwneud hyn 
23. y math o wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data
24. sut a phryd i gyfeirio’r unigolyn at *bobl broffesiynol eraill pan mae ffactorau yngynghori yn mynd y tu hwnt i rychwant eich ymarfer a pham dylid gwneud hynny


Cwmpas/ystod


Darnau ychwanegol i’r gwallt
*
Gwalltiau gosod
Rhannau uchaf a darnau rhannol o’r gwallt
Systemau’r gwallt wedu eu hintegreiddio
Estyniadau i‘r gwallt
Darnau o flew’r wyneb

Pobl broffesiynol

*
Tricolegydd
Meddyg teulu 
Dermatolegydd
Steiliwr gwallt neu farbwr 
Seicolegydd/cynghorydd
Llawfeddyg trawsblannu gwallt
Ymarferydd Esthetig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATS3

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Darn ychwanegol i’r gwallt