Cyflawni Triniaethau Tricolegol i groen y pen ar gyfer Cyflyrau o Groen y Pen

URN: SKAATS2
Sectorau Busnes (Suites): Tricoleg
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKATCS1 SKAATS1 Gwneud Ymchwiliadau Tricolegol wedi eu ehangu a dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r rheiny. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr sy’n darparu gwasanaeth triniaeth i groen y pen er mwyn gwella cyflwr anffafriol croen y pen. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma allu adnabod y cyflwr y maent yn bwriadu ei drin a deall yr arwyddion ffisiolegol a therapiwtig a phriodoldeb pob agwedd o’r driniaeth i groen y pen. Rhaid i ymarferwyr weithio o fewn rhychwant a chyfyngiadau eu hawdurdod a chyfeirio unigolion at bobl broffesiynol berthnasol ym maes gofal iechyd pan fo angen. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, tystiolaeth, polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf sy’n briodol ar gyfer y triniaethau yma. Lle mae Sylfaen y dystiolaeth yn gyfyngedig neu’n anecdotaidd rhaid gwneud hyn yn glir i’r unigolyn sy’n ceisio eich gwasanaethau. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar eich ymarfer a chymryd camau i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad parhaus. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. dilyn gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn cyflawni gwasanaethau triniaeth i groen y pen *
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, glanwaith a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y *gwasanaeth triniaeth i groen y pen *
3. adolygu’r ymgynghoriad triciolegol ac unrhyw ymchwiliadau triciolegol, sefydlu a chadarnhau addasrwydd yr unigolyn ar gyfer triniaeth i gynnwys:
3.1 pryderon, arwyddion yr unigolion a’r symptomau a brofwyd 3.2 disgwyliadau’r unigolion a’r canlyniadau a ddymunir 
4. penderfynu ar y *cyflyrau i groen y pen a gyflwynir, eu difrifoldeb a’u heffaith 
5. gwerthuso dosbarthiad y gwallt a’r croen *
6. gwerthuso unrhyw wrtharwyddion llwyr neu gymharol mewn perthynas â thriniaeth 
7. nodi pryd mae *atgyfeiriad pellach er lles gorau’r unigolyn
8. trafod y mathau o wasanaethau triniaeth i groen y pen sydd ar gael gyda’r unigolyn er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau ar y cyd, i gynnwys:
8.1 y dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi’r driniaeth 
8.2 nodweddion, manteision a risgiau’r driniaeth 
8.3 y teimladau posibl y gellir eu disgwyl yn ystod triniaeth i groen y pen
8.4 canlyniadau’r driniaeth
9. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn eu bod wedi deall y gwasanaeth triniaeth i groen y pen sydd wedi’i gynllunio 
10. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn ei fod wedi deall y strwythur taliadau a gysylltir gyda’r g*wasanaeth trin croen y pen, ac unrhyw driniaethau i groen y pen fydd eu hangen wedi hynny 
11. caniatau amser i’r unigolyn wneud penderfyniad gwybodus a sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn i’r gwasanaeth triniaeth i groen y pen a gytunwyd 
12. paratoi’r unigolyn, ei wallt a chroen ei ben er mwyn cwrdd ag anghenion y gwasanaeth, gan gadw urddas a pharch, a’i gadw mor gyfforddus â phosibl 
13. dewis a pharatoi’r cynnyrch a’r cyfarpar priodol yn unol â’r *gwasanaeth triniaeth i groen y pen a gytunwyd 
14. cyflawni’r driniaeth yn unol â’r protocolau cyfundrefnol a gytunwyd ar gyfer y gwasanaeth triniaeth i groen y pen gan sicrhau ei ddefnyddio a thrin y gwallt mewn modd trefnus 
15. monitro lles yr unigolyn drwy gydol y driniaeth 
16. monitro cynnydd y driniaeth a chymryd y camau cywir os bydd adwaith anffafriol i’r driniaeth 
17. cael gwared o gynnyrch a dŵr gormodol o’r gwallt a chroen y pen ar ddiwedd y gwasanaeth triniaeth i groen y pen, gan sicrhau bod y gwallt wedi ei ddatglymu a’i sychu er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn ac yn unol â phrotocolau cyfundrefnol a gytunwyd.
18. cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolion yn unol â gofynion yswiriant, polisïau cyfundrefnol, a gweithdrefnau 
19. darparu cyngor ar ôl triniaeth a gofal i’r unigolyn i gynnwys:
19.1 amddiffyn croen y pen rhag adweithiau ffotosensitif 
19.2 y mathau o gynnyrch ar ôl triniaeth neu ofal yn y cartref ar gyfer gofal o’r gwallt a chroen y pen a’u manteision a’u defnydd, 
19.3 triniaethau pellach i groen y pen sydd eu hangen a phryd i ddychwelyd 
20. cadarnhau a chofnodi adborth yr unigolion, gan gynnwys newidiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 
21. cwblhau cofnodion yr unigolion a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data 
22. cyfeirio’r unigolyn at bobl broffesiynol eraill ar gyfer ymchwiliad pellach neu ymyriadau fel bo gofyn 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y gofynion cyfreithiol a safonau perthnasol eraill, canllawiau yswiriant a, phrotocolau cyfundrefnol pan yn cyflawni gwasanaethau triniaeth i groen y pen *
2. sut i gadw at eich cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch, a lles yr unigolyn cyn, yn ystod ac ar ôl y *gwasanaeth triniaeth i groen y pen 
3. y ffactorau sy’n dylanwadu ar addasrwydd yr unigolyn ar gyfer gwasanaeth triniaeth i groen y pen, i gynnwys:
3.1  yr angen i fynd i’r afael ag amcanion a phryderon yr unigolyn 
3.2 asesiad o’r arwyddion, symptomau ac arwyddion sy’n gysylltiedig â chyflyrau o groen y pen *
3.3 asesiad o *ddosbarthiad y gwallt a chroen y pen *
3.4 asesiad o’r *gwrtharwyddion llwyr neu gymharol i driniaeth croen y pen 
3.5 pan fo angen atgyfeiriad pellach a phwysigrwydd peidio ag oedi pryd y gellir cael hyn 
3.6 gweithredu er lles gorau’r unigolyn a’ch cyfrifoldebau moesegol 
3.7 cyfyngiadau rhychwant eich ymarfer 
4. yr amrywiaeth o wasanaethau triniaeth i groen y pen i gynnwys:
4.1 y dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi’r driniaeth 
4.2 nodweddion, manteision a risgiau’r driniaeth 
4.3 teimladau a chanlyniadau disgwyliedig y driniaeth 
5. pwysigrwydd cadarnhau dealltwriaeth yr unigolion a sicrhau eu cydsyniad i wasanaethau trin croen y pen *
6. pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus cyn y *gwasanaeth triniaeth i groen y pen.
7. y paratoi sydd ei angen i’r unigolyn a’r gwallt a chroen y pen, er mwyn cwrdd ag anghenion y gwasanaeth a sut i gadw ei urddas a pharch a’i gadw mor gyfforddus â phosibl.
8. sut i ddewis a pharatoi cynnyrch, offer, cyfarpar yn unol â phrotocolau cyfundrefnol pan yn gwneud gwasanaethau triniaeth i groen y pen *
9. sut i werthuso arwyddion gwahanol wasanaethau triniaeth i groen y pen i:
9.1 arwyddion ffisiolegol a therapiwtig ac effeithiau cynnyrch a ddodir ar groen y pen 
9.2 arwyddion ffisiolegol a therapiwtig ac effeithiau golau gweledig, laser lefel isel a dyfeisiadau gwres 
9.3 egwyddorion cydadweithiau meinwe ysgafn
9.4 sut mae golau gweledig, laser lefel isel a thonfeddi ac allbynnau dyfais gwres yn cael eu mynegi
9.5 y peryglon a gysylltir gydag ymbelydredd optegol a therapïau gwres a’r rhagofalon angenrheidiol 
9.6 y gofynion deddfwriaethol, cynnal a chadw a chydymffurfio ar gyfer defnyddio dyfeisiadau sy’n allyrru golau gweledig, laser lefel isel a gwres 
9.7 yr angen i weithredu mewn modd trefnus a systematig 
9.8 yr angen am amseru a gwaredu cywir yn ystod pob cam o’r *gwasanaeth triniaeth i groen y pen *
10. pwysigrwydd monitro lles yr unigolyn drwy gydol y driniaeth 
11. sut i fonitro cynnydd y driniaeth a chymryd y camau cywir os bydd adwaith anffafriol i’r driniaeth i groen y pen 
12. pam ddylid cael gwared o gynnyrch a dŵr gormodol yn drylwyr o’r gwallt a chroen y pen ar ddiwedd y *driniaeth i groen y pen *
13. sut i ddatglymu gwallt a sychu’r gwallt i gwrdd ag anghenion yr unigolyn a phrotocolau cyfundrefnol a gytunwyd.
14. gofynion ar gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn mewn modd diogel yn unol â gofynion yswiriant, polisïau cyfundrefnol, a gweithdrefnau 
15. y math o wybodaeth i’w darparu i’r unigolyn fel y cyngor a’r gofal ar ôl y driniaeth i:
15.1 amddiffyn croen y pen rhag adweithiau ffotosensitif posibl 
15.2 y mathau o gynnyrch ar ôl triniaeth neu ofal yn y cartref ar gyfer gofal o’r gwallt a chroen y pen a’u manteision a’u defnydd a pha rai dylid eu hosgoi 
15.3 triniaethau pellach i groen y pen sydd eu hangen a phryd i ddychwelyd 
16. pwysigrwydd cadarnhau a chofnodi adborth yr unigolyn, gan gynnwys newidiadau i driniaethau yn y dyfodol 
17. sut i gwblhau cofnodion yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data 
18. pryd gall ymchwiliad meddygol pellach, triniaeth ac atgyfeiriad fod yn angenrheidiol, a’r prosesau ar gyfer hynny i gynnwys:
18.1 pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer rhannu gwybodaeth berthnasol gyda phobl broffesiynol eraill 
18.2 y wybodaeth i’w chynnwys yr yr atgyfeiriad 
19. pwysigrwydd arferion gweithio ar y cyd 
20. y wyddoniaeth gosmetig sylfaenol a dealltwriaeth o’r cynnyrch sy’n berthnasol i’r safon yma i gynnwys:
20.1 fformiwleiddiadau, cynhwysion gweithredol a chydadweithiau *cynnyrch ar gyfer croen y pen
20.2 y gwahaniaeth rhwng meddyginiaethau dros y cownter, rhai fferyllfa a rhai sydd ond ar gael ar bresgripsiwn sydd ar gael ar gyfer cyflyrau croen y pen a chyfyngiadau eich awdurdod 
20.3 ffactorau sy’n effeithio ar dreiddiad ac amsugniad y croen 
20.4 sut i ddehongli tystiolaeth a honiadau am y cynnyrch 
21. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma i gynnwys:
21.1 y croen, yr uned pilosebaceaidd a chylch tŵf y gwallt 
21.2 ffactorau sy’n effeithio ar drosiant yr uwchgroen a’r swyddogaeth rwystro 
21.3  imiwnioleg y croen a ffoligl y gwallt 
21.4 cylchrediad sgerbydol, cyhyrol a’r gwaed ar gyfer y pen a chroen y pen
21.5 meicrobiom croen y pen a’r croen 
21.6 etioleg cyflyrau croen y pen
21.7 yr effeithiau biolegol ac amgylcheddol ar heneiddio’r croen 
21.8 dylanwad pH ar y croen a chroen y pen


Cwmpas/ystod

Atgyfeiriad
1. Cydweithiwr uwch
2. Meddyg teulu
3. Dermatolegwyr
4. Cwnselydd/ ymarferydd seicolegol
5. Endocrinolegydd
6. Diategydd
7. Labordai fflebotomi
8. Arbenigwyr ar Feicroliwiad croen y pen 
9. Gwneuthurwyr gwallt gosod

Gwasanaethau Triniaeth i Groen y Pen
1. Dodi’r cynnyrch i groen y pen ar y rhannau o groen y pen sydd wedi eu heffeithio 
2. Dodi cynnyrch y gwallt i gynorthwyo cyflwr y gwallt 
3. Defnyddio  stêm er mwyn cynorthwyo treiddiad a meddalu’r raddfa sy’n bresennol 
4. Codi’r cen adlynol mewn modd tyner drwy gyfrwng y driniaeth
5. Dodi cyflyrydd sy’n cael ei adael yn y gwallt ar gynnyrch croen y pen
6. Defnydd o therapïau gwres
7. Defnydd o ddyfeisiadau golau gweledig 
8. Glanhau’r gwallt a chroen y pen er mwyn cael gwared o gynnyrch 
9. Technegau priodol ar gyfer tylino croen y pen/gwallt a siampŵ
 
Cyflyrau croen y pen
1. Cen
2. Llid y croen seimlifol 
3. Pityriasis amiantacea
4. Y cengroen
5. Pruritus/trichodynia
6. Ffolicwlitis

Dosbarthiad y gwallt a’r croen
1. Math o wallt: dwysedd, gweadedd a phatrymau cyrls 
2. Cyflwr y gwallt: mandylledd a hydwythedd
3. Math o groen: Dosbarthiad Fitzpatrick, Graddfa Glogau 

Gwrtharwyddion
1. Anafiadau amheus wedi eu codi neu eu lliwio 
2. Anhwylderau llidiol o groen y pen a cholli gwallt 
3. Heintiau a phlau
4. Poen isel/goddef gwres/ sensitifrwydd uchel o groen y pen
5. Alergedd i gynnyrch neu sensitifrwydd i gyswllt y gwyddir amdanynt 
6. Wedi bod yn agored yn ddiweddar i Uwch Fioled, ffotosensitifrwydd a meddyginiaethau/cynnyrch sy’n ffotosensiteiddio hanes o anafiadau cyn cancr neu ganseraidd

Cynnyrch ar gyfer Croen y Pen
1. Plicio cemegol a chyfryngau ceratolytaidd 
2. Cyfryngau gwrth gosi
3. Cyfryngau lleithio
4. Cyfryngau gwrthseptig
5. Cyfryngau glanhau a chyflyru
6. Cyfryngau gwrth gen
7. Meddyginiaeth gwrth ffyngaidd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Tystiolaeth sydd ar gael
y lefel orau o dystiolaeth sydd ar gael a dylid ei ddefnyddio ar gyfer hysbysu gwneud penderfyniadau, a phan nad yw hyn ar gael neu ond yn anecdotaidd, dylid gwneud hyn yn glir i’r unigolyn 

Atgyfeirio
yw gofyn i rywun arall ddarparu gofal, triniaethau neu wasanaethau eraill sydd y tu hwnt i rychwant ymarfer yr ymarferydd, neu ble mae’n berthnasol oherwydd bod yr unigolyn wedi gofyn am ail farn.

Rhychwant Ymarfer
y triniaethau, gweithredoedd a’r prosesau y caniateir i ymarferydd eu cyflawni yn unol â’u haddysg briodol, lefel eu harbenigedd a’u medrusrwydd.

Triciolegydd
Rhywun sydd â diddordeb mewn astudiaeth wyddonol o’r gwallt a chroen y pen: nid yw’n gofyn am gymhwyster ffurfiol fodd bynnag mae yna aelodaeth wirfoddol i ddynodi’r sawl sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant berthnasol.

Delweddau Gweledol
yn ymwneud â’r holl ddelweddau sydd wedi eu cofnodi gan gynnwys fideo, ffotograffiaeth a delweddau digidol meicrosgopaidd o’r gwallt a/neu groen y pen. Rhaid i hyn gael ei wneud gyda chydsyniad yr unigolyn.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAATS1, SKANSC1.2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATS2

Galwedigaethau Perthnasol

Tricolegwyr

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Tricoleg, gwyddoniaeth y gwallt, afiechydon y gwallt, anhwylderau’r gwallt