Gwneud Ymchwiliadau Tricolegol wedi eu ehangu
Trosolwg
Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKATCS1 Cynnal gwasanaeth ymgynghori tricolegol a dylid ei defnyddio ochr yn ochr â’r rheiny. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr a thricolegwyr sy’n darparu gwasanaeth tricolegol sy’n dymuno ehangu eu hymgynghoriad gydag ymchwiliad pellach a dadansoddi’n feirniadol, gwerthuso, penderfynu a rheoli cyflyrau o groen y pen a’r gwallt. Rhaid i ymarferwyr weithio o fewn rhychwant a chyfyngiadau eu hawdurdod a chyfeirio unigolion at bobl broffesiynol berthnasol ym maes gofal iechyd pan fo angen. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma feddu ar yr wybodaeth sylfaen berthnasol i ddeall etioleg a phathaffisioleg y cyflyrau triciolegol y maent yn edrych arnynt. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, tystiolaeth, polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf sy’n briodol ar gyfer y triniaethau yma, a lle mae’r sylfaen tystiolaeth yn gyfyngedig neu’n anecdotaidd rhaid gwneud hyn yn glir i’r unigolyn sy’n ceisio eich gwasanaethau. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar eich ymarfer a chymryd camau i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad parhaus. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
*
Graddfeydd Dosbarthu*
*1. Graddfa dosbarthu croen Fitzpatrick2. Offeryn difrifoldeb alopecia (SALT)3. Mynegrif difrifoldeb alopecia talcennol sy’n ffibrosio a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli alopecia creithiol4. Sinclair a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt i fenywod5. Norwood a graddfeydd eraill sy’n cynrychioli patrwm colli gwallt i wrywod6. Graddfa weledol analog pruritus7. Mynegrif difrifoldeb psoriasis wedi ei addasu (ar gyfer croen y pen)
Gwyddoniaeth Gysylltiedig*
*1. Anatomeg a ffisioleg yr uned pilosebaceaidd, croen y pen a’r pen2. Cyd-ddibyniaeth systemau ac organau’r corff, meinweoedd a threfniant y celloedd a homeostasis,3. Swyddogaeth rhwystro a rheoli’r croen, ac effaith anaf yn iachau4. Etioleg a phathaffisioleg anhwylderau’r gwallt a chroen y pen5. Ffactorau rheoleiddiol cylch tŵf y gwallt6. Egwyddorion sylfaenol etifeddiaeth a mynegiant enetig7. Egwyddorion sylfaenol dylanwad hormonaidd ac imiwnolegol ar anhwylderau’r gwallt a chroen y penSKAATS1 Gwneud Ymchwiliadau Triciolegol wedi eu ehangu 68. Egwyddorion sylfaenol paramedrau haematolegol a’u harwyddocad i iechyd, a lle bo angen atgyfeiriad.9. Egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth faethol, amsugno maetholion, rhyngweithiadau ac addysg ddeietegol10. Egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth gosmetig, yn cynnwys fformwleddiadau cynnyrch a gweithredoedd.
Arwyddion a phatrymau*
*1. Presenoldeb, colled a gweithgaredd y cibynnau2. Blew’r gwallt fesul uned gibynnol3. Amrywioldeb diamedr blew’r gwallt4. Nodweddion normal a chamfaethol blewyn a gwraidd y gwallt5. Presenoldeb, maint a lleoliad cochni6. Patrymau fasgiwlaidd o fewn croen y pen7. Presenoldeb, maint a lleoliad graddfa neu hyperkeratosis8. Arwyddion sy’n dynodi creithio a ffeibrosis9. Dadliwiad, gorliwiad neu danliwiad o’r gwallt a chroen y pen10. Anafiadau cynradd neu eilaidd i groen y pen11. Anafiadau diniwed ac amheus i groen y pen12. Presenoldeb llidiwr fu mewn cysylltiad neu ymateb i alergi13. Presenoldeb haint neu bla14. Fflworoleuedd ffyngol a hyphae15. Lleoliadau ar groen y pen sydd wedi eu heffiethio16. Patrymau colli gwallt gwasgaredig a chlytiog17. Gor-secretiad neu dan-secretiad o sebwm a chwys18. Arogl
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1.2