Gwerthuso canlyniadau ac effaith perfformiad ac arferion
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer adolygu a gwerthuso perfformiad ac arferion. Byddwch yn ymgysylltu â phobl sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn cefnogi a gwerthuso sesiynau a chyflwyno gan ddefnyddio technegau a strategaethau uwch. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu monitro perfformiad y rhai sy'n cymryd a gwerthuso'r effaith. Byddwch yn gallu meicnodi eich perfformiad yn erbyn sefydliadau cyffelyb, a safonau proffesiynol ac ystyried datblygiad cyfleodd a bygythiadau yn eich gwaith yn y.dyfodol.
I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredu arwyddocaol, gyda lefel gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fel gweithiwr llawrydd/masnachwr unigol.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros berfformiad y rhai sy'n cymryd rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan yn eich gweithgaredd a budd-ddeiliaid eraill er mwyn cefnogi gwerthusiad effeithiol o berfformiad ac arferion a'r effaith gaiff hyn ar y canlyniadau.
sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan a budd-ddeiliaid yn ymwybodol o'r canlyniadau a ddymunir
casglu a dadansoddi adborth a thystiolaeth mewn perthynas â chyflwyno a chyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
dangos dull di-duedd ar gyfer cael gwerthusiadau dilys gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill
monitro anghenion, ymddygiadau a disgwyliadau pobl sy'n cymryd rhan eisoes a rhai all wneud hynny a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad
mesur yr effaith ar y strategaethau yr ydych wedi eu defnyddio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn eich gweithgareddau drwy ddadansoddiad o'r data a gasglwyd
monitro gweithgareddau pobl sy'n cymryd rhan eisoes a rhai all wneud hynny a rhai sy'n cydweithredu, a gwerthuso eu heffaith ar eich sefydliad
meincnodi perfformiad ac arferion gyda sefydliadau cyffelyb yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
cymharu cryfderau a gwendidau eich sefydliad er mwyn ymateb i gyfleoedd a gwendidau eich sefydliad o ran perfformiad yn y presennol ac yn y dyfodol
trefnu gwybodaeth hysbysrwydd, gwybodaeth a thystiolaeth o ymarfer mewn modd sy'n cefnogi cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau ar gyfer perfformiad yn y dyfodol
edrych i mewn i newyddbethau, datblygiadau a gwersi a ddysgwyd er mwyn gwella perfformiad yn y dyfodol
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i ymgysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan a budd-ddeiliaid y rhaglen er mwyn cefnogi gwerthusiad effeithiol o berfformiadau ac arferion a'r effaith gaiff hyn ar y canlyniadau
perfformiad eich sefydliad a'r ffactorau sy'n effeithio ar hyn
pwysigrwydd dealltwriaeth y rhai sy'n cymryd rhan a'r budd-ddeiliaid o'r canlyniadau sydd angen eu gwerthuso
amrywiaeth o ddulliau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi adborth, tystiolaeth a data
sut i wneud dadansoddiad o'r ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, addysgegol, cyfreithiol, ac amgylcheddol all effeithio ar ymarfer yn y dyfodol a'i hysbysu
sut i fesur ac adolygu perfformiad eich sefydliad
sut i ddadansoddi data a deall sut gall hyn effeithio ar berfformiad o fewn eich sefydliad
amrywiaeth o ddulliau ar gyfer mesur effaith y strategaethau a'r ymyriadau drwy ddadansoddiad o ddangosyddion allweddol
damcaniaethau o ddysgu, addysgu, hyfforddi ac ymarfer adfyfyriol
sut i gyflawni meincnodi a dadansoddiad er mwyn nodi ymarfer dda
sut i lunio a mesur nodau perfformiad ar gyfer y dyfodol ac asesu eu goblygiadau
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAASPC1, SKAASPC2 and SKAASPC3