Hwyluso a chynnal rhaglenni ar gyfer yr unigolyn er mwyn ysbrydoli perfformiad gan ddefnyddio hyfforddiant
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr uwch er mwyn hwyluso a chyflwyno rhaglenni ar gyfer unigolion er mwyn gwella perfformiad. Byddwch yn defnyddio dulliau a strategaethau uwch er mwyn creu awyrgylch gadarnhaol, grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan, sicrhau bod y rhaglen yn berson-ganolog, yn benodol ac ar gyfer yr unigolyn, yn ogystal â defnyddio lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol er mwyn deall a chefnogi anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan. Fel ymarferydd uwch bydd angen i chi gymhwyso'r damcaniaethau a'r dulliau hyn yn ogystal â bod yn addasadwy a dangos lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan sydd ag anghenion penodol, lle mae angen lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
adeiladu cydberthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a sefydlu eich swyddogaeth eich hun
rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn ôl gofyniad y rhaglen a rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
creu llesiant corfforol, cymdeithasol a chadarnhaol sydd yn gadarnhaol ac yn rymusol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan
addasu eich ymarfer a defnyddio dull person ganolog er mwyn cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
gwneud yn siwr bod ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy a hyblyg wedi cael eu sefydlu gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch
unigoleiddio a gwahaniaethu cyflwyniad er mwyn cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
datblygu hinsawdd gymhellol gadarnhaol er mwyn cefnogi yr anghenion seicolegol a grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan o ran gwneud penderfyniadau
hwyluso datblygiad sgiliau a technegau ar sail damcaniaethau dysgu addas
addysgu, cyfarwyddo, hyfforddi a mentora pobl sy'n cymryd rhan i gyflawni anghenion, nodau ac amcanion gan ddefnyddio dulliau a strategaethau perthnasol
cyfathrebu gyda rhwydweithiau a gwasanathau'r diwydiant i gefnogi anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
11. defnyddio datblygiadau a chynnyrch technolegol i gefnogi eich cyflwyniad
cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill ar gam, mewn dull ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion
paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan i ymdopi gyda sefyllfaoedd disgwyliedig a rhai na ellid mo'u rhagweld
dangos lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r sefyllfa a dealltwriaeth o'r gofynion a wneir o'r rhai sy'n cymryd rhan
asesu a rheoli heriau cymhleth ac na ellid mo'u rhagweld gydag amgylchiadau cyfnewidiol
defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i roi adborth i'w helpu i ddysgu o'u profiad, i atgyfnerthu a chefnogi cynnydd a datblygiad pellach
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i sefydlu eich swyddogaeth eich hun gyda'r rhai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau o gyfathrebu
sut i greu a chynnal perthynas gadarnhaol, broffesiynol sy'n ennyn ymddiriedaeth gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn y modd maent yn cyflwyno'r rhaglen
y gwahanol dduliau gan gynnwys yr un person-ganolog, addysgeg, addysg oedolion a sut gellir eu cymhwyso i gwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
pwysigrwydd ffiniau effeithiol, addasadwy a hyblyg gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch
dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan
damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol
pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff ar y rhai sy'n cymryd rhan
damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd corfforol a modelau o seicoleg sy'n ymwneud â hwyluso a chyflwyno rhaglenni
damcaniaethau, dulliau a strategaethau perthnasol, sy'n datblygu dull person ganolog i hwyluso datblygiad sgil a thechneg.
amrywiaeth o wasnaaethau a rhwydweithiau i gefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan a sut i gael at y rhain
amrywiaeth o ddatblygiadau a chynnyrch technolegol all gefnogi cyflwyno rhaglenni
yr ystyriaethau cymdeithasol-economaidd, daearyddol, amgylcheddol a chyfreithiol mewn perthynas â rhoi technolegau ar waith
ystod eang o offer, strategaethau a thechnegau cyfathrebu addas fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gwrdd â'u hanghenion, nodau ac amcanion
beth a sut i gymhwyso deallusrwydd emosiynol a diwylliannol er mwyn ymgysylltu â phobl sy'n cymryd rhan mewn modd effeithiol
ymchwil a damcaniaethau perthnasol am grebwyll a gwneud penderfyniadau
17. ymwybyddiaeth o'r sefyllfa a dealltwriaeth o ofynion y rhaglen
pwysigrwydd monitro a rhagweld gofynion corfforol ac emosiynol y rhaglen
sut i asesu a rheoli problemau cymhleth ac na ellir mo'u rhagweld
yr amrywiaeth eang o ddulliau priodol i alluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i roi adborth i'w helpu hwy i ddysgu o'u profiad
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAASPC1, SKAASPC2 and SKAASPC4