Datblygu rhaglen ar gyfer yr unigolyn er mwyn gwella perfformiad gan ddefnyddio addysgeg hyfforddiant
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd mae ymarferwyr uwch ei angen er mwyn datblygu rhaglen ar gyfer yr unigolyn i ddarparu gwybodaeth ar gyfer perfformiad gan ddefnyddio addysgeg hyfforddiant. Y mae rhaglen person-ganolog ac un sydd ar gyfer yr unigolyn yn agwedd sylfaenol y mae'n rhaid i ymarferydd uwch ei hystyried a'i datblygu ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan er mwyn cyflawni eu hamcanion penodol. Gall yr anghenion hyn ymwneud ag iechyd, ffitrwydd, chwaraeon a/neu nodau sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Mae pob rhaglen wedi ei theilwrio i anghenion unigol y rhai sy'n cymryd rhan, nodau ac amcanion er mwyn gwneud y gorau o'u potensial, eu bod yn cydweddu ag egwyddorion cyfnodoli ac wedi ei chydosod gydag addysgeg/addysg oedolion hyfforddiant gredadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Y mae'n berthnasol ar gyfer cynllunio rhaglenni person-ganolog a rhaglenni ar gyfer yr unigolyn i grwpiau ac unigolion.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan sydd gyda gofynion penodol, lle mae gofyn am lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
dewis amgylchedd addas ar gyfer rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn trafod ac edrych ar anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan
cyfathrebu gyda'r un sy'n cymryd rhan ac eraill mewn modd sy'n briodol ar gyfer eu dealltwriaeth, hoffterau a'u hanghenion
datblygu hinsawdd gymhellol a chadarnhaol er mwyn cefnogi anghenion seicolegol a grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer gwneud penderfyniadau
trafod y rhaglen benodol gyda'r un sy'n cymryd rhan a sut y gall fod o gymorth i wneud y gorau o'u potensial
gwneud adolygiad cynhwysfawr o berfformiad cyfredol y rhai sy'n cymryd rhan, rhaglenni hyfforddi ac unrhyw heriau eraill all effeithio ar gynnydd
cysylltu gyda phobl broffesiynol eraill o'ch disgyblaeth eich hun a rhai eraill sydd yn berthnasol i'ch gwaith neu sydd â'r potensial i gyfrannu lle bo'n briodol
asesu anghenion a nodau cyflawn y rhai sy'n cymryd rhan, gan gymryd i ystyriaeth eu hamcanion a'u gorchestion allweddol drwy gydol y rhaglen
annog yr un sy'n cymryd rhan i fynegi a deall nodau posibl sy'n briodol i'w hanghenion, gallu a photensial
gwneud dadansoddiad bwlch fel rhan o'ch adolygiad
llunio rhaglenni ar gyfer yr unigolyn sy'n gydnaws ag egwyddorion cyfnodoli ac wedi eu cydosod gydag addysgeg/addysg oedolion hyfforddi sy'n seiliedig ar dystiolaeth
11. sicrhau cydsyniad gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill i luniad y rhaglen
nodi a chytuno ar y strategaethau hyfforddi trawsnewidiol sydd eu hangen er mwyn cyflawni rhaglen yr unigolyn sy'n cymryd rhan
cytuno ar bwyntiau adolygu a dulliau gwerthuso addas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill
cwblhau a chadw'r holl ddogfennau perthnasol yn unol â gofynion cyfundrefnol
gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. yr amgylcheddau mwyaf addas ar gyfer rhyngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill er mwyn trafod ac edrych i mewn i'w hanghenion
dulliau o wahaniaethau er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan
pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer cymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn llunio eu rhaglen
damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol
pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar y rhai sy'n cymryd rhan
sut i ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd gan y rhai sy'n cymryd rhan gan ddefnyddio dull person-ganolog
pobl broffesiynol eraill sydd ar gael o'ch disgyblaethau chi a rhai eraill all gefnogi eich gwaith gyda phobl sy'n cymryd rhan
sut i ddatblygu protocolau cyfathrebu gyda phobl broffesiynol eraill
pwysigrwydd gosod nodau mewn modd effeithiol
sut i ddatblygu strategaeth effeithiol ar gyfer gosod nodau
egwyddorion llunio rhaglen wedi ei chyfnodoli sy'n benodol i anghenion unigolyn, sy'n gynhwysol ac sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd
dulliau o gyflawni dadansoddiad bwlch a'i bwysigrwydd ar gyfer llunio'r holl raglen
gwahanol ddulliau gan gynnwys addysgeg/addysg oedolion a'r modd y'u defnyddir er mwyn llunio rhaglen ar gyfer yr unigolyn
damcaniaethau perthnasol am ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd a modelau o seicoleg sy'n rhan o gynllunio rhaglenni ar gyfer yr unigolyn
pwysigrwydd sicrhau cytundeb gan y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill i'r rhaglen ar gyfer yr unigolyn
y mathau o strategaethau hyfforddi trawsnewidiol
pwysigrwydd cytuno ar bwyntiau adolygu addas yn y rhaglen
y mathau o ddulliau adolygu gwerthusol sydd ar gael a sut y maent yn cysylltu â holl anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
sut i gwblhau'r holl ddogfennau a'u cadw'n ddiogel yn unol â gofynion cyfundrefnol
rhychwant a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu gyda SKAASPC1, SKAASPC3 a SKAASPC4