Cynllunio a llunio rhaglenni awyr agored ac antur arloesol

URN: SKAAODP2
Sectorau Busnes (Suites): Awyr agored uwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma'n disgrifio'r arbenigedd sydd ei angen i weithio gyda phobl sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid mewn lleoliadau awyr agored uwch. Llunio a chytuno ar nodau ar gyfer rhaglenni gweithgaredd awyr agored mewn lleoliadau uwch. Byddwch yn cyfarfod â'r sawl sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu budd-ddeiliaid ac yn cytuno ar eu hanghenion a'r hyn maent ei eisiau o'r rhaglen awyr agored drwy gytuno ar nodau addas. Drwy gymryd dull person-ganolog, byddwch yn llunio rhaglenni arloesol a fydd yn hyrwyddo manteision yr awyr agored mewn modd diogel a chynaliadwy tra'n cwrdd â disgwyliadau'r sawl sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu'r budd-ddeiliaid.

Cymeradwyir y safon yma i reolwyr ac ymarferwyr uwch sy'n gweithio yn yr awyr agored sy'n gallu gweithio gyda lefelau uchel o ymreolaeth ac annibyniaeth. Mae'r lleoliadau hyn yn gofyn am lefelau uwch o wybodaeth, sgiliau technegol a dulliau addysgegol. Gall lleoliadau uwch gynnwys gweithio gydag unigolion, plant a phobl ifanc ar gyfer y canlynol:

  • dibenion hamdden
  • profiadau anturus
  • dibenion addysgol
  • anghenion cyfundrefnol
  • datblygu sgiliau awyr agored
  • antur ymaddasol a chynhwysol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu modd effeithiol o gysylltu â'r rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid

  2. cynnal cyd-berthnasau gwaith gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid sy'n arwain at drafodaeth a negodi

  3. defnyddio amrywiaeth o strategaethau er mwyn tynnu ar wybodaeth berthnasol gan y rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid.

  4. dadansoddi gwybodaeth berthnasol a chytuno ar nodau priodol

5. sicrhau bod gan y rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid ddealltwriaeth gywir o'r nodau hyn a sut maent yn gysylltiedig â'u hanghenion cyffredinol

  1. sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid yn ymwybodol o'r amgylchedd awyr agored gynaliadwy, ei gwerth a'i manteision

  2. dadansoddi disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan, y cleientiaid a'r/neu'r budd-ddeiliaid sy'n adlewyrchu gallu a lefel sgil cyfredol a disgwyliedig y sawl sy'n cymryd rhan, yr amodau a'r amgylchedd

8. nodi a chytuno ar y canlynol:

8.1 lefelau o gymryd risg emosiynol a chorfforol

8.2 manteision arfaethedig y gweithgaredd

8.3 dulliau a strategaethau addysgu sy'n adlewyrchu anghenion yr unigolion

8.4 gyrrwyr cymhelliannol

8.5 strategaethau trosglwyddo dysgu lle bo'n briodol

8.6 gwerthusiad o'r rhaglen yn erbyn nodau ac amcanion a gytunwyd

8.7 unrhyw angen i ddilyn i fyny a chytuno ar amserlenni a chyfrifoldebau

9. cofnodi canlyniadau trafodaethau, nodau a gytunwyd a chyflawniad posibl y rhaglen

  1. llunio rhaglenni arloesol sy'n defnyddio gweithgareddau a thechnegau priodol, mewn amgylcheddau priodol, wedi eu cefnogi gan adroddiadau, ymchwil a damcaniaethau addas s

  2. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddefnyddio damcaniaethau o newid i lunio rhaglenni awyr agored ac antur
  2. pam ei bod yn bwysig ymchwilio a negodi nodau clir ar gyfer rhaglenni awyr agored ac antur
  3. gwahanol ddulliau o gysylltu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid a'u cryfderau a gwendidau cymharol
  4. sut i sefydlu a chynnal perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid sy'n llesol ar gyfer cyd-drafod a chydweithredu
  5. dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid
  6. sut i ddefnyddio lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol
  7. sut i ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd gan y rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid gan ddefnyddio dull person-ganolog neu gyfundrefn-ganolog
  8. y gwahanol ddulliau gan gynnwys addysgeg/addysg oedolion a sut y'u defnyddir ar gyfer cynllunio, llunio rhaglenni awyr agored ac antur arloesol
  9. pwysigrwydd llunio dulliau cyflwyno cynaliadwy sy'n gwarchod ein hamgylchedd a pham bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan, y cleientiaid a'r/neu budd-ddeiliaid ddeall hyn
  10. yr effaith gall yr awyr agored ei gael ar y rhai sy'n cymryd rhan a'r manteision y gall ei roi iddynt
  11. y mathau o wybodaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu nodau gyda'r rhai sy'n cymryd rhan, y cleientiaid a'r / neu'r budd-ddeiliaid
  12. pwysigrwydd dilysu gwybodaeth gan y rhai sy'n cymryd rhan, y cleientiaid a'r / neu'r budd-ddeiliaid a sut y gellir gwneud hyn.
  13. pwysigrwydd cytuno ar lefelau addas o gymryd risg emosiynol a chorfforol; nodi anghenion gwahanol ddysgwyr ac ymateb iddynt; yr hyn sy'n hyrwyddo cymhelliant, strategaethau trosglwyddo dysgu; gwerthuso
  14. amrywiaeth eang o ddulliau sydd ar gael ar gyfer cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan, cleientiaid a/neu fudd-ddeiliaid
  15. pam ei bod yn bwysig cofnodi canlyniadau trafodaethau lle caiff nodau eu llunio a chytuno arnynt
  16. prif ffynonellau a'r mathau o wybodaeth y gellir eu defnyddio er mwyn nodi anghenion ychwanegol ar gyfer rhaglenni awyr agored ac antur (er enghraifft, budd-ddeiliaid allanol, cwricwlwm cenedlaethol, gofynion corff llywodraethu cenedlaethol, rhaglenni datblygu mewnol y sefydliad ei hun)
  17. cymhwyso damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, pan yn cynllunio a llunio rhaglenni arloesol awyr agored ac antur
  18. sut i ddadansoddi adroddiadau, ymchwil a damcaniaethau yn feirniadol a'u cymhwyso ar gyfer llunio rhaglen
  19. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yma'n cysylltu gyda SKAAODP2 and SKAASPC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr awyr agored uwch

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cynllun; llunio; arloesol; awyr agored; antur; rhaglenni; hamdden