Darparu arweinyddiaeth yn eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu arweinyddiaeth a hwyluso diwylliant cydweithredol yn eich sefydliad. Yr ydych yn rhoi cyfarwyddyd i gydweithwyr a/neu eraill drwy gyfathrebu ac atgyfnerthu pwrpas, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad. Yn y cyd-destun yma gall eraill fod yn rhai sy'n fewnol neu'n allanol i'ch sefydliad, budd-ddeiliaid, neu rai sy'n cymryd rhan. Y mae'n canolbwyntio ar yr angen am ddiwylliant sy'n annog, cymhell, a chefnogi cydweithwyr a/neu eraill i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion yn eich sefydliad.
I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol arwyddocaol, gyda lefel gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fel masnachwr llawrydd/unigol.
Mae'r safon yma ar gyfer rheolwyr neu ymarferwyr uwch yn y sector hamdden weithgar.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- annog ymrwymiad i rannu nodau ac amcanion o fewn cyfyngiadau sy'n bodoli
- asesu a dadansoddi tueddiadau, cyfleoedd a risgiau cyfredol i'ch sefydliad
- cyflwyno canlyniadau eich dadansoddiad i gydweithwyr ac/neu eraill
- cyfathrebu ac atgyfnerthu pwrpas, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad i gydweithwyr a/neu eraill
- gwerthuso effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
- datblygu cynlluniau sefydliadol sy'n cefnogi pwrpas, gwerthoedd a gweledigaeth eich sefydliad
- rhannu strategaethau a gytunwyd gyda chydweithwyr a/neu eraill er mwyn sicrhau bod nodau ac amcanion cyffredin yn cael eu cyflawni
- datblygu dulliau o reoli trafferthion a heriau sefydliadol
- datblygu amrywiaeth o ddulliau arweinyddiaeth a'u defnyddio nhw mewn modd effeithiol pan yn arwain a rheoli gwahanol gydweithwyr, eraill a/neu sefyllfaoedd
- nodi a gwerthuso anghenion, chwenychiadau a chymhellion cydweithwyr ac eraill
- rhoi cefnogaeth er mwyn helpu cydweithwyr a/neu eraill i gyflawni eu hamcanion
- annog a dathlu creadigrwydd, arloesedd, amrywiaeth a chynhwysedd o fewn maes eich cyfrifoldeb
- gweithredu fel model rôl pan yn ymwneud â chydweithwyr a/neu eraill
- defnyddio mewn modd effeithiol amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cyfathrebu gyda chydweithwyr a/neu eraill sy'n grymuso ac yn caniatau annibyniaeth o fewn cyfyngiadau a gytunwyd
- datblygu a chynnal ymddiriedaeth a chefnogaeth ar draws y sefydliad, cydweithwyr a/neu eraill
- cyfrannu tuag at ddiwylliant o welliant parhaus
- gofyn am adborth rheolaidd ar eich perfformiad gan gydweithwyr ac eraill
- monitro cynnydd mewn gweithgaredd yn eich sefydliad
- dadansoddi adborth a chynnydd er mwyn cynllunio a gweithredu gwelliannau i berfformiad personol
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweddau canmoliaethus arweinyddiaeth, rheolaeth, hyfforddiant a mentora a'r defnydd effeithiol ohonynt
- gwahanol dechnegau ar gyfer gosod cyfeiriad a sefydlu amcanion a chreu strategaethau
- dulliau o gyfathrebu gyda chydweithwyr a/neu eraill
- technegau ar gyfer gwella perfformiad mewn arweinyddiaeth
- methodolegau ar gyfer cynllunio am welliant
- technegau ar gyfer hwyluso creadigrwydd ac arloesedd
- technegau ar gyfer gwerthuso effaith y sefydliad ar yr amgylchedd, y gymuned leol a chymdeithas
- sut i gyflwyno eich hun mewn modd cadarnhaol ac fel model rôl i eraill
- gofynion ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd a sut i gwrdd â'r rhain pan yn arwain
- technegau ar gyfer annog eraill i arwain a ffyrdd y gellir gwneud hyn
- gwahanol ffyrdd a dulliau o arweinyddiaeth ar gyfer datblygu timau a rhai sy'n cymryd rhan
- eich gwerthoedd, cymhelliad, gweledigaeth, cryfderau a meysydd lle mae lle i wella mewn swydd arweinydd
- cryfder a meysydd lle mae lle i wella gan gydweithwyr ac eraill
- gweledigaeth ac amcanion yr holl sefydliad
- y weledigaeth, yr amcanion, y diwylliant a'r cynlluniau gweithredol ym maes eich cyfrifoldeb
- diwylliant arweinyddiaeth ar draws y sefydliad a'ch dull eich hun o arweinyddiaeth
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt