Cyfrannu at waith eich tîm
Trosolwg
Rhaid i sefydliadau ddarparu lefelau uchel o wasanaeth i’w cwsmeriaid ac mae hyn y gofyn am ymdrech tîm gan yr holl staff a’r rheolwyr. Mae’r uned hon yn ymwneud â sut ydych yn gweithio’n dda fel aelod o’r tîm, gwella eich gwaith eich hun a gwaith eich tîm yn ei gyfanrwydd. Os oes gan eich sefydliad system werthuso ar gyfer perfformiad a datblygiad personol, bydd hyn yn gyd-destun ardderchog ar gyfer yr uned hon.
Rhennir yr uned hon i dair rhan. Mae’r rhan gyntaf (tudalen 2) yn rhoi rhai enghreifftiau ac esboniadau o rai geiriau yr ydym yn eu defenyddio yn yr uned. Bydd yr ail ran (tudalennau 35) yn disgrifio’r tri pheth y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Y rhain yw:
1. Gweithio’n effeithiol gyda’ch cydweithwyr
2. Gwella eich gwaith eich hun
3. Helpu i wella gwaith eich sefydliad
Mae’r drydedd ran (tudalennau 6 - 7) yn disgrifio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth mae’n rhaid i chi ei gael.
Grŵp Targed
Mae’r uned hon ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio mewn amgylchedd chwaraeon a gweithgarwch.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithio’n effeithiol gyda’ch cydweithwyr
P1 sefydlu perthynas waith gyda’ch cydweithwyr sy’n eich helpu i weithio’n dda gyda’ch gilydd
P2 cyfathrebu’n glir gyda'ch cydweithwyr
P3 cynnal safonau o ymddygiad proffesiynol
P4 cyflawni eich dyletswyddau a’ch ymrwymiadau i gydweithwyr fel a chytunwyd, neu eu rhybuddio mewn da bryd pan na allwch wneud yr hyn y maent yn ei ddisgwyl
P5 gofyn am gymorth a gwybodaeth pan ydych ei angen
P6 rhoi cymorth a gwybodaeth i’ch cydweithwyr pan maent ei angen, cyn belled â’i fod yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
P7 cyfrannu i drafodaethau tîm
P8 dilyn y gweithdrefnau cywir pan ydych yn wynebu anghydfodau neu drafferthion gyda Chydweithwyr
Gwella eich gwaith
P9 gwerthuso pob agwedd o’ch gwaith
P10 gofyn i’ch cydweithwyr a’ch cwsmeriaid am adborth ar eich gwaith
P11 ymdrin â beirniadaeth adeiladol mewn modd gadarnhaol
P12 gweithio gydag unigolyn perthnasol er mwyn:
P12.1 nodi eich cryfderau a meysydd lle gallwch wella eich gwaith
P12.2 nodi meysydd newydd o ran sgiliau a gwybodaeth y gellwch fod
eu hangen ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol
P12.3 cynllunio ffyrdd y gellwch wella eich gwaith a pharatoi ar gyfer
cyfrifoldebau yn y dyfodol
P13 cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad perthnasol
P14 adolygu eich datblygiad perthnasol yn rheolaidd
Helpu i wella gwaith eich sefydliad
P15 gofyn i gwsmeriaid am adborth ar y gwasanaethau mae eich sefydliad yn eu darparu
P16 nodi ffyrdd gall eich tîm wella gwasanaethau eich sefydliad i gwsmeriaid
P17 awgrymu’r gwelliannau hyn i’ch cydweithwyr gan ddilyn y gweithdrefnau cywir
P18 trafod sut gellir rhoi’r gwelliannau hyn ar waith gyda chydweithwyr perthnasol a gwrando ar eu syniadau
P19 helpu i newid gwasanaethau fel eu bod yn cwrdd ag anghenion eich cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Ar gyfer yr holl uned
K1 y gwerthoedd a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i’r gwaith yr ydych yn ei gyflawni
K2 pwysigrwydd gwaith tîm
K3 sut gall gwella eich gwaith eich hun a gwaith eich tîm wella eich sefydliad yn ei gyfanrwydd a lefel y gwasanaeth mae’r cwsmer yn ei dderbyn
Gweithio’n effeithiol gyda’ch cydweithwyr
K4 beth mae ‘perthynas waith dda’ gyda’ch cydweithwyr yn ei olygu
K5 sut i sefydlu perthynas waith dda gyda’ch cydweithwyr
K6 pam ei fod yn bwysig cyfathrebu’n glir gyda chydweithwyr
K7 sut i gyfathrebu gyda rheolwyr yn eich sefydliad
K8 y dyletswyddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt
K9 pan ei bod yn bwysig cyflawni eich dyletswyddau fel a gytunwyd neu rybuddio cydweithwyr mewn da bryd os na ellwch wneud hynny
K10 sefyllfaoedd lle gallwch fod angen cymorth yn eich gwaith a pham ddylech bob amser ofyn am gymorth a gwybodaeth yn y sefyllfaoedd hyn
K11 sefyllfaoedd lle gall fod angen i chi roi cymorth a gwybodaeth i’ch cydweithwyr
K12 sefyllfaoedd lle na ddylech roi cymorth a gwybodaeth i’ch cydweithwyr
K13 pwrpas cyfarfodydd tîm
K14 pam bod trafodaethau tîm yn bwysig a pham ddylech chi gyfrannu tuag atynt
K15 gweithdrefnau ar gyfer delio â gwrthdaro yn eich sefydliad
Gwella eich gwaith eich hun
K16 pam ei bod yn bwysig i chi wella eich gwaith eich hun yn barhaus
K17 pam ei bod yn bwysig asesu eich gwaith eich hun wrth eich hunan a chael adborth gan eich cydweithwyr
K18 beth mae’n ei olygu i ‘drin beirniadaeth mewn modd adailadol’ a pham bod hyn yn bwysig
K19 yr aelod perthnasol o staff yn eich sefydliad y gallwch gynllunio a datblygu eich gwaith â hwy
K20 y gweithdrefnau ddylech eu dilyn pan ydych eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant a datblygu
Helpu i wella gwaith eich sefydliad
K21 y mathau o sefyllfaoedd lle mae cwsmeriaid yn rhoi adborth ar y gwasanaethau maent yn eu derbyn
K22 pam ei bod yn bwysig gwrando ar adborth cwsmeriaid
K23 sut i nodi meysydd lle gellir gwella gwaith eich tîm
K24 y gweithdrefnau ddylech eu dilyn er mwyn gwneud awgrymiadau ynglŷn â sut i wella gwasanaethau i gwsmeriaid
K25 pam ei bod yn bwysig trafod eich awgrymiadau gyda chydweithwyr a chymryd eu syniadau i ystyriaeth
Cwmpas/ystod
Gweithio’n effeithiol gyda’ch cydweithwy
Rhaid i chi ddangos o’ch gwaith eich bod wedi gweithio’n dda gyda’r mathau canlynol o:
- Gydweithiwr sy’n
1.1. gweithio ar yr un lefel â chi
1.2. atebol i chi
1.3. rheolwr llinell
a bod yn glir yn y ddau fath canlynol o
- gyfathrebu
2.1. llafar
2.2. ysgrifenedig
Fodd bynnag, rhaid i chi hefyd ddangos fod gennych chi’r wybodseth a’r sgiliau angenrheidiol i ymdrin â’r holl fathau o gyd-destun a restrir uchod. A52.2 Gwella eich gwaith eich hun
Gwella eich gwaith eich hun
Ar gyfer eich gwaith eich hun, rhaid i chi ddangos eich bod wedi casglu adborth gan ddau o’r mathau canlynol o:
- gydweithiwr sy’n
3.1. gweithio ar yr un lefel â chi eich hun
3.2. gyfrifol amdanoch
3.3. rheolwr llinell
Fodd bynnag, rhaid i chi hefyd ddangos fod gennych chi’r wybodaeth angenrheidiol a’r sgiliau i ymdrin â’r holl fathau o gyd-destun a restrir uchod.
Sut i wella gwaith eich sefydliad
Rhaid i chi ddangos o’ch gwaith eich bod wedi awgrymu a thrafod gwelliannau gyda’r mathau canlynol o:
- gydweithiwr sy’n
4.1. gweithio ar yr un lefel â chi eich hun
4.2. gyfrifol amdanoch
4.3. rheolwr llinell
Fodd bynnag, rhaid i chi hefyd ddangos bod gennych chi’r wybodaeth angenrheidiol a’r sgiliau i ymdrin â’r holl fathau o gyd-destun a restrir uchod.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr
y bobl yr ydych yn gweithio â hwy – pobl sy’n gweithio ar yr un lefel â chi eich hun neu eich rheolwr(wyr)
Gwerthuso
meddwl am eich gwaith a nodi beth ydych yn ei wneud yn dda ac ym mhle mae lle i wella
Aborth
pobl eraill – cwsmeriaid neu gydweithwyr – dweud wrthynt beth i feddwl
Cyfrifoldebau yn y dyfodol
gall rhain fod yn ddyletswyddau newydd mae arnoch eisiau eu cymryd neu ddyletswyddau newydd mae eich rheolwr llinell eisiau eu rhoi i chi
– gall hyn gynnwys dyrchafiad
Perthynasau Gwaith effeithiol
y math o berthynas gyda’ch cydweithwyr sy’n helpu eich tîm i weithio’n dda a darparu lefel uchel o wasanaeth i’r cwsmer – mae hyn yn cynnwys dod ymlaen yn dda gyda’ch cydweithwyr, bod yn deg â hwy, osgoi anghydfodau di-angen a pheidio â gadael i’ch bywyd personol ddylanwadu ar y modd yr ydych yn ymwneud â chydweithwyr
Rheolwr llinell
y rheolwr neu’r goruchwyliwr yr ydych ym adrodd iddynt
Polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
yr hyn mae eich sefydliad yn ei ddweud y dylai ac na ddylai ei staff wneud mewn sefyllfaoedd penodol
Trafodaethau tîm
cyfarfodydd tîm fydd y rhain fel arfer ond gallant gynnwys trafodaethau mwy anffurfiol gydag aelodau o’r tîm a rheolwyr llinell
Hyfforddiant a datblygu
gall hyn olygu bod ar gwrs, ond gall hyn gynnwys gwylio aelodau eraill o’r staff yn gwneud pethau sy’n newydd i chi, gan dderbyn cyfarwyddiadau gan aelodau eraill o’r staff ar bethau newydd mae’n rhaid i chi eu gwneud a chael y cyfle i ymarfer sgiliau newydd
Cyfathrebu Ysgrifenedig
Gall hyn gynnwys nodiadau byrion, memos, llythyrau neu ddogfennau anffurfiol eraill
Dolenni I NOS Eraill
- Mae’r uned yma’n dilyn yr holl unedau eraill yn agos.
Ei lle yn y Fframwaith CGC/CGA
2. Mae’r uned hon yn orfodol yn y CGC/CGA’au lefel 2 Gwasanaethau Gweithredol, lefel 2 Gwaith Chwarae a’r lefel 2 Arwain Gweithgaredd.