Hyrwyddo eich sefydliad a gwella eich perfformiad eich hun o fewn eich tîm
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â hyrwyddo'r gweithgareddau a gwasanaethau a gynigir gan eich tîm a'ch sefydliad, a chodi ymwybyddiaeth am eu gwerth i'r gymuned. Rhaid i sefydliadau gynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i'w cwsmeriaid a golyga hyn fod angen i'r holl staff a rheolwyr weithio fel tîm.
Mae'r safon hon hefyd yn rhoi cyfle i gymryd rhan yn system gwerthuso perfformiad a datblygiad personol eich sefydliad.
* *
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
gwella eich perfformiad eich hun
gweithio'n effeithiol gyda'ch cydweithwyr
hyrwyddo eich sefydliad i eraill
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwella eich perfformiad eich hun**
adolygu eich datblygiad personol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
gofyn am adborth gan yr unigolyn â chyfrifoldeb, i nodi a chytuno ar:
2.1 eich cryfderau
2.2 meysydd lle gallech wella
2.3 meysydd newydd o ran sgiliau a gwybodaeth y bydd eu hangen arnoch o bosibl ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol
2.4 cyfleoedd i chi hyrwyddo eich sefydliad
* *
Gweithio'n effeithiol gyda'ch cydweithwyr
sefydlu a chynnal perthynas waith broffesiynol gyda'ch cydweithwyr
dilyn polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, wrth:
4.1 gyfathrebu gyda chydweithwyr
4.2 cyflawni dyletswyddau ac ymrwymiadau ar gyfer eich cydweithwyr
4.3 darparu cymorth a gwybodaeth i gydweithwyr
gofyn am gymorth a gwybodaeth pan fydd arnoch ei angen
cyfrannu at drafodaethau tîm
* *
Hyrwyddo eich sefydliad i eraill
gofyn am adborth gan eraill am y gwasanaethau mae eich sefydliad yn eu cynnig
dilyn adolygiad o'ch datblygiad personol:
8.1 penderfynu pa weithgaredd rydych am ei hyrwyddo
8.2. trafod gyda chydweithwyr sut i hyrwyddo'r gweithgaredd
8.3 trafod eich syniadau ar gyfer y gweithgaredd hyrwyddo gydag unigolyn â chyfrifoldeb
8.4 cael cadarnhad y bydd y gweithgaredd hyrwyddo yn bodloni anghenion eraill
8.5 cael cymeradwyaeth a chefnogaeth unigolyn â chyfrifoldeb i fwrw ymlaen â'r gweithgaredd hyrwyddo
casglu sylwadau a dderbyniwyd gan eraill a'u trafod gydag unigolyn â chyfrifoldeb
defnyddio'r adborth hwn i fonitro'r gwaith hyrwyddo
rhoi adorth i gydweithwyr ar lwyddiant y gweithgaredd hyrwyddo
defnyddio adborth gan gydweithwyr i ystyried sut gallai'r *gweithgaredd hyrwyddo *newid eich sefydliad er gwell
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwella eich perfformiad eich hun**
sut gall gwella eich gwaith eich hun wella eich sefydliad yn gyffredinol, a lefel y gwasanaeth a dderbynnir gan gwsmeriaid
pam mae'n bwysig adolygu a gwerthuso eich perfformiad eich hun, a derbyn adborth gan gydweithwyr
pwy yw'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad y gallwch gynllunio a datblygu eich gwaith gydag ef/hi
y cyfleoedd i gymryd cyfrifoldebau newydd ar gyfer datblygu eich gyrfa a'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud hyn
sut i lunio cynllun datblygu a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa
* *
Gweithio'n effeithiol gyda'ch cydweithwyr
dulliau o ddatblygu a chynnal perthynas waith broffesiynol gyda'ch cydweithwyr
technegau cyfathrebu a'u pwysigrwydd
pam mae'n bwysig cyflawni eich dyletswyddau yn unol â'r hyn a gytunwyd
sefyllfaoedd y bydd arnoch angen cymorth yn eich gwaith efallai a pham ddylech bob amser ofyn am gymorth a gwybodaeth yn y sefyllfaoedd hyn
sefyllfaoedd y bydd arnoch angen darparu cymorth a gwybodaeth i'ch cydweithwyr
pam mae trafodaethau tîm yn bwysig a pham ddylech gyfrannu atynt
polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad i ymdrin ag anghydfod
neu anawsterau gyda'ch cydweithwyr
* *
Hyrwyddo eich sefydliad i eraill
codau ymarfer y diwydiant, y sefydliad a'r proffesiwn safonau moesegol sy'n ymwneud â'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
sut i nodi pa weithgareddau sydd angen eu hyrwyddo
pam mae'n bwysig trafod eich awgrymiadau gyda chydweithwyr ac unigolyn â chyfrifoldeb, ac ystyried eu syniadau
dulliau o wirio bod y gweithgareddau fydd yn cael eu hyrwyddo yn bodloni holl ofynion eraill
pwysigrwydd cael cymeradwyaeth a chefnogaeth unigolyn â chyfrifoldeb er mwyn bwrw ymlaen â'r gweithgaredd hyrwyddo
pwysigrwydd bod yn agored ac yn barod i dderbyn adborth gan eraill
sut i ddefnyddio adborth gan eraill i fonitro'r gweithgaredd hyrwyddo
sut i gyflwyno adborth ar sail y sylwadau i unigolyn â chyfrifoldeb a'ch cydweithwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Eraill* (o leiaf 3)
cyfranogwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau
cyfranogwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddefnyddio'r gwasanaethau
ymwelwyr
sefydliadau eraill
unigolion yn y gymuned
grwpiau cymunedol
* *
Gweithgaredd hyrwyddo (o leiaf 3)
gweithgaredd penodol
digwyddiad penodol
cwrs o weithgareddau
ymgyrch llesiant
cyflawniadau neu wobrau
ymwneud â'r gymuned
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Cydweithwyr**
Gallai'r rhain fod yn bobl sy'n gweithio gyda chi ar yr un lefel â chi, eich rheolwr llinell, neu bobl sydd y tu allan i'ch sefydliad
*
*
*
*
Unigolion ag anghenion penodol
Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau iechyd, pobl sydd dros eu pwysau,
pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl sydd â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol. Efallai y bydd angen sylw arbennig ar rai unigolion yn y grwpiau hyn yn dilyn damweiniau ac mewn achosion brys
*
*
*
*
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, cod ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad