Cefnogi datblygiad gweithgareddau
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â helpu i ddatblygu'r gweithgareddau rydych chi'n eu harwain, drwy hyrwyddo mwy o gyfranogiad ac ymdrin ag unrhyw gŵynion neu awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan
ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n gysylltiedig â'r gwaith o arwain gweithgareddau, fel arfer mewn rôl datblygu chwaraeon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan**
rhoi gwybodaeth am y gweithgaredd i gyfranogwyr
ymdrin ag ymholiadau am gyfleoedd i gymryd rhan
cyfeirio cyfranogwyr at y gweithgareddau sydd orau iddynt
darparu gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
cyfeirio ymholiadau nad ydych yn gallu ymdrin â nhw at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
* *
Ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
- dilyn gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad wrth:
6.1 ymateb i gŵynion
6.2 cynnal preifatrwydd a chyfrinachedd
6.3 cyfeirio cwynion at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
* *
Ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
cyfeirio awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Hyrwyddo'r gweithgaredd a chyfleoedd i gymryd rhan**
strwythur a threfniadaeth cenedlaethol y gweithgaredd
y gwasanaethau a'r cynnyrch a gaiff eu cynhyrchu gan y gweithgaredd neu sy'n berthnasol iddo
buddion generig cymryd rhan yn y gweithgaredd
sut i ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau gan gyfranogwyr
yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cyfeirio cyfranogwyr at y gweithgareddau sydd orau iddynt
ffynonellau gwybodaeth ychwanegol am y gweithgaredd y gallwch eu defnyddio
* *
Ymateb i gŵynion am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
dulliau o ymateb i gŵynion, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
beth yn union yw cwyn
sut i gyfeirio cwynion na allwch ymdrin â nhw eich hun at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
sut i gynnal boddhad y cwsmer yn ystod y broses gŵynion
* *
Ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a gynigir
sut i annog cyfranogwyr i wneud awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau
polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymateb i awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau
dulliau o ymchwilio i'r awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau a sut i'w gwerthuso
y mathau o awgrymiadau am gynnyrch a gwasanaethau sydd angen eu cyfeirio at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr* (o leiaf 4)
oedolion
plant a phobl ifanc
unigolion ag anghenion penodol
newydd, di-brofiad
y rheini sydd â pheth profiad
grwpiau
unigolion
Gwybodaeth Cwmpas
Buddion**
ffordd o fyw iach – corfforol a meddyliol
dod yn fwy corfforol weithgar
datblygiad personol a chymdeithasol
* *
Ymholiadau
wyneb yn wyneb
dros y ffôn
negeseuon testun
y cyfryngau cymdeithasol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Unigolion ag anghenion penodol**
Pobl y gall y chwaraeon a /neu'r gweithgaredd fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau iechyd, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol
*
*
*
*
Amcanion
Yr hyn ddylai'r cyfranogwyr ei gyflawni yn ystod y sesiwn
*
*
*
*
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, cod ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol
*
*
*
*
Datblygiad personol a chymdeithasol
Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibyniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Ffynonellau gwybodaeth
Dylai'r rhain fod yn ddibynadwy a dylid eu defnyddio er mwyn galluogi Arweinydd y Gweithgaredd i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r cyfranogwyr. Weithiau, gellir cyfeirio'r cyfranogwyr at y ffynhonnell wybodaeth er mwyn iddynt wneud eu gwaith ymchwil ei hunain. Gallai ffynonellau gwybodaeth dibynadwy gynnwys y rhain, er enghraifft, manylion cyswllt fel rhifau ffôn a gwefan Corff Llywodraethu Cenedlaethol y gamp neu'r gweithgaredd perthnasol, manylion awdurdod lleol, Partneriaeth Chwaraeon Sirol, gwefan GIG, a manylion Cyrff Proffesiynol eraill
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad