Archwilio a chynnal cyfarpar y gweithgaredd
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â chynnal cyfarpar y gweithgaredd yn rheolaidd. Mae'n ymdrin â gwirio'r cyfarpar ac yna gwneud gwaith cynnal, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr. Efallai y bydd angen cynnal archwiliadau ar gyfarpar a weithredir â llaw a chyfarpar pŵer.
* *
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
archwilio'r cyfarpar a nodi pa waith cynnal sydd ei angen
cynnal y cyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gallu gwneud gwaith cynnal ar gyfarpar gweithgareddau gydag ychydig o oruchwyliaeth yn unig. Rhaid i Arweinwyr Gweithgareddau fod yn ymwybodol o'u cyfyngiadau eu hunain a rhoi gwybod am unrhyw gyfarpar a chyfleusterau sydd arnynt angen sylw arbenigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Archwilio'r cyfarpar a nodi pa waith cynnal sydd ei angen
gwirio'r amserlen cynnal a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn nodi pa gyfarpar sydd angen ei gynnal
ymdrin â materion yn ymwneud â gwaith cynnal, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
symud unrhyw gyfarpar anniogel neu ei roi o'r neilltu rhag iddo gael ei ddefnyddio
cyfeirio a rhoi gwybod am unrhyw faterion cynnal nad ydych yn gallu ymdrin â nhw i'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
* *
Cynnal y cyfarpar
gwirio bod y cyfarpar mewn cyflwr diogel ar gyfer gwaith cynnal a bod eich ardal waith wedi ei pharatoi
cwblhau'r gwaith cynnal sydd ei angen, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
nodi a neu rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn ystod gwaith cynnal wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
cynnal yr archwiliadau diogelwch terfynol ar y cyfarpar
cofnodi'r gwaith cynnal rydych wedi ei gwblhau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Archwilio'r cyfarpar a nodi pa waith cynnal sydd ei angen**
sut i archwilo'r cyfarpar yn erbyn amserlen gwaith cynnal eich sefydliad a chanllawiau'r gwneuthurwr
y mathau o waith cynnal rydych wedi eich awdurdodi i'w gwneud yn ddiogel
sut i symud unrhyw gyfarpar anniogel a/neu ei roi o'r neilltu rhag iddo gael ei ddefnyddio a goblygiadau peidio â gwneud hynny
sut i roi gwybod am waith cynnal sydd angen ei gwblhau gan arbenigwr technegol wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
* *
Cynnal y cyfarpar
sut i sicrhau bod y cyfarpar yn eich ardal waith mewn cyflwr diogel ar gyfer gwaith cynnal
yr offer a'r deunyddiadu cywir sydd eu hangen ar gyfer cynnal y cyfarpar, sut i'w defnyddio a phwysigrwydd defnyddio'r rhai cywir
sut i wneud gwaith cynnal ar y cyfarpar gan amharu cyn lleied â phosibl ar weithgareddau arferol
sut i nodi a rhoi gwybod am unrhyw broblemau i'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
sut i gynnal archwiliadau terfynol, cyn i'r cyfarpar gael ei ddefnyddio unwaith eto a goblygiadau peidio â gwneud hynny
sut i gwblhau cofnodion gwaith cynnal y cyfarpar, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Cyfarpar**
Cyfarpar cymhleth
Cyfarpar sy'n cynnwys sawl darn; er enghraifft, trampolîns, dingîs hwylio, rhwydwaith cyfrifiaduron
Cyfarpar wedi'i bweru
Darn o gyfarpar â ffynhonnell bŵer annibynnol, er enghraifft, rigiau pêl-fasged, peiriannau rhedeg, cychod diogelwch
Cyfarpar syml
Cyfarpar sy'n cynnwys un neu ddau ddarn, er enghraifft, rhwydi badminton
*
*
*
*
Gofynion iechyd a diogelwch
Y rheini sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer diwydiant, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (lle caiff y gweithgaredd ei reoli gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol) a gofynion eich sefydliad eich hun
*
*
*
*
Cynnal
Er enghraifft, iro, addasu, glanhau a sychu
*
*
*
*
Cyfarpar â weithredir â llaw
Er enghraifft, beiciau ymarfer, canŵs, trampolîns
*
*
*
*
Deunyddiau
Er enghraifft, paent, farnais, bylbiau golau, tiwbiau fflworoleuol
*
*
*
*
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau o gyfrifoldeb, diogelu, cod ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd rhaglen. Mae sawl term i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad