Gosod, tynnu i lawr a storio cyfarpar gweithgareddau
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â sicrhau bod gan eich cwsmeriaid – defnyddwyr gwasanaeth, cleientiaid, cyfranogwyr – y cyfarpar sydd arnynt ei angen ar gyfer gweithgareddau. Mae'r safon yn cynnwys gosod, tynnu i lawr a storio cyfarpar yn gywir a diogel.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
gosod cyfarpar
rhoi'r cyfarpar i'r cwsmeriaid
tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl ei ddefnyddio
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gallu gosod, tynnu i lawr a storio
cyfarpar gan weithio gydag ychydig o oruchwyliaeth yn unig – er enghraifft, cynorthwywyr hamdden, cynorthwywyr adloniadol, hyfforddwyr, staff sy'n gweithio ym maes gweithgareddau awyr agored, neu arweinwyr gweithgareddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gosod cyfarpar**
gwirio cynllun y sesiwn a chael y cyfarpar sydd ei angen
dilyn gweithdrefnau gweithredu safonol, yn unol â gofynion cyfreithiol,
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, wrth:
2.1 drin a symud cyfarpar
2.2 gosod cyfarpar
- rhoi gwybod am unrhyw broblemau wrth osod y cyfarpar yn ei le wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb am y sesiwn
* *
Rhoi'r cyfarpar i'r cwsmeriaid
ymdrin â cheisiadau cyfranogwyr
dilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer:
5.1 rhoi offer i gwsmeriaid
5.2 cynghori cyfranogwyr lle dylid storio eiddo personol
5.3 cyfnewid y cyfarpar am eitemau a adawyd gan y cyfranogwyr, ar ôl iddynt ddefnyddio'r cyfarpar
- monitro'r cyfarpar pan fydd yn cael ei ddefnyddio
* *
Tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl iddo gael ei ddefnyddio
- dilyn y gweithdrefnau gweithredu safonol, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, ar gyfer:
7.1 ymdrin â'r cyfarpar ar ôl ei ddefnyddio
7.2 trin a symud y cyfarpar
7.3 storio'r cyfarpar yn yr ardal storio a nodwyd
archwilio'r cyfarpar a rhoi gwybod am unrhyw broblemau, difrod neu rannau coll wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb am y sesiwn
rhoi unrhyw gyfarpar diffygiol i'r naill ochr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gosod y cyfarpar**
y gofynion iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r cyfarpar rydych yn ei osod, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau ac ethos eich sefydliad yn ymwneud â chynhwysiant
goblygiadau peidio â gwirio a dilyn cod ymarfer eich sefydliad
gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer trin a gosod cyfarpar a pham dylid eu dilyn
wrth bwy y dylech roi gwybod am unrhyw broblemau wrth osod y cyfarpar
* *
Rhoi'r cyfarpar i gwsmeriaid
ffyrdd o ddelio â cheisiadau gan gyfranogwyr
polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer:
6.1 rhoi cyfarpar i gyfranogwyr
6.2 storio eiddo personol cyfranogwyr
6.3 y mathau o eitemau y gall cyfranogwyr eu gadael er mwyn benthyca'r cyfarpar
6.4 cyfnewid y cyfarpar am yr eitemau a adawyd gan y cyfranogwyr, ar ôl i'r cyfarpar gael ei ddefnyddio
- sut i fonitro'r cyfarpar pan fydd yn cael ei ddefnyddio
* *
Tynnu cyfarpar i lawr a'i storio ar ôl ei ddefnyddio
gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer tynnu cyfarpar i lawr, ei drin, symud a storio a goblygiadau peidio â dilyn y gweithdrefnau hyn
y mathau o gyfarpar y dylid eu cadw i'r naill ochr oherwydd eu bod yn fudr neu'n wlyb
y lle cywir ar gyfer pob darn o gyfarpar yn eich ardaloedd storio
y mathau o beryglon iechyd a diogelwch y gallech ddod ar eu traws yn yr ardaloedd storio cyfarpar a sut i ymdrin â nhw
sut i wirio a yw'r cyfarpar wedi ei ddifrodi neu os oes darnau ar goll
beth ddylech ei wneud os byddwch yn dod o hyd i ddarnau wedi eu difrodi neu ddarnau coll
sut i gwblhau cofnodion cywir mewn perthynas â'r cyfarpar rydych yn ei osod, tynnu i lawr a'i storio, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr* (o leiaf 4)
oedolion
plant a phobl ifanc
unigolion ag anghenion penodol
newydd, di-brofiad
y rheini sydd â pheth profiad
grwpiau
unigolion
Gwybodaeth Cwmpas
Gweithdrefnau gweithredu safonol**
ar gyfer cyfarpar y gall unigolyn ei osod ar ei ben ei hun
ar gyfer cyfarpar y mae angen mwy nag un i'w osod
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Cyfarpar**
Cyfarpar cymhleth
Cyfarpar sy'n cynnwys sawl darn; er enghraifft, trampolîns, dingîs hwylio, rhwydwaith cyfrifiaduron
Cyfarpar wedi'i bweru
Darn o gyfarpar â ffynhonnell bŵer annibynnol, er enghraifft rigiau pêl-fasged, peiriannau rhedeg, cychod diogelwch
Cyfarpar syml
Cyfarpar sy'n cynnwys un neu ddau ddarn, er enghraifft, rhwydi badminton
*
*
*
*
Cyfarpar y mae angen mwy nag un i'w osod a'i dynnu i lawr
Er enghraifft; cyfarpar gymnasteg, matiau mawr, cyfarpar lled-barhaol – cwrs rhaffau neu lansio cwch â chraen, marquee
*
*
*
*
Cyfarpar y gall unigolyn ei osod a'i dynnu i lawr ei hun
Er enghraifft; cyrtiau badminton neu gwrs cyfeiriannu
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Gosod y cyfarpar
Paratoi'r cyfarpar ar gyfer ei ddefnydd bwriedig; mae hyn yn cynnwys adeiladu (lle bo hynny'n briodol) a gosod y cyfarpar yn unol â'r gofynion
*
*
*
*
Ardaloedd storio
Er enghraift, ystafelloedd storio, loceri, a storfeydd symudol, fel, faniau a
thrêlyrs
*
*
*
*
Gweithdrefnau gweithredu safonol (Gweithdrefnau gweithredu arferol)
Dogfen yw hon sy'n benodol ar gyfer eich sefydliad ac sy'n disgrifio'r gweithdrefnau gweithredu cywir ar gyfer, er enghraifft, cyfarpar penodol,
canllawiau arfer da i'w dilyn, mesurau rheoli safonol, asesiadau risg-budd, diffiniadau o weithgareddau, cylch gwaith yr ardal weithredu, y cymwysterau sy'n ofynnol i arweinydd y gweithgaredd eu cael er mwyn arwain gweithgaredd penodol, cymarebau staffio ac unrhyw gyfarpar diogelwch arbennig sydd ei angen
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad