Adolygu sesiynau gweithgareddau
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon ag adolygu sesiynau gweithgareddau, megis sesiynau gweithgareddau awyr agored, neu sesiynau 'blasu' adloniadol ar gyfer gweithgaredd neu gamp penodol. Gallai'r sesiynau hyn gyflwyno pobl i gamp neu weithgaredd, darparu gweithgareddau adloniadol hwyliog a phleserus, neu gynnig cynnydd mewn camp neu weithgaredd penodol. Gallent helpu pobl i dyfu fel unigolion, drwy ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol. Gallai'r sesiynau hyn hefyd fodloni gofynion cwricwlwm penodol, fel y cwricwlwm cenedlaethol neu gwricwlwm a gynlluniwyd gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol ym maes chwaraeon.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
adolygu sesiynau gyda chyfranogwyr
gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n arwain ac adolygu sesiynau chwaraeon, adloniadol, neu weithgareddau awyr agored gydag ychydig o oruchwyliaeth, fel arfer mewn amgylchedd a gaiff ei reoli.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adolygu sesiynau gyda chyfranogwyr**
casglu tystiolaeth i gefnogi'r gwaith o adolygu'r sesiynau
gwerthuso ffyrdd o wella gwaith cynllunio a chyflenwi sesiynau arwain gweithgareddau yn y dyfodol ar gyfer cyfranogwyr ac ar eich cyfer chi
trafod a chytuno ar eich adolygiad gyda'r cyfranogwyr ac eraill
cofnodi canfyddiadau eich adolygiad
trafod eich canfyddiadau gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen
addasu sesiynau yn y dyfodol ar sail canfyddiadau eich adolygiad a thrafodaeth
* *
Gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun
llunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygiad personol
myfyrio ar y ffordd y gwnaethoch gyflenwi'r sesiynau
trafod a chytuno ar eich perfformiad yn erbyn eich cynllun gweithredu gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen
adolygu'r cynllun gweithredu er mwyn rhoi'r newidiadau ar waith i fynd i'r afael â gwelliannau a dysgu pellach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adolygu'r sesiynau gyda chyfranogwyr**
- y gofynion o ran iechyd a diogelwch, gan gynnwys:
1.1 polisïau, gweithdrefnau ac ethos sefydliadol yn ymwneud â chynhwysiant
1.2 gweithgareddau yng nghylch gorchwyl y Corff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol
1.3 rheoliadau diogelwch a gofynion trwyddedu ar gyfer gweithgareddau perthnasol
goblygiadau peidio â gwirio a dilyn cod ymarfer eich sefydliad
dulliau o gael adborth gan gyfranogwyr a sut i'w ddefnyddio i fesur a gafodd nodau eu cyflawni
pam mae'n bwysig i rannu deilliannau eich adolygiad â'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen
* *
Gwerthuso a myfyrio ar eich perfformiad eich hun
sut i lunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygiad personol
beth yw 'ymarfer myfyriol', a'r agweddau y dylid myfyrio arnynt
dulliau a ddefnyddir i gynnal gwerthusiad o sesiynau gweithgareddau
pwrpas trafod a chytuno ar eich perfformiad gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb am y rhaglen
sut i ymgorffori newidiadau a argymhellir i'r cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â gwelliannau a dysgu pellach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Tystiolaeth* (o leiaf 2)
holiaduron
arsylwadau
ystadegau
adborth gan gyfranogwyr
adborth gan eraill
* *
Sesiynau (o leiaf 2)
un sesiwn
cyfres o sesiynau
cyfres o sesiynau dilynol
* *
Cyfranogwyr (o leiaf 4)
oedolion
plant a phobl ifanc
unigolion ag anghenion penodol
newydd, di-brofiad
y rheini sydd â pheth profiad
grwpiau
unigolion
* *
Cynllun gweithredu
sgan sgiliau personol
SMART
Gwybodaeth Cwmpas
Adborth**
llafar
dieiriau
adeiladol
cadarnhaol
negyddol
ar y dysgu a gyflawnwyd
ar gyflawniadau
* *
Nodau
hwyl ac adloniant
ennill sgiliau
datblygiad personol a chymdeithasol
annog pobl i gymryd rhan yn y dyfodol, parhau i gymryd rhan neu wneud cynnydd yn y gamp neu weithgaredd
* *
Adolygu
yn erbyn y nodau
cynllunio a pharatoi
arwain a rheoli'r grŵp
eich perfformiad eich hun
* *
Agweddau
cynllunio a pharatoi
datblygiad cyfranogwyr
arwain a rheoli'r grŵp
perthynas ag eraill
datblygiad personol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Yn seiliedig ar y cwricwlwm**
Mewn cyd-destun addysgol, gall hyn gyfeirio at ofynion y cwricwlwm cenedlaethol neu ofynion sy'n ddisgwyliedig gan gorff llywodraethu cenedlaethol y gamp neu'r gweithgaredd
*
*
*
*
Annog pobl i gymryd rhan yn y dyfodol a gwneud cynnydd yn y gweithgaredd
Rhoi cyfle i'r cyfranogwyr barhau i gymryd rhan a gwneud cynnydd pellach yn y gweithgaredd yn ddiweddarach
*
*
*
*
Amgylchedd
Yr ardal lle cynhelir y gweithgareddau; gall fod yn gyfleuster dan do neu amylchedd awyr agored naturiol
*
*
*
*
Unigolion ag anghenion penodol
Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sydd dros eu pwysau,
pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol
*
*
*
*
Cyfranogwyr
Y bobl rydych chi'n eu harwain yn ystod y gweithgaredd
*
*
*
*
Datblygiad personol a chymdeithasol
Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibynniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill
*
*
*
*
Adloniant
Profiadau hamdden pleserus, hwyliog, a gaiff eu cyflenwi yn aml yng nghyd-destun gwyliau gweithgareddau neu gynllun gwyliau
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Adolygu
Y broses o fynd dros y sesiwn yng nghwmni'r cyfranogwyr, eu helpu i fyfyrio ar eu profiadau a hwyluso dysgu pellach; dylai'r adolygiad ychwanegu gwerth at y sesiwn a dylid ei gynnal er budd cyfranogwyr; fodd bynnag, gellir defnyddio deilliannau'r adolygiad er mwyn gwella sesiynau yn y dyfodol ar gyfer eraill
*
*
*
*
Ymdeimlad o gyflawniad
Cyfranogwyr yn teimlo'n dda am yr hyn maen nhw wedi ei wneud a'i ddysgu yn ystod y sesiwn
*
*
*
*
Sesiwn
Cyfnod pan fyddwch yn arwain cyfranogwyr mewn gweithgareddau sy'n cynnwys elfen o ymdrech corfforol a/neu sgil/datrys problemau; gall y rhain fod yn chwaraeon cydnabyddedig fel canŵio, hwylio, badminton neu bêl-droed neu gellir eu haddasu ar y pryd i gwrdd ag amcanion penodol. Yng nghyd-destun gweithgareddau awyr agored, byddant bron bob amser yn cynnwys elfen o risg wedi ei reoli; gall gweithgareddau gynnig 'blas' o gamp a fydd yn annog cyfranogwyr i fynd ymlaen i ddatblygu eu perfformiad yng nghyd-destun arwain gweithgareddau
Sesiwn unigol – un sesiwn unigol
Cyfres o sesiynau – mwy nag un sesiwn. Caiff amserlen y sesiwn ei bennu gan y gamp neu weithgaredd dan sylw
Cyfres o sesiynau dilynol – mae hyn yr un fath â chyfres o sesiynau, ond bydd y sesiynau wedi eu cynllunio a'u cyflenwi er mwyn i'r cyfranogwyr gyrraedd nod neu gyflawniad penodol
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad