Hwyluso cyfranogwyr i fabwysiadu a dilyn ffordd o fyw mwy egnïol yn gorfforol
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â chynghori a chefnogi cyfranogwyr i fabwysiadu a chynnal lefelau cymedrol o weithgarwch corfforol i sicrhau buddion iechyd.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
sefydlu perthynas gyda chyfranogwyr a'u rhesymau dros ymgymryd â gweithgarwch corfforol
gweithio gyda chyfranogwyr er mwyn iddynt wneud mwy o weithgarwch corfforol
Mae'r safon hon ar gyfer arweinwyr gweithgareddau sy'n rhoi cyngor ar weithgarwch corfforol a'i fuddion i bobl sy'n gwneud llai o weithgarwch corfforol na'r hyn a argymhellir
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu perthynas gyda chyfranogwyr a'u rhesymau dros ymgymryd â gweithgarwch corfforol**
holi'r cyfranogwyr i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
trin yr wybodaeth a dderbynnir gan gyfranogwyr yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
addasu technegau cyfathrebu i ddiwallu anghenion unigol y cyfranogwyr
esbonio'r mathau o weithgarwch corfforol i'r cyfranogwyr a fyddai'n diwallu eu hanghenion unigol
cyfeirio unrhyw ansicrwydd ynghylch pa mor addas yw cyfranogwyr i ymgymryd â gweithgarwch corfforol at yr unigolyn â chyfrifoldeb, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
esbonio wrth gyfranogwyr yr angen i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithgarwch corfforol eu hunain
datblygu cynllun er mwyn helpu'r cyfranogwyr i weithio at eu nodau personol
crynhoi a chytuno gyda'r cyfranogwyr eu rhesymau dros ymgymryd â gweithgarwch corfforol, a'u parodrwydd i gymryd rhan a newid ymddygiad
* *
Gweithio gyda chyfranogwyr er mwyn iddynt wneud mwy o weithgarwch corfforol
esbonio effeithiau gweithgarwch corfforol i gyfranogwyr
monitro arwyddion pryd y dylai cyfranogwyr leihau neu roi'r gorau i'r gweithgarwch corfforol
helpu cyfranogwyr i adnabod drostynt eu hunain pa bryd y dylent leihau neu roi'r gorau i'r gweithgarwch corfforol
trafod nodau gyda'r cyfranogwyr i ddiwallu eu hanghenion
cofnodi'r nodau a gytunwyd yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
cytuno gyda'r cyfranogwyr sut gallant fesur eu cynnydd eu hunain yn erbyn y nodau
holi'r cyfranogwyr ble gallant gael ffynonellau cymorth eraill
sefydlu dulliau cyfathrebu parhaus er mwyn rhoi cymorth i'r cyfranogwyr
monitro cynnydd ar adegau adolygu a gytunwyd
helpu cyfranogwyr i addasu, cynnal a datblygu eu gweithgarwch corfforol er mwyn cyflawni a chynnal buddion iechyd
darparu'r offer i'r cyfranogwyr sydd yn eu hannog i barhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac i gyflawni a chynnal buddion iechyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydlu perthynas gyda chyfranogwyr a'u rhesymau dros ymgymryd â gweithgarwch corfforol **
lefelau o weithgarwch corfforol a argymhellir ar gyfer pobl yn y boblogaeth darged
dulliau o annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithgaredd corfforol eu hunain
sut i sefydlu perthynas effeithiol gyda phobl nad ydynt yn gwneud llawer o weithgarwch corfforol ac effaith hyn ar eu rhesymau dros ymgymryd â gweithgaredd corfforol
y mathau o *rwystrau *a chanfyddiadau nodweddiadol am weithgarwch corfforol all pobl eu hwynebu a sut i fynd i'r afael â'r rhain
iaith a therminoleg addas i'w defnyddio
yr effaith mae iaith y corff a goslef y llais yn ei gael ar gyfranogwyr
sut i beidio â barnu pobl a'u dewisiadau o ran eu ffordd o fyw ac iechyd
sut i gael *gwybodaeth *gan y cyfranogwyr mewn ffordd sensitif
sut i fod yn wrandawr gweithredol a pham mae hyn yn bwysig
at bwy y dylech droi os ydych yn ansicr ynglŷn â pha mor addas yw cyfranogwyr i ymgymryd â gweithgarwch corfforol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
sut i nodi rhesymau cadarnhaol dros ddod yn fwy gweithgar yn gorfforol a pham mae'n bwysig adeiladu arnynt
sut i fesur yr hyn sy'n realistig ac o fewn cyrraedd cyfranogwyr sy'n dymuno ymgymryd â mwy o weithgarwch corfforol a pham mae hyn yn bwysig
pwysigrwydd crynhoi a chytuno ar gymhelliad y cyfranogwyr i ymgymryd â gweithgarwch corfforol a'u parodrwydd i gymryd rhan a newid ymddygiad
* *
Gweithio gyda chyfranogwyr er mwyn cynyddu lefelau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol
sut i argymhell mathau o weithgarwch corfforol sy'n ddiogel i gyfranogwyr nad ydynt yn cymryd rhan mewn llawer o weithgarwch corfforol
yr arwyddion sy'n dangos pa bryd ddylai cyfranogwyr roi'r gorau i weithgarwch corfforol neu leihau maint y gweithgarwch corfforol a phwysigrwydd yr angen i gyfranogwyr adnabod yr arwyddion hyn hefyd
pwysigrwydd canolbwyntio ar ffordd o fyw gyffredinol y cyfranogwyr a chynnwys gweithgarwch corfforol yn eu ffordd o fyw
pam mae'n bwysig trafod, cytuno a chofnodi *nodau *gyda'r cyfranogwyr
y mathau o *nodau *sy'n realistig ac o fewn cyrraedd amrywiaeth o gyfranogwyr nad ydynt yn gwneud llawer o weithgarwch corfforol
sut i ganfod dibynadwyedd a dilysrwydd y ffynonellau gwybodaeth ar arfer da wrth gytuno ar *nodau *gweithgarwch corfforol ar gyfer cyfranogwyr nad ydynt yn gwneud llawer o weithgarwch corfforol
pam mae'n bwysig i gyfranogwyr allu mesur ac adolygu eu cynnydd o safbwynt gweithgarwch corfforol ac effaith gweithgarwch corfforol
dulliau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i gadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr
sut i fonitro a gwerthuso cynnydd cyfranogwyr a'r strategaethau y gellir eu defnyddio er mwyn eu helpu i barhau i ddatblygu eu gweithgarwch corfforol
ble y dylid cyfeirio cyfranogwyr er mwyn iddynt ddarganfod offer cymell sydd yn annog pobl i barhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i gyflawni a chynnal buddion iechyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr* (o leiaf 4)
oedolion
plant a phobl ifanc
unigolion ag anghenion penodol
newydd, di-brofiad
y rheini â pheth profiad
grwpiau
unigolion
* *
Effeithiau gweithgarwch corfforol (o leiaf 6)
gwelliant o ran stamina corfforol
gwelliant seicolegol
datblygiad cymdeithasol
budd tymor hir
budd tymor byr
lefel y gwelliant o ran ymrwymiad
gwelliant cynyddol
cronnus
risgiau posibl
goresgyn rhwystrau
* *
Ffynonellau cymorth
gwybodaeth
cyngor ac arweiniad
teulu a ffrindiau
cyfryngau cymdeithasol
rhyngrwyd
Gwybodaeth Cwmpas
Rhwystrau**
corfforol
seicolegol
cymdeithasol a diwylliannol
economaidd
lefelau yr anawsterau
* *
Gwybodaeth
manylion personol y cyfranogwyr
agweddau egnïol ar ffordd o fyw bresennol y cyfranogwyr
anghenion unigol y cyfranogwyr
ystyriaethau iechyd a diogelwch
cyfarpar a chyfleusterau sydd ar gael
* *
Nodau
realistig
afrealistig
cyraeddadwy
anghyraeddadwy
corfforol
seicolegol
ffordd o fyw
ymlyniad
tymor byr
tymor canolig
tymor hir
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Unigolyn â chyfrifoldeb**
Yn unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad.
*
*
*
*
Ffynonellau gwybodaeth
Rhaid i'r rhain fod yn gyfredol, dibynadwy a dylid eu defnyddio i roi rhagor o wybodaeth i Arweinydd y Gweithgaredd y gellir eu rhoi i'r cyfranogwyr. Weithiau, gellir cyfeirio'r cyfranogwr at ffynhonnell gwybodaeth, er mwyn iddo/iddi wneud gwaith ymchwil personol. Gallai ffynonellau gwybodaeth dibynadwy fod yn, er enghraifft, fanylion cyswllt fel rhifau ffôn a gwefannau Corff Llywodraethu Cenedlaethol y gamp neu'r gweithgarwch perthnasol, manylion awdurdod lleol, gwefan GIG, Canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol ar gyfer Gweithgarwch Corfforol, a manylion Cyrff Proffesiynol eraill