Gofalu am gyfranogwyr pan fyddant oddi cartref

URN: SKAAL13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Arweinyddiaeth Gweithgaredd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae a wnelo'r safon hon â darparu gofal bugeiliol sylfaenol i gyfranogwyr sy'n aros oddi cartref. Gallai hyn fod, er enghraifft, mewn llety preswyl fel canolfan gweithgareddau awyr agored, gwesty neu hostel neu mewn pabell.

Mae a wnelo'r safon hon â darparu gwybodaeth am gyfleusterau perthnasol a'u lleoliad, gan gynnwys ardaloedd cyfyngedig a'u lleoliad, gwybodaeth am reolau ymddygiad sylfaenol a sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod am ystyriaethau iechyd a diogelwch, darparu gwybodaeth am weithgareddau wedi'u cynllunio, ac edrych ar ôl lles corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr pan fyddant yn eich gofal.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:

  1. cynorthwyo pan fydd cyfranogwyr yn cyrraedd

  2. gofalu am les corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  3. cynorthwyo pan fydd cyfranogwyr yn gadael

Mae'r safon hon wedi ei hanelu'n bennaf at staff canolfan gweithgareddau awyr agored neu eraill, fel gweithwyr chwarae sydd yng nghwmni cyfranogwyr pan fyddant oddi cartref.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynorthwyo pan fydd cyfranogwyr yn cyrraedd**

  1. casglu manylion am y cyfranogwyr a'u storio yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  2. cyfarch a chroesawu cyfranogwyr

  3. cyflwyno eich hun a staff eraill i'r cyfranogwyr a rhoi iddynt yr wybodaeth fydd arnynt ei hangen

  4. goruchwylio a rheoli ymddygiad cyfranogwyr **pan fyddant yn cyrraedd

  5. ymdrin â chwestiynau cyfranogwyr

* *

Gofalu am les corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  1. gwneud yn siŵr y caiff anghenion y cyfranogwyr eu nodi a'u bodloni drwy gydol y rhaglen gan wneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen

  2. ymateb i unrhyw broblemau all godi yn ystod arhosiad y cyfranogwyr, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  3. rhoi gwybod i'r unigolyn â chyfrifoldeb am unrhyw bryderon, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  4. gwneud yn siŵr bod y cyfranogwyr yn cael cyfle i hamddena, gorffwys a chysgu

  5. gwneud yn siŵr bod y cyfranogwyr wedi derbyn yr wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau

  6. cyfrannu at y gwaith o oruchwylio cyfranogwyr pan fyddant yn symud o un gweithgaredd i'r llall

  7. monitro lles cyffredinol y cyfranogwyr pan fyddant yn eich gofal

* *

Cynorthwyo pan fydd cyfranogwyr yn gadael

  1. gwneud yn siŵr bod y cyfranogwyr yn pacio eu holl eiddo personol, a'u hannog i wneud yn siŵr nad ydynt wedi gadael unrhyw beth ar ôl

  2. gwneud yn siŵr bod gan y cyfranogwyr yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gadael

  3. gwneud yn siŵr bod yr holl gyfranogwyr yn gadael yr adeilad/eiddo, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  4. cyfrannu at y gwaith o adolygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gofalu am

gyfranogwyr pan fyddant oddi cartref


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynorthwyo pan fydd cyfranogwyr yn cyrraedd**

  1. sut a beth i'w wirio mewn perthynas â'r llety a threfniadau arlwyo cyn i'r cyfranogwyr gyrraedd

  2. dulliau o groesawu cyfranogwyr i'r rhaglen a sut i wneud i'r cyfranogwyr deimlo'n gartrefol

  3. unrhyw anghenion meddygol, diwylliannol, dietegol ac emosiynol penodol fydd gan y cyfranogwyr o bosibl

  4. eich cyfrifoldebau mewn perthynas â'r cyfranogwyr, cyfrifoldebau staff eraill a gyda phwy y dylent gysylltu

  5. yr wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfranogwyr pan fyddant yn cyrraedd

  6. lefelau gorbryder a chyffro tebygol ymhlith y cyfranogwyr wrth gyrraedd a dulliau o reoli eu hymddygiad

  7. y rheolau sylfaenol yn ymwneud ag ymddygiad cyfranogwyr

* *

Gofalu am les corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  1. sut i annog cyfranogwyr i ofalu am eu hylendid personol yn ystod y rhaglen a sut i addasu hyn ar gyfer mathau gwahanol o gyfranogwyr

  2. pa bryd y dylid gwneud addasiadau a pha fath o addasiadau y gellir eu gwneud i ateb gofynion cyfranogwyr

  3. y gofynion cyfreithiol a'r polisïau a gweithdrefnau sefydliadol y dylid eu dilyn er mwyn:

10.1 ymdrin â'r problemau mwyaf cyffredin y gall cyfranogwyr eu cael yn ystod y rhaglen

10.2 diogelwch cyfranogwyr yn ystod y rhaglen a'r gweithdrefnau cywir i'w dilyn

10.3 ymdrin â'r problemau mwyaf cyffredin y gall cyfranogwyr eu cael yn ystod y rhaglen

  1. pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â phroblemau a beth yw ystyr cyfrinachedd

  2. sut i annog cyfranogwyr i deimlo'n ddiogel yn gorfforol ac emosiynol

  3. sut i ddangos empathi a dealltwriaeth i gyfranogwyr sy'n wynebu unrhyw broblemau

  4. rheolau sylfaenol eich sefydliad ar gyfer amseroedd heb oruchwyliaeth

  5. sut i oruchwylio cyfranogwyr wrth deithio ar y safle ac oddi ar y safle; ar droed ac wrth deithio mewn cerbydau

  6. pa fath o ddillad arbenigol y gall fod eu hangen ar y cyfranogwyr yn ystod gweithgaredd rhaglenni a'r angen i roi gwybod iddynt ymlaen llaw am eu gofynion

  7. sut i helpu cyfranogwyr i gynllunio'r defnydd o ddillad yn ystod rhaglen a gwneud yn siŵr bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt

  8. y peryglon iechyd a diogelwch cyffredin sy'n gysylltiedig â gweithgareddau awyr agored

* *

Cynorthwyo'r cyfranogwyr pan fyddant yn gadael

  1. yr wybodaeth sydd ei hangen wrth adael a pham mae'n bwysig i'r cyfranogwyr dderbyn yr wybodaeth hon

  2. sut i annog cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb am drefnu a gofalu am eu heiddo personol

  3. sut i ymdrin ag eiddo coll

  4. pwysigrwydd sicrhau bod cyfranogwyr yn gadael yng nghwmni unigolyn awdurdodedig a/neu gludwr awdurdodedig, a goblygiadau peidio â gwneud hynny

  5. y gofyniad cyfreithiol i gynnal adolygiadau rheolaidd o bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer gofalu am gyfranogwyr pan fyddant oddi cartref


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr* (o leiaf 4)

  1. oedolion

  2. plant a phobl ifanc

  3. unigolion ag anghenion penodol

  4. newydd, di-brofiad

  5. y rheini â pheth profiad

  6. grwpiau

  7. unigolion

* *

Problemau

  1. emosiynol

  2. corfforol


Gwybodaeth Cwmpas

Gwybodaeth sydd ei hangen wrth gyrraedd**

  1. rheolau sylfaenol yn ymwneud ag ymddygiad

  2. manylion llety

  3. cyfleusterau perthnasol a'u lleoliad

  4. ardaloedd cyfyngedig a'u lleoliad

  5. trefniadau arlwyo

  6. amser a lleoliad y gweithgaredd cyntaf

  7. ystyriaethau iechyd a diogelwch

* *

Problemau

Corfforol

  1. salwch

  2. damweiniau

  3. colli eiddo

  4. hylendid personol

  5. anghenion personol a meddygol

Emosiynol

  1. ymddygiad gwrthgymdeithasol

  2. ymddygiad gwahaniaethol

  3. hiraeth

  4. bwlio

  5. unigedd o fewn y grŵp

  6. gorbryder ynghylch y gweithgareddau

* *

Gwybodaeth sydd ei hangen wrth adael

  1. amser gadael

  2. man gadael

  3. dull o gasglu a/neu deithio

  4. gweithdrefnau gadael

  5. casglu gan gariwr a/neu unigolyn awdurdodedig

* *


Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad

  2. cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd

  3. bod yn onest trwy gydol eu gwaith

  4. annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol

  5. croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill

  2. ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol

  3. gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen

  4. dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan

  5. cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan

  6. parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn


Sgiliau

Mae'r sgiliau**  canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.


Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:

  1. dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio

  2. bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau

  3. deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau

  4. myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro

  5. gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn

  6. rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan

  7. bod yn hyderus a gwydn

  8. addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan

  9. gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon

  10. adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn

  11. meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion

  12. dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu

  13. grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau

  14. grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu


Geirfa

Unigolyn a/neu gariwr awdurdodedig**

Oedolyn neu gwmni a drefnwyd ymlaen llaw, y byddai'r plentyn yn cael ei roi yn eu gofal

*
*

*
*

Ymddygiad gwahaniaethol neu wrthgymdeithasol

Ymddygiad sydd yn annheg, anghyfiawn, sarhaus, ac weithiau yn anghyfreithlon, yn erbyn unigolion, er enghraifft, ar sail rhyw, oed, cyfeiriadedd rhywiol, gallu, ethnigrwydd, diwylliant, cefndir sosioeconomaidd, maint, tarddiad cenedlaethol, neu gredoau crefyddol

*
*

*
*

Problemau emosiynol

Yn y safon hon, cyfyngir y rhain i broblemau sy'n gysylltiedig â'r rhaglen, er enghraifft, hiraeth, unigrwydd, bwlio neu gorbryder ynghylch gweithgareddau penodol; nid oes disgwyl i chi ymdrin â materion emosiynol ehangach

*
*

*
*

Empathi

Dangos eich bod yn gallu dychmygu ac uniaethu â theimladau rhywun arall

*
*

*
*

Unigolion ag anghenion penodol

Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl ag anghenion amrywiol neu ddiwylliannol. Efallai bydd angen sylw arbennig ar rai unigolion yn y grwpiau yn dilyn damweiniau ac achosion brys

*
*

*
*

Anghenion meddygol

Anghenion sy'n gofyn am feddyginiaeth arbennig neu gymorth corfforol i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau

*
*

*
*

Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol

Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, codau ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol

*
*

*
*

Cyfranogwyr

Y bobl rydych yn eu harwain yn ystod y gweithgaredd

*
*

*
*

Anghenion cyfranogwyr

Pan fydd cyfranogwyr oddi cartref, mae'n bosibl y bydd amrywiaeth eang o anghenion y bydd yn rhaid eu hystyried, fel gofynion dietegol, llety, dillad sydd ar gael a lleoedd storio, esgidiau sydd ar gael a lleoedd storio ac addasiadau fydd eu hangen ar gyfer anableddau a/neu ofynion arbennig

*
*

*
*

Lefel gymesur a/neu gymhareb goruchwyliaeth

Mae lefel yr oruchwyliaeth fel arfer yn seiliedig ar gymarebau, fodd bynnag, yr arfer gorau yw seilio hyn ar ystyriaeth gywir o'r gweithgareddau i'w cynnal a lefel gallu'r cyfranogwyr sy'n cymryd rhan

*
*

*
*

Unigolyn â chyfrifoldeb

Yr unigolyn dynodedig; fel goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellid eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol

*
*

*
*

Dillad arbennig

Er enghraifft, dillad ar gyfer tywydd gwlyb, siwtiau gwlyb, esgidiau glaw/cerdded ac ati.

*
*

*
*

Pobl ifanc

Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC37

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Technegol a Phroffesiynol Cysylltiedig, Hamdden, Teithio a thwristiaeth, Chwaraeon a hamdden

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gofalu, cyfranogwyr, oddi cartref