Cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â helpu eich sefydliad i ofalu am yr amgylchedd mewn ffordd gyfrifol. Mae'r safon yn ymdrin ag atal llygredd, lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, cadwraeth adnoddau egni a dŵr a rheoli ardaloedd yn yr awyr agored er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â rhoi gwybodaeth a chyngor i gyfranogwyr ar faterion yn ymwneud â chadwraeth a'r amgylchedd naturiol.
* *
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy
cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol
darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
Mae'r safon hon ar gyfer staff gweithredol sy'n gweithio ym maes hamdden ac adloniant gweithredol lle mae cyfrifoldebau am gadwraeth amgylcheddol yn rhan o'u rôl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**
cytuno ar ffyrdd y gallwch gyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
gwneud eich cyfraniad at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy
awgrymu ffyrdd o wella rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy i'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
Cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol
cytuno sut byddwch yn cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffyrdd sy'n fuddiol neu sy'n atal niwed i'r ardal gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
gwneud eich cyfraniad at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffyrdd sy'n fuddiol neu sy'n atal niwed i'r ardal
awgrymu ffyrdd o reoli ardaloedd yn yr awyr agored a fydd yn fuddiol neu a fydd yn atal niwed i'r ardal
* *
Darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
- cytuno ar ffyrdd y gallwch gyfrannu at ddarparu gwybodaeth a chyngor ar
gadwraeth amgylcheddol gyda'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
darparu gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr â'r safle mewn fformatau addas
esbonio'r rhesymau dros yr wybodaeth a'r cyngor rydych yn eu darparu i ymwelwyr â'r safle
awgrymu wrth yr unigolyn â chyfrifoldeb ffyrdd o wella'r wybodaeth a'r cyngor mae eich sefydliad yn eu darparu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**
beth a olygir gan gadwraeth amgylcheddol, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth
pam mae cadwraeth amgylcheddol yn bwysig i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo
cynllun rheoli amgylcheddol eich sefydliad a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â chadwraeth amgylcheddol a chynaliadwyedd
sut i wneud awgrymiadau er mwyn gwella cadwraeth amgylcheddol yn eich sefydliad a pam mae'n bwysig ceisio gwella'n barhaus
cadwraeth egni a'r defnydd o `drafnidiaeth werdd'
pam mae'n bwysig defnyddio adnoddau a gynhyrchir yn lleol lle bo hynny'n bosibl
* *
Cyfrannu at reoli ardaloedd yn yr awyr agored mewn ffordd ecolegol
sut i reoli ardaloedd yn yr awyr agored er mwyn cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol, a goblygiadau peidio â gwneud hynny
asiantaethau a sefydliadau eraill a all ddarparu *gwybodaeth a chyngor *ar gadwraeth amgylcheddol
y prif fathau o fywyd gwyllt lleol ar eich safle, yn benodol y rheini sy'n agored i niwed ac sydd arnynt angen eu hybu a'u hamddiffyn, a sut i'w hybu a'u hamddiffyn
y mathau o blanhigion a bywyd gwyllt y dylech osgoi eu cyflwyno a pham
pam gallai fod yn angenrheidiol i reoli a /neu hybu rhai mathau o fywyd gwyllt lleol a dulliau derbyniol o wneud hyn
y gwahaniaeth rhwng planhigion a gaiff eu croesawu a phlanhigion digroeso a sut i reoli planhigion digroeso
sut i ddewis a defnyddio cemegion (chwynladdwyr a phlaleiddiaid) mewn ffordd nad yw'n andwyol i'r amgylchedd naturiol a'r gofynion ar gyfer tystysgrifau defnyddio cemegion priodol
* *
Darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
pam mae'n bwysig darparu gwybodaeth a chyngor ar yr amgylchedd lleol a dulliau o'i warchod i ymwelwyr a chydweithwyr
y fformatau sydd ar gael ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor
pam mae'n bwysig rhoi gwybod i ymwelwyr am weithdrefnau ar gyfer rheoli adnoddau mewn ffordd gyfrifol a'r rhesymau dros hyn
sut i gynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau sy'n hybu a datblygu eu dealltwriaeth o gadwraeth amgylcheddol
y mathau o drafnidiaeth `cyfeillgar i'r amgylchedd' y dylech annog ymwelwyr i'w defnyddio a sut i'w hannog
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy**
atal llygredd
rheoli gwastraff
cadwraeth egni
* *
Rheoli ardaloedd awyr agored
cadw ac amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol
ymdrin â thoriadau a gwastraff garddwriaethol eraill yn gywir
* *
Gwybodaeth a chyngor (o leiaf 3)
rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy
cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol
llygredd sŵn a goleuni
materion yn ymwneud â thrafnidiaeth `werdd'
prynu cynnyrch lleol, tymhorol
* *
Fformatau (o leiaf 2)
byrddau gwybodaeth/dehongli
taflenni
llafar
cynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau amgylcheddol
Gwybodaeth Cwmpas
Rheoli ardaloedd awyr agored**
cadwraeth ac amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd presennol
ymdrin â thoriadau a gwastraff garddwriaethol arall yn gywir
* *
Amgylchedd naturiol
terfynau, borderi a pharthau clustogi
gerddi ffurfiol
glaswelltir, gweundir, rhostir ac ardaloedd agored eraill
coed a choetiroedd
afonydd, nentydd, pyllau a gwlyptiroedd
* *
Gwybodaeth a chyngor
rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy
cynnal a datblygu'r amgylchedd naturiol
llygredd sŵn a goleuni
materion yn ymwneud â thrafnidiaeth `werdd'
prynu cynnyrch lleol, tymhorol
* *
Fformatau
byrddau gwybodaeth/dehongli
taflenni
llafar
cynnwys ymwelwyr mewn gweithgareddau amgylcheddol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol**
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, codau ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol