Gweinyddu cyllid a gwybodaeth
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon ag ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sylfaenol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon ac adloniadol. Gall y gwaith gweinyddu cyllid a gwybodaeth gael ei wneud er mwyn ymdrin ag arian mân, sieciau a dulliau talu electronig, a chynnal cofnodion aelodaeth a chyllid ar gyfrifiaduron.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
- cofrestru cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau
- prosesu trafodion ariannol
- cynnal cofnodion manylion cofrestru
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gyfrifol am reolaeth ariannol sylfaenol, cofrestru cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau a chynnal cofnodion gwybodaeth. Mae'r safon hon ar gyfer y rheini sy'n gysylltiedig â rhaglenni Datblygu Chwaraeon yn bennaf ond gall hefyd fod yn addas ar gyfer arweinwyr gweithgareddau awyr agored, chwaraeon a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cofrestru cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau
- darparu gwybodaeth am weithgareddau i gyfranogwyr
- casglu a chofnodi manylion am y cyfranogwyr
- gwirio bod y manylion cofrestru wedi eu nodi, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cadarnhau'r trefniadau ar gyfer y gweithgaredd gyda'r cyfranogwyr
Prosesu trafodion ariannol
- cyfrifo cost y gweithgaredd y mae'r cyfranogwyr yn talu amdano
- derbyn taliad a phrosesu'r trafodyn, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cwblhau'r holl drafodion a llenwi cofnodion
- trosglwyddo taliadau o bob math a chofnodion i'r unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
- cyfeirio unrhyw broblemau ynghylch trafodion ariannol at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
Cynnal cofnodion manylion cofrestru
- cynnal a storio cofnodion manylion cofrestru, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cofrestru cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau
- yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cwblhau cofrestriadau, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- yr wybodaeth ddylid ei rhoi i ddarpar gyfranogwyr am y gweithgareddau sydd ar gael
- sut i gadarnhau trefniadau ar gyfer y gweithgaredd gyda'r cyfranogwyr a sicrhau eu bod yn deall
Prosesu trafodion ariannol
- sut i gyfrifo taliadau ar gyfer y gweithgareddau dan eich rheolaeth
- y gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
wrth:
5.1 ymdrin â thrafodion ariannol, gan gynnwys y rheini sy'n diogelu rhag twyll a lladrad
5.2 cyfrifo a chofnodi manylion pob taliad a dderbynnir
5.3 rhoi a chadw derbynebau a'r hyn ddylai gael ei gofnodi ar dderbynneb
5.4 storio taliadau, derbynebau a chofnodion ariannol eraill
- y problemau all godi wrth ymdrin ag arian
- pa broblemau gallwch ymdrin â nhw yn bersonol a pha rai dylid eu cyfeirio at yr unigolyn â chyfrifoldeb yn y sefydliad
Cadw cofnodion manylion cofrestru
- y gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer:
8.1 storio a throsglwyddo gwybodaeth
8.2 cadw a ffeilio cofnodion yn gywir ac effeithlon
8.3 cyfrinachedd a pham mae hyn yn bwysig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr* (o leiaf 4)
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- unigolion ag anghenion penodol
- newydd, di-brofiad
- y rheini â pheth profiad
- grwpiau
- unigolion
Dulliau talu (o leiaf 2)
- arian mân
- sieciau
- electronig
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
- cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
- bod yn onest trwy gydol eu gwaith
- annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
- croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
- ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
- gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
- dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
- cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
- parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau canlynol yn sail i ddarparu'r y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
- bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
- deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
- myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
- gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
- rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
- bod yn hyderus a gwydn
- addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
- gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
- adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
- meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
- dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
- grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
- grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Gofynion iechyd a diogelwch
Y rheini sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, codau ymarfer diwydiant, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (lle caiff y gweithgaredd ei reoli gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol) a gofynion eich sefydliad eich hun
Unigolion ag anghenion penodol
Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl â gofynion amrywiol neu ddiwylliannol
Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, y rhain yw'r gweithdrefnau gweithio a gytunwyd y mae'n rhaid eu dilyn, er enghraifft, mewn perthynas ag asesiadau risg, ymdrin ag eiddo personol, ymdrin â chwynion, cyfrinachedd, lefelau cyfrifoldeb, diogelu, codau ymarfer ynghylch cymarebau goruchwyliaeth, a'r camau i'w cymryd os na fydd gweithgaredd wedi ei gynnwys yng nghylch gorchwyl Corff Llywodraethu Cenedlaethol
Cyfranogwyr
Y bobl rydych chi'n eu harwain yn ystod y gweithgaredd
Cofnodion
Cofnodion yr holl drafodion ariannol, fel derbynebau papur, derbynebau ar gyfrifiaduron neu dderbynebau electronig, cyfanswm yr arian a dderbyniwyd a chyfanswm unrhyw arian a drosglwyddwyd i eraill
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwr gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag, dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad