Iechyd, diogelwch a llesiant wrth arwain gweithgareddau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phwysigrwydd iechyd a diogelwch y rhai sy'n cymryd rhan, eich cydweithwyr a chi eich hun yn ystod gweithgareddau rydych chi'n eu harwain. Mae hefyd yn rhestru'r gofynion sy'n gysylltiedig gyda diogelu, y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'ch holl ddyletswyddau arwain gyda phlant, pobl ifanc a neu oedolion bregus o dan eich gofal. Mae'r safon hon yn mynd i'r afael â'r gofyn i sefydlu eich dealltwriaeth eich hun am ddiogelwch a beth mae'n rhaid ichi ei wneud mewn sefyllfaoedd sy'n achosi niwed neu gamdriniaeth neu bosibilrwydd ohono. Mae'n amlygu ffyrdd o hyrwyddo llesiant a chefnogi'r rhai sydd o dan eich gofal er mwyn eu cadw'n ddiogel.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:**
- rheoli risgiau mewn sefyllfa lle byddwch chi'n arwain gweithgareddau
- delio gydag unrhyw anaf, helynt ac arwydd o salwch a dilyn dulliau gweithredu mewn argyfwng
- cyfrannu tuag at ddiogelwch parhaol plant, pobl ifanc a neu oedolion bregus
Rydym ni'n argymell y dylai staff fod wedi derbyn lefel briodol o hyfforddiant mewn diogelu plant a'u bod yn gyfarwydd gyda pholisïau a dulliau gweithredu eu sefydliad ar gyfer delio gyda chamdriniaeth posibl a datgelu unrhyw gamdriniaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli risgiau mewn sefyllfa lle byddwch chi'n arwain gweithgareddau
- dilyn gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad ar gyfer:
1.1 asesiad manteision a risg
1.2 cymhareb yr arweinwyr gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
1.3 adnabod risgiau newydd yn ystod y gweithgareddau
1.4 adnabod a lleihau unrhyw beryglon
- cyfeirio unrhyw risgiau a pheryglon na allwch chi ymdrin â nhw i berson cyfrifol yn y rhaglen
- asesu parodrwydd y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd rhan yn y gweithgareddau
- cyfrannu at sicrhau bod diogelwch y rhai sy'n cymryd rhan yn cael ei fonitro a'i gynnal trwy gydol y gweithgaredd
Delio gydag unrhyw anaf, helynt ac arwydd o salwch a dilyn dulliau gweithredu mewn argyfwng
- dilyn gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad ar gyfer:
5.1 delio gydag argyfwng
5.2 amddiffyn y sawl sydd wedi anafu rhag niwed pellach
5.3 rhoi gwybod am unrhyw beth a fu bron â digwydd, damweiniau ac unrhyw helynt
Cyfrannu tuag at ddiogelwch parhaol dros blant, pobl ifanc a neu *oedolion bregus*
- cyfrannu tuag at waith monitro llesiant corfforol ac emosiynol plant, pobl ifanc a neu oedolion bregus, yr ydych chi'n gweithio gyda nhw
- dilyn polisïau cyfreithlon a pholisïau, dulliau gweithredu ac ethos eich sefydliad er mwyn
cynnwys pawb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli risgiau mewn sefyllfa lle byddwch chi'n arwain gweithgareddau
- gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad er mwyn cwblhau asesiadau manteision a risg
- dulliau o roi gwybod am unrhyw risg neu berygl a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
- peryglon iechyd a diogelwch cyffredin sy'n gysylltiedig gyda gweithgareddau yn yr awyr agored a'r risgiau penodol sy'n gysylltiedig gyda'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu
- ffyrdd o bwyso a mesur y risgiau posibl sy'n rhan o'r amgylchedd, y lleoliad a'r
weithgaredd
- sut mae ymchwilio i'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer risgiau penodol sy'n gysylltiedig gyda'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu
- gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad ynghylch cymhareb yr arweinwyr gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
- dulliau o asesu fod y rhai sy'n cymryd rhan yn barod i gymryd rhan yn y gweithgareddau
sydd wedi'u trefnu
Delio gydag unrhyw anaf, helynt ac arwydd o salwch a dilyn dulliau gweithredu mewn argyfwng
- gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad ar gyfer delio gydag unrhyw argyfwng, cysylltu gyda'r gwasanaethau brys a rhoi gwybod am unrhyw ddamwain, argyfwng a phethau a fu bron â digwydd
- y mathau o anafiadau a salwch allai ddigwydd yn eich maes gwaith a sut mae delio gyda'r rhain cyn bod cynorthwywr cymwysedig yn cyrraedd
- pwy ydy'r cynorthwywr cymorth cyntaf ar y safle a sut mae cysylltu gyda nhw
- pam ei bod hi'n bwysig amddiffyn y sawl sydd wedi anafu rhag niwed pellach
Cyfrannu tuag at ddiogelwch parhaol plant, pobl ifanc a neu *oedolion bregus*
- gofynion cyfreithiol a pholisïau a dulliau gweithredu eich sefydliad ar gyfer monitro, herio a rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn ag unrhyw arfer a all arwain at fwlio, niwed neu gamdriniaeth
- y cydrannau unigol sy'n creu pryderon diogelu a'u heffaith ar blant, pobl ifanc a neu oedolion bregus
- sut mae adnabod arwyddion corfforol ac ymddygiadol sy'n rhoi rheswm dros bryderu
- rôl y person penodedig yn eich sefydliad a sut mae cysylltu gyda nhw
- pam ei bod hi'n bwysig ei gwneud hi'n amlwg i blant, pobl ifanc a neu oedolion bregus bod angen rhoi gwybod os ydyn nhw'n datgelu pryderon am ddiogelwch i'r person penodedig
- sut mae cysuro a chefnogi, ond eto nid rhoi pwysau ar nac arwain plant, pobl ifanc a neu oedolion bregus i ddatgelu mwy na'r hyn maen nhw'n dymuno ei wneud
- pam fod rhai plant, oedolion ifanc a neu oedolion bregus yn gallu bod mewn mwy o berygl
- sut mae codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc o ddiogelwch personol
- pam ei bod hi'n bwysig diogelu eich amddiffyniad eich hun wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc a neu oedolion bregus
- y polisiau cyfreithiol a sefydliadol, dulliau gweithredu ac ethos eich sefydliad er mwyn cynnwys pawb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Y rhai sy'n cymryd rhan* (o leiaf 4)
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- unigolion gydag anghenion penodol
- newydd a dibrofiad
- y rhai sydd ag ychydig o brofiad
- grwpiau
- unigolion
Risgiau
- generig
- yn benodol i'r gweithgaredd
Peryglon (o leiaf 2)
- lleoliad
- yr amgylchedd
- yr offer ddim yn gweithio
- salwch
Gwybodaeth Cwmpas
Gofynion cyfreithiol**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rhoi gwybod am y Rheoliadau ynglŷn ag Anaf, Afiechyd neu Ddigwyddiad Peryglus
- Deddf Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
Cymhareb
- nifer yr arweinwyr
- nifer yr bobl sy'n cymryd rhan
- cymesur â gallu, profiad ac oedran y rhai sy'n cymryd rhan
- cymesur â'r risgiau sy'n gysylltiedig gyda'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu
Pryderon diogelu
- corfforol
- esgeuluso
- emosiynol
- rhywiol
- bwlio
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
- cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
- bod yn onest trwy gydol eu gwaith
- annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
- croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
- ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
- gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
- dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
- cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
- parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
- dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
- bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
- deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
- myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
- gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
- rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
- bod yn hyderus a gwydn
- addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
- gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
- adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
- meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
- dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
- grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
- grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Claf**
Person sydd wedi brifo neu yn dioddef o salwch
Argyfwng
Unrhyw sefyllfa sy'n bygwth iechyd a diogelwch y rhai sy'n cymryd rhan neu bobl eraill sydd yn eich gofal
Gwasanaethau brys
Gan amlaf y gwasanaeth ambiwlans
Perygl
Mae hwn yn rhywbeth sy'n beryglus, neu sy'n gallu achosi niwed
Gofynion iechyd a diogelwch
Y rhai sy'n ofynnol trwy'r gyfraith, codau ymddygiad a rheolau eich sefydliad eich hun
Unigolion gydag anghenion penodol
Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy o her iddyn nhw na'r arfer, er enghraifft, pobl gyda chyflwr meddygol, pobl sy'n rhy drwm, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, merched beichiog, pobl anabl sy'n cymryd rhan a phobl gyda gofynion amrywiol neu ddiwylliannol. Efallai y bydd angen rhoi sylw arbennig i rai unigolion o'r grwpiau hyn yn dilyn unrhyw ddamwain neu argyfwng
Polisïau a dulliau gweithredu'r sefydliad
Yn ogystal â gofynion cyfreithiol statudol, dyma'r dulliau gweithredu cytunedig sydd angen eu dilyn, er enghraifft, o ran asesiadau risg, delio gydag eiddo personol, delio gyda chwynion, cyfrinachedd, lefel o gyfrifoldeb, diogelwch, côd ymarfer sy'n gysylltiedig â chymarebau goruchwylio, a beth sydd angen ei wneud pan na fydd Corff Llywodraethol Cenedlaethol yn gofalu am weithgaredd
Y rhai sy'n cymryd rhan
Y rhai rydych chi'n eu harwain yn ystod y gweithgaredd
Lefel gymesur a neu gymhareb o oruchwyliaeth
Mae'r lefel goruchwylio gan amlaf yn seiliedig ar gymhareb, ond, yr arfer orau ydy ei seilio hefyd ar ystyriaeth lawn o'r gweithgaredd a lefel gallu'r rhai sy'n cymryd rhan
Cymorth cymwysedig
Mewn achos lle bydd damweiniau neu unrhyw argyfwng meddygol, gall y person hwn fod y Cynorthwyydd Cymorth Cyntaf, y gwasanaethau brys, er enghraifft y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân a gwasanaethau achub eraill, er enghraifft, achubwr bywyd, gwyliwr y glannau, achubwyr mynydd
Pobl Ifanc
Yn gyffredinol mae hyn yn golygu y rhai sy'n cymryd rhan sydd o dan 18 oed, ond cyfeiriwch at bolisïau eich sefydliad chi