Meithrin, cynnal a chadw, ac adfer cudynnau

URN: SKAAH9
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â meithrin, cynnal a chadw, ac adfer cudynnau mewn gwallt math Affricanaidd. Mae'n ofynnol bod â'r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau cudynnu a gradd uchel o fedrusrwydd corfforol.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth gudynnu gwallt

     meithrin cudynnau

  2. cynnal a chadw cudynnau

  3. adfer cudynnau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth gudynnu gwallt

*
 *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r niwed i offer steilio

7.3 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.5 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol 

  2. dilyn cyfarwyddiadau gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion 

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Meithrin cudynnau

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn ac yn ystod y gwasanaeth cudynnu

  2. paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n addas i'r steil a'r math o gudynnau a gytunwyd

  3. defnyddio technegau ymrannu sy'n sicrhau dinoethiad minimal croen y pen

  4. sicrhau unrhyw wallt nad ydi'n cael ei gudynnu er mwyn cadw pob adran yn glir yn y golwg  

  5. cynnal a chadw tensiwn priodol a chyson trwy gydol y gwasanaeth cudynnu

  6. cudynnu ad-dyfiant gwraidd mewn modd sy'n sicrhau parhad cydwedd o'r cudynnau presennol

  7. cyfuno ac addasu'ch technegau cudynnu gan gymryd  i ystyriaeth ffactorau sy'n dylanwadu cyflawniad yr olwg a ddymunir

  8. defnyddio technegau cudynnu mewn modd sy'n osgoi niwed i'r gwallt a chroen y pen 

  9. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn silindraidd ac o faint cyson a thensiwn cyfartal trwy gydol ei hyd

  10. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn cyfarfod â'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a foliwm a fwriadwyd ac a gytunwyd â'ch cleient

  11. taenu cynhyrchion steilio a gorffennu addas sy'n gwella'r olwg a ddymunir

  12. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig

Cynnal a chadw cudynnau

  1. glanhau a thrin gwallt eich cleient gan ddefnyddio cynhyrchion priodol, os oes angen

  2. sicrhau bod eich technegau cudynnu'n gadael i dyfiant newydd a'r cudyn presennol i asio â'i gilydd yn gyson

  3. sicrhau y caiff cudynnau sy wedi'u hail-droelli cael eu sychu, lle bo'n berthnasol

  4. sicrhau bod ail-dwistio'n gadael steil y cleient i aros gyda'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a foliwm a fwriadwyd

  5. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon gyda'r olwg orffenedig

Adfer cudynnau

  1. glanhau a thrin gwallt eich cleient gan ddefnyddio cynhyrchion priodol cyn ymgymryd â'r gwaith adferol, os oes angen

  2. dewis y technegau cudynnu ac adfer mwyaf addas i'ch cleient gan gymryd i ystyriaeth y ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y gwasanaeth

  3. defnyddio'r maint cywir o wallt ychwanegol sy'n cydweddu â'r lliw a'r gwead i adfer y cudyn i'w faint presennol 

  4. sicrhau bod eich technegau adfer yn gadael unrhyw uniadau wedi'u hasio'n gyson and yn gadarn 

  5. sicrhau nad ydi'r cudyn a adferwyd yn amlwg i'r llygad

  6. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon gyda'r gwaith adferol

  7. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth feithrin, cynnal a chadw, ac adfer cudynnau * *

*
 *

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn 

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  5. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  7. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch **yn eich gweithle

  8. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  10. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  12. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  13. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer meithrin, cynnal a chadw, ac adfer cudynnau

*
 *

Meithrin cudynnau

*
 *

  1. sut i weithredu'r technegau cudynnu

  2. pam ei bod yn bwysig cychwyn y cudyn ar y maint cywir ar gyfer math gwallt y cleient, ei ddwysedd a'r hyd a fwriadwyd

  3. sut i adrannu gan ddefnyddio technegau bric a diemwnt i bwrpasau cudynnu a pham y defnyddir y math yma o adrannau

  4. dulliau asio a sicrhau gwallt ychwanegol i mewn i wallt eich cleient i bwrpasau  adfer 

  5. sut i farnu faint o wallt i'w ychwanegu er mwyn cyflawni golwg cytbwys a chymesur

  6. sut y gall gwahanol ffactorau ddylanwadu eich dewis o dechnegau cudynnu a'r amser a gymer i'r cudyn ffurfio

  7. sut a phryd i weithredu ôl-gribo fel rhan o'r broses cudynnu a pham bod hyn yn angenrheidiol

  8. y dulliau o sicrhau bod y cudynnau'n gorwedd yn agos at groen y pen yn ystod y meithrin a'r cynnal a chadw

  9. y goblygiadau posib o densiwn gormodol ar y gwallt a chroen y pen

  10. effaith y technegau cudynnu ar strwythur y gwallt naturiol

  11. cyfnodau datblygiad y broses cudynnu   

  12. y mathau o gynhyrchion ac offer steilio a gorffennu sy ar gael ar gyfer y gwasanaeth cudynnu 

26 addasrwydd cynhyrchion ac offer i'w defnyddio gyda gwahanol fathau o wallt ac er mwyn cyflawni'r gwahanol effeithiau

  1. sut i ddelio â gwahanol offer cudynnu

  2. sut i adnabod cronni mewn cynnyrch neu ffibr a pham bod hyn yn digwydd

  3. dulliau o dynnu'r cynnyrch sy wedi cronni a pham mor aml y dylid gwneud hyn

Cynnal a chadw, ac adfer cudynnau


*

  1. pam ei bod hi'n bwysig llyfnhau'r gwallt cyn adfer cudynnau

  2. sut i drafod y gwallt wrth ail-dwistio ac adfer cudynnau er mwyn sicrhau bod y maint yn gymesur â chudynnau presennol

  3. pwysigrwydd defnyddio'r maint, lliw a'r gwead cywir o wallt ychwanegol wrth adfer cudynnau

  4. y dulliau o adfer cudynnau

  5. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion


*

1.1 gel

1.2 trwythau planhigion

1.3 olew

2. Offer


*

2.1 cribau

2.2 bachau

2.3 clipiau

3. Cudynnu


*

3.1 gwallt naturiol llond pen

3.2 llond pen gwallt mewn gweddnewidiad 

4. Technegau adrannu

* *

*

4.1 **bric

4.2 diemwnt

5. Technegau cudynnu


*

5.1 lapio

5.2 rholio cledr llaw

5.3 twistio

5.4 cydblethu

**

  1. Ffactorau**


*

6.1 nodweddion gwallt

6.2 dosbarthiadau o wallt

6.3 yr olwg a ddymunir

6.4 maint yr ad-dyfiant gwraidd

6.5 gweddnewidiad

6.6 maint cudynnau presennol

6.7 alopesia

7. Technegau adfer

*

7.1 ymgorffori gwallt ychwanegol

7.2 ail-glymu cudynnau presennol

7.3 cywiro anghysondebau trwch cudynnau

**8. Cyngor ac argymhellion

**

8.1 sut i gynnal a chadw'u golwg

8.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

8.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Cyngor ac argymhellion


*

3.1 Gwasanaethau ychwanegol

3.2 Cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar 

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i hangen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Cyfnodau datblygiad cudynnu


*

3.1 Cam blaguro – Pan fo'r gwallt yn dechrau cydblethu a rhwyllo i ffurfio cam cyntaf y broses cudynnu.

3.2 Cam tyfu – Lle bo cudynnau'r gwallt yn cydblethu i ffurfio uned gadarn.

3.3 Cam aeddfed – Mae'r cudyn bellach wedi'i gordeddu'n llwyr i roi golwg tynnach tebyg i raff.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATH14

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Meithrin; cudynnau; gwallt naturiol; technegau cudynnu;