Steilio gwallt gan ddefnyddio technegau steilio thermal

URN: SKAAH8
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â steilio gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau thermal. Mae'n ofynnol bod â'r gallu i steilio'n thermal gwallt wedi'i drin yn gemegol yn a gwallt naturiol fel ei gilydd.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau steilio thermal

  2. paratoi gwallt a chyfarpar ar gyfer steilio thermal

  3. creu amrywiaeth golwg ffasiwn gan ddefnyddio technegau steilio thermal


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau steilio thermal

* *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth steilio thermal

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r niwed i offer a chyfarpar steilio thermal

7.3 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.5 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol 

  2. dilyn cyfarwyddiadau gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel offer a chyfarpar steilio thermal, deunyddiau a chynhyrchion

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Paratoi gwallt a chyfarpar ar gyfer steilio thermal

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn dechrau'r gwasanaeth

  2. dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar steilio thermal addas i gyflawni'r olwg a gytunwyd gyda'r cleient

  3. sicrhau bod yr offer steilio thermal a'r ffwrn ar y tymheredd gofynnol mewn pryd ar gyfer y gwasanaeth

  4. profi tymheredd yr offer steilio thermal cyn eu defnyddio

  5. cynghori eich cleient o'r anesmwythdra posib ynghlwm â steilio thermal

Creu amrywiaeth golwg ffasiwn gan ddefnyddio technegau steilio thermal

  1. rheoli eich offer steilio thermal er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt, anesmwythdra i'r cleient ac i gyflawni'r olwg a ddymunir

  2. rhannu'r adrannau'n glir a chydradd i lwyddo cael cyfeiriad y steil a ddymunir 

  3. cymryd rhwyllau o wallt sy'n addas i faint yr heyrn thermal

  4. taenu cynhyrchion steilio priodol gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  5. rheoli gwallt eich cleient yn ystod y broses steilio thermal gan gymryd i ystyriaeth ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  6. defnyddio technegau steilio er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir

  7. cadw'r offer steilio thermal ar y tymheredd angenrheidiol ar gyfer y gwallt 

  8. cyfuno ac addasu'ch technegau steilio mewn dull arloesol er mwyn cyflawni'r olwg a'r steil a ddymunir

  9. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn cyfarfod â'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a foliwm a fwriadwyd ac a gytunwyd â'ch cleient

  10. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio gwallt yn thermal

* *

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn 

  3. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  4. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  5. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. yr ystyriaethau diogelwch sy raid eu cymryd i ystyriaeth wrth steilio gwallt yn thermal

  7. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  8. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  9. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  10. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  11. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  13. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  14. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio gwallt yn thermal

Paratoi gwallt a chyfarpar ar gyfer steilio thermal

  1. sut a phryd i ddefnyddio'r gwahanol fathau o offer a chyfarpar steilio thermal

  2. y gwahanol fathau o gynhyrchion steilio sy ar gael ar gyfer steilio thermal a sut a phryd i'w defnyddio

  3. pam ei bod hi'n bwysig i brofi tymheredd y cyfarpar steilio thermal yn barhaus

  4. dulliau o brofi tymheredd cyfarpar steilio thermal

  5. pwysigrwydd cadw offer steilio thermal yn rhydd o olewau gormodol a chynnyrch sy'n cronni 

Creu amrywiaeth golwg ffasiwn gan ddefnyddio technegau steilio thermal

* *

  1. pwysigrwydd rheoli offer a chyfarpar steilio thermal er mwyn atal y risg o niwed i wallt y cleient

  2. pam bod rhaid adrannu gwallt ar gyfer steilio thermal

  3. sut mae maint yr adran o wallt a'r ongl caiff y gwallt ei gyrlio yn dylanwadu foliwm a chyfeiriad symudiad gwallt

  4. yr effeithiau y gellir eu cyflawni trwy ddefnydd technegau steilio thermal

  5. y mathau o broblemau a all godi wrth sythu â chrib poeth a steilio thermal a sut i'w cywiro

  6. y problemau a achosir trwy orddefnydd cynhyrchion amddiffynnol a steilio a sut i'w datrys 

  7. y gwahanol ffactorau sy raid eu cymryd i ystyriaeth cyn ac yn ystod steilio thermal a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth

  8. effeithiau ffisegol steilio thermal a sythu â chrib poeth ar strwythur y gwallt

  9. pam bod rhaid trin gwallt gwyn yn wahanol wrth steilio'n thermal

  10. sut i addasu technegau steilio thermal wrth weithio ar wallt gydag ad-dyfiant gwraidd

  11. effeithiau lleithder ar wallt

  12. pam y dylid gadael i wallt oeri cyn trin i orffen

  13. sut mae'r broses steilio thermal yn effeithio ar wallt wedi'i byrmio'n flaenorol

  14. pam y dylai tymheredd y cyfarpar steilio thermal amrywio ar gyfer gwahanol nodweddion gwallt

  15. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer steilio thermal

* *

1.1 heyrn fflat

1.2 heyrn cyrlio

1.3 heyrn cwrl casgen

1.4 heyrn pensel

1.5 crib sychu poeth

2. Cyfarpar

* *

2.1 ffwrn

2.2 deunyddiau profi gwres

3. Gwallt

* *

3.1 wedi'i drin yn gemegol

3.2 naturiol

4. Ffactorau

* *

4.1 nodweddion gwallt

4.2 dosbarthiadau o wallt

4.3 ad-dyfiant gwraidd y gwallt

4.4 presenoldeb gwallt gwyn

5. Technegau Steilio

* *

5.1 cyrlio

5.2 tonni

5.3 sythu

6. Cyngor ac argymhellion

6.1 sut i gynnal eu golwg

6.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

6.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y gwahanol ffactorau sy raid eu hystyried cyn ac yn ystod y broses plethu a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaethau

3.1 dosbarthiadau gwallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 yr olwg a ddymunir

3.4 alopesia

4. Cyngor ac argymhellion

* *

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Sychu â chrib poeth – techneg sy'n defnyddio crib sychu thermal i sythu'r gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATH30

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Steilio; thermal; cyfarpar; gwallt wedi’i drin yn gemegol; gwallt naturiol;