Darparu amrywiaeth o wasanaethau llacio

URN: SKAAH7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu gwasanaethau llacio argymhellol. Mae'n ofynnol bod â'r gallu i ddadansoddi materion llacio, delio â gwallt wedi'i drin yn gemegol, gwallt wedi'i sensiteiddio a chynllunio a chytuno ar gamau gweithredu, gan y gall y driniaeth bara dros gyfnod o amser a nifer o apwyntiadau.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu amrywiaeth o wasanaethau llacio

  2. dadansoddi'r gwallt a chroen y pen

  3. cynllunio a chytuno ar gamau gweithredu

  4. darparu gwasanaethau llacio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu amrywiaeth o wasanaethau llacio


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

7.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Dadansoddi'r gwallt a chroen

  1. defnyddio technegau dadansoddi i sefydlu natur a maint y gwasanaeth llacio a ofynnir gan eich cleient

  2. adnabod o gofnodion blaenorol eich cleient, os ar gael, hanes eu gwallt a sut y gall hyn effeithio ar y gwasanaeth llacio

  3. gofyn cwestiynau i'ch cleient er mwyn canfod os oes ganddyn nhw unrhyw wrth-arwyddion i'r gwasanaethau llacio 

  4. gofyn cwestiynau i'ch cleient er mwyn hel gwybodaeth am eu materion llacio a'r canlyniad yr hoffen nhw'i weld.

  5. cofnodi ymateb eich cleient i'r cwestiynu

  6. cynnal ystod o brofion ar wallt a chroen eich cleient gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant

  7. cymryd y camau priodol pan fo gwrth-arwyddion ac/neu adweithiau i brofion yn achosi amheuon gyda golwg ar addasrwydd y gwasanaeth llacio i'r cleient

  8. adnabod yr opsiynau gwasanaeth a'r cynhyrchion sy ar gael i ddatrys materion llacio eich cleient, yn seiliedig ar ganlyniadau eich dadansoddiad


*

Cynllunio a chytuno ar gamau gweithredu

  1. cyflwyno opsiynau addas ar gyfer camau gweithredu mewn modd y gall eich cleient ei ddeall

  2. seilio eich argymhellion ar ganlyniadau eich dadansoddiad

  3. esbonio'r tebygolrwydd o gyflawni a chadw'r radd ofynnol o sythder i'ch cleient 

  4. esbonio unrhyw gyfyngiadau gall eich argymhellion eu cael ar wasanaethau trin gwallt pellach

  5. ennill a chofnodi cytundeb eich cleient i'r gwasanaeth, cynhyrchion a'r deilliant a ragwelir

  6. dewis cynhyrchion ac offer yn seiliedig ar ganlyniadau eich dadansoddiad, profion, ymgynghoriad â'ch cleient a ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth  

  7. paratoi cynhyrchion gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  8. diogelu llinell y gwallt a chroen y pen cyn llacio

  9. taenu triniaeth cyn-lacio er mwyn llyfnhau amsugnedd y gwallt neu i ddiogelu gwallt wedi'i drin yn gemegol yn flaenorol

Darparu gwasanaethau llacio

  1. paratoi gwallt eich cleient ar gyfer y:

29.1 cynhyrchion sy i'w defnyddio

29.2 gwasanaeth llacio gofynnol

29.3 dull o daenu

29.4 cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  1. ddewis a defnyddio cynhyrchion llacio o'r un llinell cynnyrch trwy gydol y gwasanaeth gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  2. taenu'r math a'r maint o gynnyrch i gyfarfod â gofynion eich dadansoddiad a'r canlyniad gofynnol 

  3. gweithredu'r gwasanaeth llacio, gan gymryd i ystyriaeth ffactorau dylanwadol

  4. defnyddio'r technegau taenu sy'n lleihau'r risg i'r llaciwr ledu dros groen a  dillad y cleient a'r mannau cyfagos

  5. monitro'n aml ddatblygiad y cynnyrch, gan gymryd profion cudyn, fel bo'r angen

  6. addasu a chymhwyso'ch cynllun gweithredu er mwyn datrys unrhyw broblemau anweledig

  7. monitro cyfforddusrwydd eich cleient ar gyfnodau rheolaidd trwy gydol y gwasanaeth llacio

  8. cyflawni gradd o sythder a ragwelwyd

  9. tynnu unrhyw gemegau mewn modd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  10. addasu tymheredd, pwysedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn diogelu cyflwr y gwallt

  11. adfer cydbwysedd pH y gwallt gan ddefnyddio triniaeth llacio addas

  12. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth lacio gwallt* ** *


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  4. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  6. yr ystyriaethau diogelwch sy raid eu cymryd i ystyriaeth wrth berfformio'r gwasanaeth llacio

  7. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  8. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn 

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  10. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  11. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw **iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  13. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  14. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio gwallt

Dadansoddi'r gwallt a chroen y pen

  1. yr arwyddocâd cyfreithiol o gwestiynu'r cleient a chofnodi ymatebion y cleient

  2. sut a pham y gall y gwrth-arwyddion effeithio ar gyflwyniad y gwasanaeth llacio i gleientiaid

  3. sut y gall dadansoddiad o wallt a chroen y pen effeithio ar y dewis o gynhyrchion a ddefnyddir

  4. pryd a sut y dylid cynnal y profion a'r canlyniadau disgwyliedig

  5. sut y gall canlyniadau'r profion ddylanwadu ar y gwasanaeth llacio

  6. y goblygiadau posib o fethu â chynnal profion

  7. pam ei bod yn bwysig i gofnodi canlyniadau profion

  8. y camau gweithredu i'w cymryd yn achos adweithiau croes i brofion a'r gwrth-arwyddion yn yr amrediad

  9. terfynau eich awdurdod eich hunain ynglŷn â datrys materion llacio

  10. y person y dylech riportio problemau iddyn nhw na allwch chi'u datrys

  11. rheoliadau mewn perthynas â defnydd cynhyrchion llacio a normaleiddio

Cynllunio a chytuno ar gamau gweithredu


*

  1. pwysigrwydd cyflwyno a chytuno ar gamau gweithredu mewn ffordd y bydd eich cleient yn ei ddeall

  2. sut y gall nodweddion gwallt effeithio ar lacio gwallt

  3. y gwahanol ddosbarthiadau o wallt a sut y gall y rhain effeithio ar lacio gwallt

  4. effeithiau cynhyrchion llacio ar strwythur y gwallt

  5. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddewis cynhyrchion llacio sodiwm neu heb sodiwm

  6. y gwahanol fathau a'r defnydd o driniaethau cyn ac ôl-lacio sy ar gael  

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer y mathau o gynhyrchion llacio a ddefnyddir yn eich salon

  8. y gwahanol fathau o ddodwyr a ddefnyddir yn ystod triniaethau llacio

  9. pam ei bod hi'n bwysig i ddefnyddio diogelwyr croen y pen

  10. y buddion ac effeithiau oddifewn i driniaethau cyn ac ar ôl 

  11. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus

Darparu gwasanaethau llacio


*

  1. pwysigrwydd paratoi gwallt y cleient cyn y gwasanaethau llacio

  2. y gwahaniaeth rhwng cynhyrchion llacio sodiwm a'r rhai heb sodiwm

  3. y dilyniant o daenu cynnyrch i gywiro'r gwasanaethau llacio yn yr amrediad a pham bod hyn yn bwysig

  4. sut mae lithiwm, calsiwm a gwanidin yn ymddwyn i newid strwythur y gwallt

  5. goblygiadau defnyddio cynnyrch hydrocsid ar wallt wedi'i drin ag amoniwm thioglycolad

  6. sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng amsugnedd gwallt a cheratineiddiad naturiol

  7. y canran o hyd gwallt sy'n dderbyniol i'w adael wrth drosglwyddo o gynnyrch amoniwm thioglycolad i gynnyrch hydrocsid 

  8. sut i greu diffiniad gwallt

  9. y dull o wirio datblygiad llaciwr

  10. y dull o wirio datblygiad wrth greu diffiniad

  11. achosion tan-brosesu hyd canolig, diwedd a gwraidd a sut i'w cywiro

  12. canlyniadau tan-brosesu a gor-brosesu'r gwallt

  13. sut mae siampŵau niwtraleiddio'n gweithio a'u heffaith ar strwythur y gwallt

  14. pryd na ddylid defnyddio triniaethau llacio cywirol

  15. y canlyniadau posib o ddefnyddio cynhyrchion llacio ar wallt wedi'i drin â lliw a gwallt gwyn a sut i ddelio â nhw

  16. pwysigrwydd ac effeithiau adfer cydbwysedd pH y gwallt wedi'r broses llacio

  17. pwysigrwydd amseru manwl gywir

  18. pam ei bod yn angenrheidiol rinsio'r cynhyrchion yn drwyadl

  19. pwysigrwydd bod â threigl amser digonol rhwng gwasanaeth llacio a llacio cywirol

  20. yr anesmwythdra y gall cleientiaid ei brofi yn ystod y broses llacio a pham ei bod yn bwysig cadw golwg ar eu lles

  21. sut i ddelio â chosi poenus croen y pen yn ystod ac wedi'r broses llacio

  22. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 diogelwyr croen y pen

1.2 llaciwr sodiwm

1.3 llaciwr heb sodiwm

1.4 triniaethau cyn-llacio

1.5 triniaethau ôl-lacio

1.6 siampŵ normaleiddio

2. Profion

2.1 elastigedd

2.2 amsugnedd

2.3 cudynnau

3. Gwasanaethau llacio

3.1 cywiro tan-brosesu

3.2 llacio rhannol

3.3 llacio gan amrywio gwead ar yr un pen

3.4 llacio gwallt wedi'i liwio

4. Dadansoddiad

4.1 nodweddion gwallt

4.2 dosbarthiadau o wallt

4.3 cyflwr croen y pen

4.4 gwasanaethau cemegol blaenorol

4.5 gradd o lacio sy'i hangen

4.6 yr ardal darged i'w llacio

4.7 amrywio gradd elastigedd

4.8 amrywio gradd amsugnedd


*

5. Offer

5.1 cribau cynffon hir

5.2 cribau mân llydan

5.3 dwylo

5.4 brwsys lliwio

6. Ffactorau

6.1 tymheredd

6.2 amser

6.3 dilyniant y taenu

6.4 gwallt gwyn

6.5 graddau cronni'r cynnyrch


*

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal eu golwg

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion ychwanegol

7.4 gwasanaethau ychwanegol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Cyngor ac argymhellion


*

3.1 gwasanaethau ychwanegol

3.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o cyfaint a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Gwrth-arwyddion

3.1 Cyflyrau sy'n dynodi na ddylid cynnal a gweithredu'r gwasanaeth.

*
 *

4. Cynhyrchion Normaleiddio

4.1 Triniaethau ôl-lacio a siapau ydi'r rhain. Fe'u gelwir weithiau yn 'sefydlogyddion' neu gynhyrchion 'niwtraleiddio' ar gyfer y broses llacio.


*

5. Creu diffiniad (gan ddefnyddio cemegau)

5.1 Dull o lacio gwallt math Affricanaidd sy'n lleihau'r patrwm cwrl naturiol, gan adael y gwallt yn fwy ysgafn a haws ei drin. Fe weithredir y broses hon ar wallt hyd at 5cm (2 fodfedd) o hyd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATH26

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Materion llacio; gwallt wedi’i drin yn gemegol; gwallt wedi’i sensitieiddio; triniaeth; dadansoddi;