Steilio gwallt naturiol gan ddefnyddio technegau twistio a lapio

URN: SKAAH6
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r uned hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau twistio a lapio er mwyn steilio gwallt math Affricanaidd naturiol. Mae angen gradd uchel o fedrusrwydd.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau twistio a lapio

  2. steilio gwallt gan ddefnyddio technegau twistio a lapio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau twistio a lapio

*
 *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion steilio a gorffennu

7.2 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

7.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

  3. cyfeirio cleientiaid gyda chyflwr heb ei drin at feddyg teulu neu dricolegydd lle bo angen

  4. gwaredu deunyddiau gwastraff

  5. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Steilio gwallt gan ddefnyddio technegau twistio a lapio

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn dechrau'r gwasanaeth

  2. paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n addas i'r steil a gytunwyd

  3. bachu gwallt sy ddim yn cael ei steilio er mwyn cadw pob adran yn glir yn y golwg

  4. cadw tensiwn addas a chyson trwy gydol y broses steilio

  5. rheoli a gosod y gwallt yn yr olwg a ddymunir 

  6. cyfuno ac addasu'ch technegau twistio a lapio mewn modd sy'n cyflawni'r olwg a ddymunir

  7. defnyddio technegau twistio a lapio, gan gymryd i ystyriaeth y ffactorau sy'n dylanwadu cyflawniad yr olwg a ddymunir

  8. defnyddio technegau twistio a lapio mewn modd sy'n osgoi niwed i'r gwallt a chroen y pen

  9. sicrhau bod y torchau gorffenedig o faint unffurf, lle bo'n briodol

  10. sicrhau bod y torchau gorffenedig yn cael eu sychu, lle bo'n briodol

  11. sicrhau bod yr adrannau sy wedi'i lapio yn gadarn, silindraidd ac yn gorchuddio'r pen yn llwyr gyda thensiwn cyson trwyddi draw, lle bo'n berthnasol

  12. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn cyfarfod â'r cyfeiriad, y cydbwysedd a'r foliwm a fwriadwyd ac a gytunwyd â'ch cleient 

  13. taenu cynhyrchion steilio a gorffennu sy'n ategu a gwella'r olwg a ddymunir

  14. sicrhau bod yr olwg orffenedig yn ategu'n nodweddion eich cleient ac yn gwella'u delwedd

  15. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg derfynol

  16. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dwistio a lapio gwallt * *


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  4. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  6. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  7. pam ei bod hi'n bwysig gosod eich offer a chyfarpar i'w gwneud hi'n hawdd eu defnyddio'n

  8. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn 

  10. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  11. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  13. y cyflyrau gwallt a chroen y pen sy angen eu cyfeirio at feddyg teulu neu dricolegydd

  14. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  15. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio gwallt

Steilio gwallt gan ddefnyddio technegau twistio a lapio


*

  1. pwysigrwydd ymrannu'r gwallt yn fanwl gywir wrth dorchi a lapio 

  2. sut i drin gwallt wrth dorchi a lapio er mwyn cynnal tensiwn cywir a chyson 

  3. sut i gyfuno ac addasu gwahanol dechnegau twistio  

  4. sut mae gwahanol ffactorau'n effeithio ar y broses steilio a'r olwg orffenedig

  5. y gwahanol ffactorau y dylid eu hystyried cyn ac yn ystod y twistio a'r lapio a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth  

  6. y canlyniadau posib o densiwn gormodol ar y gwallt a chroen y pen

  7. sut i adnabod arwyddion cyntaf alopesia tyniant  

  8. y mathau ac achosion o alopesia

  9. sut i lapio gwallt

  10. y cyfeiriad, siâp, cydbwysedd a foliwm cywir wrth steilio gwallt

  11. pam ei bod hi'n bwysig lleithio'r gwallt wedi twistio a lapio

  12. y mathau o gynhyrchion ac offer steilio a gorffennu sy ar gael i lapio a thorchi gwallt 

  13. addasrwydd cynhyrchion i'w defnyddio wrth dorchi gyda gwahanol fathau o wallt ac er mwyn cyflawni'r gwahanol effeithiau

  14. sut y gall dorchi ar wallt gwlyb neu sych ddylanwadu ar yr olwg orffenedig

  15. sut i gadw'r steil a gytunwyd a sicrhau ei hirhoedledd

  16. sut i sicrhau tynnu'n ddiogel eu steil gwallt sy'n dorchog neu wedi'i lapio

  17. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion steilio a gorffennu

1.1 gel

1.2 chwistrell

1.3 olew

2. Technegau twistio a lapio

2.1 twistio allan

2.2 torchau crib ar groen y pen

2.3 torchau crib heb fod ar groen y pen

2.4 clymau Bantw

2.5 twistio fflat

3. Ffactorau

3.1 dosbarthiadau o wallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 yr olwg a ddymunir

3.4 alopesia

4. Cyngor ac argymhellion

4.1 sut i gynnal eu golwg

4.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

4.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol ​


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y gwahanol ffactorau sy raid eu hystyried cyn ac yn ystod y broses plethu a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaethau

3.1 dosbarthiadau gwallt

3.2 nodweddion gwallt

3.3 yr olwg a ddymunir

3.4 alopesia

4. Cyngor ac argymhellion


*

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

  1. Clymau Bantw – Cwlwm a ffurfir trwy blethu a chyrlio hyd o wallt nôl arno'i hun. Gellir ei sicrhau gyda band, os oes angen. Fe'u gelwir hefyd yn 'China Bumps' a 'Twist down'.

4. Twistiau crib – Lle mae gwallt yn cael ei droelli o amgylch crib arbennig er mwyn creu twist a all orwedd ar hyd croen y pen (sy'n cael ei adnabod fel 'ar groen y pen') neu i ffwrdd o groen y pen.

5. Twist fflat – Lle mae'r gwallt yn cael ei rolio a'i dwistio â llaw yn fflat ar groen y pen.

6. Twist allan - Twistio dau gudyn sy'n cael ei ddad-twistio wedi iddo sychu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH12

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Technegau twistio; lapio; gwallt naturiol;