Sychu a steilio gwallt naturiol

URN: SKAAH5
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â steilio gwallt math Affricanaidd naturiol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau sychu i sychu'r gwallt i baratoi at steilio pellach neu i greu golwg gorffenedig.

Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth sychu a steilio gwallt naturiol  

  2. sychu a steilio gwallt naturiol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth sychu a steilio gwallt naturiol* *


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

6.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

6.2 lleihau'r risg o draws-heintiad

6.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

6.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

6.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill

6.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

  1. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

  2. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

  3. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

  4. cyfeirio cleientiaid gyda chyflwr heb ei drin at feddyg teulu neu dricolegydd lle bo angen

  5. gwaredu deunyddiau gwastraff

  6. cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Sychu a steilio gwallt naturiol

  1. cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn dechrau'r gwasanaeth

  2. taenu cynhyrchion priodol yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr

  3. datglymu, ymrannu, torchi neu blethu'r gwallt cyn y gwasanaeth heb achosi difrod i'r gwallt

  4. rheoli eich offer a'ch cyfarpar steilio i leihau'r risg o niwed i'r gwallt, anesmwythdra i'r cleient ac i gyflawni'r golwg a ddymunir 

  5. cymryd rhwyllau o wallt sy'n addas i faint yr offer steilio, lle bo angen

  6. cynnal a chadw tensiwn cyson trwy gydol y broses steilio, pan fo angen

  7. cadw'r gwallt yn llaith gyda dŵr trwy gydol y broses steilio, lle bo angen

  8. gadael y gwallt gyda'r maint angenrheidiol o leithder ac ysgafnder, wrth baratoi ar gyfer steilio pellach

  9. rheoli gwallt eich cleient yn ystod y gwasanaeth gan gymryd i ystyriaeth ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth

  10. defnyddio technegau sychu sy'n cyflawni'r olwg a ddymunir

  11. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg derfynol

  12. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth sychu a steilio gwallt naturiol


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  4. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  6. sut i ddefnyddio a chynnal offer torri'n gywir

  7. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  8. dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **

  10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn    

  12. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw **iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  13. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  14. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio gwallt

Sychu a steilio gwallt naturiol

  1. y gwahanol fathau o gynhyrchion, offer a chyfarpar sy ar gael i steilio a sychu gwallt

  2. pam, pryd a sut i ddefnyddio'r gwahanol fathau o offer, cynhyrchion a chyfarpar steilio 

  3. y technegau presennol ar gyfer sychu, steilio a gorffen gwallt

17.1 tensiwn

17.2 maint rhwyll gwallt

17.3 maint brws

17.4 yr ongl i ddal y brws

17.5 peidio gadael i'r gwallt oeri cyn tynnu'r rhwyll gwallt o'r brws

  1. dulliau o ymrannu, datglymu, torchi a phlethu gwallt i bwrpasau sychu a steilio a pham bod hyn yn bwysig

  2. sut mae maint yr ymraniad ac ongl cyrlio'r gwallt yn dylanwadu ar foliwm a chyfeiriad symudiad y gwallt

  3. pam bod cyfeiriad y llif aer wrth sychu a steilio'n bwysig er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir

  4. pwysigrwydd rheoli'ch offer a chyfarpar steilio er mwyn lleihau'r anesmwythdra i'r cleient a'r niwed i wallt y cleient

  5. y cynnwys lleithder a'r graddau o ysgafnder sy'n ofynnol ar gyfer gwahanol fathau o dechnegau sychu a steilio a pham bod hyn yn bwysig 

  6. sut y gall y defnydd anghywir o wres effeithio ar y gwallt a chroen y pen

  7. pam y dylid gadael i wallt oeri cyn y cwblhad

  8. sut mae gwahanol ffactorau'n effeithio ar y prosesau sychu a steilio a'r olwg orffenedig

  9. sut y gall nodweddion gwallt effeithio ar sychu a steilio gwallt naturiol  

  10. y gwahanol fathau o ddosbarthiadau gwallt a sut y gall y rhain effeithio ar sychu a steilio gwallt naturiol 

  11. effeithiau lleithder yr awyr ar wallt

  12. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion

1.1 amddiffynnydd gwres

1.2 olewau

1.3 lleithyddion

1.4 chwistrellau

2. Ffactorau

2.1 dosbarthiadau o wallt

2.2 nodweddion gwallt

2.3 trawsnewidiad

3. Technegau sychu

3.1 chwyth-sychu

3.2 sychu â thywel

3.3 sychu â'r bysedd

4. Cyngor ac argymhellion

4.1 sut i gynnal eu golwg

4.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

4.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Cyngor ac argymhellion


*

3.1 gwasanaethau ychwanegol

3.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:

1.1. parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion

1.15 sgiliau arweinyddiaeth


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar  

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7  addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau   cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleientiaid

1.12  caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr  eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

**

  1. Trawsnewid** – tyfu allan o wallt wedi'i byrmio neu'i lacio er mwyn dychwelyd at gyflwr naturiol y gwallt.

**

  1. Gwallt Naturiol* – *gwallt sy'n parhau i fod â'i strwythur naturiol, boed hynny wedi'i dorchi'n dynn neu'n rhydd. Defnyddir y term hwn mewn perthynas â gwallt math Affricanaidd.

**

  1. Trin Gwallt yn Naturiol** – trin gwallt heb ddefnyddio cemegau ar wallt

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH11

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Steilio; technegau sychu; golwg gorffenedig; sych;