Torri gwallt naturiol gan ddefnyddio technegau sylfaenol
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â thorri gwallt a chudynnau math Affricanaidd naturiol gan ddefnyddio technegau toriad clwb, llawrydd, cliper tros grib a siswrn tros grib. Mae'n ofynnol ichi ddefnyddio'r technegau hyn er mwyn creu haenau unffurf, graddoliadau byr a hir a thoriadau un hyd.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth dorri gwallt
torri gwallt er mwyn cyflawni amrywiaeth gwahanol olwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth dorri gwallt * *
*
*
cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon
amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
cadw croen eich cleient yn glir o dorion gwallt gormodol trwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw
sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer
8.2 lleihau'r risg o draws-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith
8.4 sicrhau defnydd adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill
8.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
gwaredu deunyddiau gwastraff
cwblhau'r steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Torri gwallt er mwyn cyflawni amrywiaeth gwahanol olwg
sefydlu'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn dechrau ar y torri
cribo gwallt eich cleient allan mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer cyflawni'r olwg a ddymunir, lle bo angen
creu a dilyn y canllaw(iau) torri canlynol er mwyn cyflawni'r olwg angenrheidiol
rheoli eich offer a chyfarpar er mwyn lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a chroen y pen, anesmwythdra i'ch cleient ac er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir
defnyddio technegau torri sy'n addas i fath gwallt eich cleient ac er mwyn cyflawni'r olwg a ddymunir
addasu eich technegau torri er mwyn rhoi ystyriaeth i ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
newid eich safle o amgylch y cleient mewn ffordd ag i'ch helpu i sicrhau cywirdeb y toriad
croeswirio'r toriad er mwyn sefydlu dosbarthiad manwl gywir pwysau, cydbwysedd a siâp
creu siapiau llinell y gwddf sy'n fanwl gywir ac yn rhoi ystyriaeth i linell naturiol y gwallt
ymgynghori gyda'ch cleient yn ystod y broses torri er mwyn cadarnhau'r olwg a ddymunir
cymryd golwg terfynol ar y gwallt er mwyn sicrhau bod y toriad gorffenedig yn gywir
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon gyda'r toriad terfynol
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid
pam ei bod mor bwysig i ddiogelu cleientiaid rhag torion gwallt
sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus
sut i ddefnyddio a chynnal offer torri'n gywir
pam ei bod mor bwysig osgoi traws-heintiad a thraws-bla
dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla
pam ei bod mor i osod eich offer a chyfarpar **o fewn cyrraedd rhwydd i'w defnyddio
dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **
pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn
y dulliau cywir o waredu gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer y gwahanol fathau o olwg toriad
*
*
Torri gwallt er mwyn llwyddo creu amrywiaeth golwg
y gwahanol ffactorau all effeithio ar wasanaethau torri gwallt
y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwahanol fathau o wallt a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth
y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a gwallt sych
pam y dylid tynnu cynhyrchion gwallt o'r gwallt cyn torri
pwysigrwydd cribo allan y gwallt cyn torri
pwysigrwydd parhau i gribo a thorri trwy gydol y gwasanaeth
y risg dichonadwy o wallt mewndyfol fel canlyniad i dorri clos di-baid
sut a phryd i ddefnyddio technegau torri clwb, llawrydd, cliper dros grib a siswrn dros grib
sut bydd yr ongl y delir y gwallt yn effeithio ar ddosbarthiad pwysau, cydbwysedd a graddfa raddoledig y toriad
pwysigrwydd rhoi'r raddfa gywir o densiwn i'r gwallt wrth dorri
y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau
sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer golwg un hyd, haen unffurf a graddoledig
sut i greu silwét cyson trwy holl siâp y toriad
sut i groeswirio a chydbwyso'r toriad
sut i greu gwahanol siapiau i linell y gwddf
sut i greu gwahanol olwg
pwysigrwydd ymgynghori â chleientiaid trwy gydol y broses torri
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Ffactorau
1.1 dosbarthiadau o wallt
1.2 nodweddion gwallt
1.3 trawsnewidiad
2. Golwg
2.1 un hyd
2.2 haen unffurf
2.3 graddoledig
3. Technegau Torri
3.1 toriad clwb
3.2 llawrydd
3.3 siswrn dros grib
3.4 cliper dros grib
4. Math gwallt
4.1 naturiol
4.2 cudynnau
5. Cyngor ac argymhellion
5.1 sut i gynnal eu golwg
5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
5.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy * *
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)
2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent cemegol isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Cyngor ac argymhellion
*
*
3.1 gwasanaethau ychwanegol
3.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd gwaith hyblyg
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd bositif
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon
1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser
1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau
1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau cleientiaid
1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau
1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleientiaid
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol
1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn llawn
1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau – gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd i gynnal cwrlyn.
1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.
1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau
2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.
2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.
3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol
2.1 dwysedd gwallt
2.2 gwead gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 amsugnedd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
3. Terminoleg torri
3.1 Toriad graddoledig hir: Toriad graddoledig hir ydi pan fo haenau mewnol yr hydau gwallt yn fyrrach na'r siâp amlinellol.
3.2 Toriad un hyd. Toriad un hyd ydi pan dorrir y gwallt i'r un hyd allanol.
3.3 Toriad graddoledig byr: Toriad graddoledig byr ydi pan fo haenau mewnol yr hydau gwallt yn hirach na'r siâp amlinellol.
3.4 Haen unffurf. Y toriad haen unffurf ydi pan fo pob adran o'r gwallt o'r un hyd.
*
*
4. Llawrydd – torri'r gwallt heb ei ddal yn ei le.
* *
5. Trawsnewidiol – tyfu allan gwallt wedi'i byrmio neu'i wedi'i lacio er mwyn dychwelyd at gyflwr naturiol y gwallt.
6. Gwallt Naturiol *– *gwallt sy'n dal i fod â'i ffurfiant naturiol, pa un ai fod hynny'n dorchau tynn neu rydd. Fe ddefnyddir y term hwn mewn perthynas â gwallt math Affricanaidd.
7. Trin gwallt yn naturiol – trin gwallt sy ddim yn gwneud defnydd o gemegau ar wallt