Steilio gwallt gan ddefnyddio technegau plethu
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau plethu er mwyn steilio gwallt math Affricanaidd naturiol. Mae angen gradd uchel o fedrusrwydd corfforol i gyflawni hyn.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau plethu
steilio gwallt trwy blethu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio technegau plethu
*
*
cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon
amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw
sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion steilio a gorffennu
7.2 lleihau'r risg o draws-heintiad
7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith
7.4 sicrhau defnydd adnoddau glân
7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill
7.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
cyfeirio cleientiaid gyda chyflwr heb ei drin at feddyg teulu neu dricolegydd, lle bo angen
gwaredu deunyddiau gwastraff
cwblhau'r steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Steilio gwallt trwy blethu
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn ac yn ystod y gwasanaeth
paratoi gwallt eich cleient mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer y steil a gytunwyd
clymu unrhyw wallt nad ydi'n cael ei steilio er mwyn cadw pob adran yn glir yn y golwg
cynnal tensiwn addas a chyson trwy gydol y broses plethu
rheoli a chlymu'r plethiad i'r olwg a ddymunir
cyfuno ac addasu eich technegau plethu mewn ffordd sy'n cyflawni'r olwg a ddymunir
defnyddio technegau plethu sy'n rhoi ystyriaeth i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar gyflawni'r yr olwg a ddymunir
defnyddio technegau plethu mewn ffordd sy'n osgoi niwed i'r gwallt a chroen y pen
sicrhau bod y plethiadau cyflawn o faint unffurf
sicrhau bod y plethiadau cyflawn yn cael eu sychu, lle bo'n berthnasol
sicrhau bod yr olwg derfynol yn cyfarfod â'r cyfeiriad, cydbwysedd a'r foliwm a fwriadwyd y cytunwyd gyda'ch cleient
taenu cynhyrchion steilio a gorffennu addas sy'n ategu a gwella'r olwg a ddymunir
sicrhau bod yr olwg derfynol yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella eu delwedd
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon gyda'r olwg derfynol.
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth blethu gwallt
1.eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y dewis o **ddillad a chynhyrchion diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid
sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus
dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla
pam ei bod mor i osod eich offer a chyfarpar **o fewn cyrraedd rhwydd i'w defnyddio
dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy
pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn
cyflyrau'r gwallt a chroen y pen sy'n gofyn eu cyfeirio at feddyg teulu a/neu dricolegydd
y dulliau cywir o waredu gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer plethu gwallt
Steilio gwallt trwy blethu
16 pwysigrwydd rhannu'r gwallt yn fanwl gywir wrth blethu
sut i drafod y gwallt wrth blethu er mwyn cynnal a chadw tensiwn cywir a chyson
y gwahanol ffactorau sy raid eu hystyried cyn ac yn ystod plethu a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaeth
y canlyniadau dichonadwy o densiwn gormodol ar y gwallt a chroen y pen
sut i adnabod arwyddion cyntaf alopesia tyniant
mathau ac achosion alopesia
cyflyrau'r gwallt a chroen y pen sy'n gofyn cael eu cyfeirio at feddyg teulu a/neu dricolegydd
sut i gyflawni gwahanol dechnegau plethu
y cyfeiriad, siâp, cydbwysedd a'r foliwm cywir wrth blethu gwallt
pam ei bod mor bwysig i leithio'r gwallt wedi'i blethu
y mathau o gynhyrchion ac offer steilio a gorffennu sy ar gael i blethu gwallt
cyfaddasrwydd cynhyrchion i'w defnyddio wrth blethu gyda gwahanol fathau o wallt ac i lwyddo cael gwahanol effeithiau
sut y gall plethu ar wallt gwlyb neu sych ddylanwadu ar yr olwg orffenedig
sut mae'r gwahanol ffactorau'n effeithio ar y broses steilio a'r olwg orffenedig
sut i gynnal a chadw'r steil a gytunwyd a sicrhau ei hirhoedledd
sut i sicrhau tynnu'u steil gwallt plethedig yn ddiogel
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gan y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion steilio a gorffennu
1.1 gel
1.2 chwistrell
1.3 olew
2. Golwg
2.1 plethiadau a grëir ar wallt gwlyb
2.2 plethiadau a grëir ar wallt a chwythwyd gan ddefnyddio atodyn cribo
*
*
3. Technegau plethu
3.1 plethu allan
3.2 plethiadau crib ar groen y pen
3.3 plethiadau crib heb fod ar groen y pen
3.4 clymau Bantw
3.5 plethiadau fflat
4. Ffactorau
4.1 dosbarthiadau gwallt
4.2 nodweddion gwallt
4.3 yr olwg a ddymunir
4.4 alopesia
5. Cyngor ac argymhellion
5.1 sut i gynnal eu golwg
5.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
5.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)
2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent cemegol isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Ffactorau
y gwahanol ffactorau sy raid eu hystyried cyn ac yn ystod y broses plethu a sut mae'r rhain yn effeithio ar y gwasanaethau
3.1 dosbarthiadau gwallt
3.2 nodweddion gwallt
3.3 yr olwg a ddymunir
3.4 alopesia
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd gwaith hyblyg
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd bositif
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
1.15 sgiliau arweinyddiaeth
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon
1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser
1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau
1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau cleientiaid
1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau
1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol
1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn llawn
1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.
1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.
1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau
2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.
2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.
3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol
2.1 dwysedd gwallt
2.2 gwead gwallt
2.3 elastigedd gwallt
2.4 amsugnedd gwallt
2.5 cyflwr gwallt
2.6 patrymau tyfiant gwallt
Clymau Bantw – Cwlwm a ffurfir trwy blethu a chyrlio hyd o wallt nôl arno'i hun. Gellir ei sicrhau gyda band, os oes angen. Fe'u gelwir hefyd yn 'China Bumps' a 'Twist down'.
Plethiadau crib – Lle caiff gwallt ei gordeddu o amgylch crib arbennig i greu plethiad sy'n gallu gorwedd ar hyd croen y pen (a elwir yn 'ar groen y pen') neu oddi ar groen y pen.
Plethiad fflat – Lle caiff y gwallt ei rolio a'i blethu â llaw yn fflat ar groen y pen.
Plethiad allan – Plethiad dau edefyn sy'n cael ei ddad-blethu wedi iddo sychu.