Llacio gwallt

URN: SKAAH2
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â chyflawni gwasanaethau llacio. Er mwyn cyrraedd y safon hon, fe fydd yn rhaid ichi ddangos fod y gallu ganddoch chi i archwilio'r gwallt a chroen y pen, dewis a defnyddio cynhyrchion addas a dewis y technegau taenu cywir.

I gyflawni'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd hefyd angen ichi gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth lacio gwallt

  2. paratoi ar gyfer llacio gwallt

  3. llacio gwallt


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel wrth lacio gwallt

  1. cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon

  3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth llacio

  4. gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw* *

  5. sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth

7. * *defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion

7.2 lleihau'r risg o draws-heintiad

7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith

7.4 sicrhau defnydd adnoddau glân

7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan a chleientiaid

7.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy  

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion* *

  3. gwaredu deunyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth llacio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol


*

Paratoi ar gyfer llacio gwallt


*

  1. gofyn cwestiynau i'ch cleient er mwyn adnabod unrhyw wrth-arwyddion i'r gwasanaethau llacio

  2. cofnodi ymatebion eich cleient i'r cwestiynu

  3. cynnal yr holl brofion angenrheidiol gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau cydnabyddedig y diwydiant  

  4. cofnodi deilliannau'r profion ar gerdyn cofnodi'r cleient

  5. ceisio cymorth gan y person perthnasol pan fo gwrth-arwyddion ac/neu adweithiau i brofion yn achosi amheuon gyda golwg ar briodoldeb y gwasanaeth llacio i'ch cleient

  6. seilio eich argymhellion ar werthusiad o wallt eich cleient a'i botensial i gyflawni'r effaith gofynnol

  7. dewis cynhyrchion ac offer yn seiliedig ar ffactorau a chanlyniadau eich profion ac ymgynghoriad â'ch cleient 

  8. dewis, paratoi a defnyddio cynhyrchion llacio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  9. diogelu llinell terfyn y gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth llacio

Llacio gwallt

  1. taenu triniaeth cyn-lacio addas

  2. rhannu'r gwallt, pan fo angen, yn lân a llyfn er mwyn cynorthwyo gyda thaeniad llyfn y llaciwr

  3. taenu cynhyrchion gan gymryd i ystyriaeth ffactorau a chanlyniadau eich profion ar gyfer y gwasanaethau llacio 

  4. defnyddio offer i osgoi niweidio croen y pen

  5. taenu'r llaciwr mewn ffordd sy'n lleihau'r risg i'r cynnyrch ledaenu i groen a dillad eich cleient a'r mannau cyfagos

  6. amseru taeniad a datblygiad y llaciwr yn fanwl gywir, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  7. cadarnhau i'r radd ofynnol o sythu gael ei chyflawni trwy gymryd profion cudynnau ar wahanol rannau o'r pen ar adegau addas trwy gydol y broses llacio* *

  8. monitro bod eich cleient yn gyfforddus ar gyfnodau rheolaidd trwy gydol y broses llacio

  9. tynnu cemegolion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  10. gadael y gwallt sy wedi'i lacio yn rhydd o bob golwg o gynnyrch llacio

  11. adfer cydbwysedd pH y gwallt gan ddefnyddio triniaeth ôl-lacio addas

  12. normaleiddio'r gwallt trwy gyfrwng siampŵ, gan ei adael yn rhydd o olion gweddillion olewau llacio 

  13. datrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses llacio o fewn terfannau eich awdurdod

  14. cyfeirio problemau na allwch eu datrys at y person perthnasol 

  15. cyflawni'r radd ofynnol o sythiad a ragwelir 

  16. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth lacio gwallt

*
 *

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth

  2. gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient

  3. y dewis o *ddillad a *chynhyrchion diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid

  4. sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  5. pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus

  6. dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau

  7. dulliau gweithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla

  8. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy

  10. eich terfannau awdurdod eich hunain ar gyfer datrys problemau llacio

  11. y person y dylech riportio problemau na allwch eu datrys

  12. rheoliadau mewn perthynas â defnydd cynhyrchion llacio a normaleiddio

  13. yr ystyriaethau diogelwch y dylid eu hystyried wrth lacio gwallt 

  14. pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn   

  16. y dulliau cywir o waredu gwastraff    

  17. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer gwasanaeth llacio

Paratoi ar gyfer llacio gwallt

*
 *

  1. arwyddocâd cwestiynu cleient a chofnodi ymatebion cleient i'r cwestiynu 

  2. pwysigrwydd adnabod ffactorau gwallt trwy gynnal archwiliad manwl o'r gwallt a chroen y pen    

  3. sut all archwiliad y gwallt a chroen y pen effeithio'r dewis o gynhyrchion 

  4. y mathau o brofion, ynghyd â'u pwrpas

  5. sut a phryd y dylid cynnal profion a'r canlyniadau disgwyliedig

  6. sut mae canlyniadau profion yn gallu dylanwadu ar y gwasanaeth llacio

  7. goblygiadau dichonadwy o fethu â chynnal profion

  8. pam ei bod hi'n bwysig cofnodi canlyniadau profion

  9. y gweithredu i'w gymryd yn achos adweithiau croes i brofion  

  10. sut y gall y gwrth-arwyddion effeithio ar y gwasanaeth llacio  

  11. yr amgylchiadau pan fo angen efallai  torri gwallt cyn gwasanaeth

  12. sut i adnabod Trichorrhexis Nodosa a sut i ddelio â'r cyflwr hwn

  13. sut mae gwahanol ffactorau'n effeithio ar eich dewis o laciwr

  14. effeithiau cynhyrchion llacio ar fframwaith y gwallt

  15. effeithiau llacwyr ar wallt gwyn

  16. y cynhwysion gweithredol mewn cynhyrchion llacio

  17. pam y defnyddir gwahanol offer yn y gwasanaeth llacio a'u heffaith ar y gwallt a chroen y pen 

  18. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddewis cynhyrchion llacio sodiwm neu heb sodiwm 

  19. y gwahanol fathau a chryfderau o lacwyr sy ar gael a phryd i'w defnyddio

  20. effeithiau dichonadwy defnyddio cynhyrchion llacio ar wasanaethau cemegol megis goleuo gwallt 

  21. y gwahanol fathau a defnydd o driniaethau cyn-lacio ac ôl-lacio  a phryd i'w defnyddio

  22. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth ddefnyddio cynhyrchion llacio

  23. sut i ddefnyddio diogelwyr croen y pen a pham eu bod yn bwysig

Llacio gwallt

  1. effeithiau cyn ac ôl-driniaethau llacio ar fframwaith y gwallt 

  2. sut i weadu gwallt

  3. y dull o wirio datblygiad wrth weadu

  4. y dull o wirio datblygiad llaciwr

  5. y dull a'r drefn o daenu cynhyrchion llacio a normaleiddio

  6. yr anesmwythdra dichonadwy y gall cleientiaid eu profi yn ystod y broses llacio a pham ei bod hi mor bwysig i gadw golwg ar eu lles

  7. sut i addasu tymheredd, pwysedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn diogelu cyflwr y gwallt

  8. sut mae siampŵau niwtraleiddio'n gweithio a'u heffaith ar fframwaith y gwallt

  9. sut mae'r gwahanol ffactorau dylanwadu'n gallu effeithio'r broses llacio

  10. effaith gorgyffwrdd cynhyrchion ar wallt wedi'i drin yn gemegol yn flaenorol

  11. pam bod amseru manwl gywir a rinsio cynhyrchion yn drwyadl yn angenrheidiol 

  12. effeithiau ac effeithiau posib tymheredd ar gynhyrchion llacio

  13. sut i ddelio â chosi poenus croen y pen yn ystod y broses llacio

  14. pwysigrwydd ac effeithiau adfer cydbwysedd pH y gwallt wedi'r broses llacio

  15. pwysigrwydd defnyddio cynhyrchion yn ddarbodus

  16. mathau ac achosion problemau a all ddigwydd yn ystod y broses llacio a gweadu

  17. dulliau o ddatrys problemau llacio

  18. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gan y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion


*

1.1 amddiffynyddion croen y pen

1.2 llaciwr sodiwm

1.3 llaciwr heb fod yn sodiwm

  1. triniaethau cyn llacio

1.5. triniaethau ôl-lacio

1.6 siampŵ normaleiddio

2. Profion

*
 *

2.1 elastigedd

2.2 amsugnedd

2.3 cudynnau

3 Offer

*
 *

3.1 cribau cynffon

3.2 cribau mân llydan

3.3 dwylo

3.4 brwsys lliwio

4. Ffactorau

*
 *

4.1 nodweddion gwallt

4.2 dosbarthiadau gwallt

4.3 cyflwr croen y pen

4.4 graddfa o lacio angenrheidiol

4.5 gwasanaethau cemegol blaenorol

4.6 hyd yr ad-dyfiant

4.7 tymheredd

4.8 amser

4.9 trefn y taenu

4.10 gwallt gwyn

4.11 graddfa crynhoi y cynnyrch 

4.12 yr angen i dorri gwallt cyn y llacio

5. Taenu

*
 *

5.1 top a gwaelod

5.2 top

5.3 llaw

6. Y broses llacio


*

6.1 taeniad tro cyntaf

6.2 taeniad ad-dyfiant rhwng 4 ac 8 wythnos

6.3 taeniad ad-dyfiant hyd at 12 wythnos

7. Cyngor ac argymhellion

7.1 sut i gynnal eu golwg

7.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau

7.3 cynhyrchion ychwanegol

7.4 gwasanaethau ychwanegol


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Cynhyrchion

*
 *

2.1 amddiffynyddion croen y pen

2.2 llaciwr sodiwm

2.3 llaciwr heb fod yn sodiwm

2.4 triniaethau cyn llacio

2.5 triniaethau ôl-lacio

2.6 siampŵ normaleiddio

3. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

3.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

3.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

3.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

3.4 atal llygredd

3.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

3.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

3.7 defnyddio paent cemegol isel

3.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

3.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

3.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

3.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

3.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

*
 *

4. Ffactorau

*
 *

4.1 nodweddion gwallt

4.2 dosbarthiadau gwallt

4.3 cyflwr croen y pen

4.4 graddfa o lacio angenrheidiol

4.5 gwasanaethau cemegol blaenorol

4.6 hyd yr ad-dyfiant

4.7 tymheredd

4.8 amser

4.9 trefn y taenu

4.10 gwallt gwyn

4.11 graddfa crynhoi y cynnyrch 

4.12 yr angen i dorri gwallt cyn y llacio

5. Cyngor ac argymhellion

*
 *

5.1 gwasanaethau ychwanegol

5.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r prif werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd gwaith hyblyg

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd bositif

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunan-reoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol

1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel 

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd:

1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon

1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

1.3 cyfathrebu gyda'r cleient yn gwrtais a moesgar

1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser

1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau

1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau cleientiaid 

1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient  sy'n ceisio cymorth  

1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient

1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau

1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient  

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol

1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn llawn 

1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau – gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd i gynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae Nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol

2.1 dwysedd gwallt

2.2 gwead gwallt

2.3 elastigedd gwallt

2.4 amsugnedd gwallt

2.5 cyflwr gwallt

2.6 patrymau tyfiant gwallt

3. Gwrth-arwyddion

3.1 Cyflyrau sy'n dangos na ddylid ymgymryd â'r gwasanaeth.


*

4. Cynhyrchion Normaleiddio

4.1 Triniaethau a siampŵau ôl-lacio ydi'r rhain. Weithiau fe'u hadnabyddir fel 'sefydlogyddion' neu gynhyrchion 'niwtraleiddio' ar gyfer y broses llacio.

5. Gweadu (gan ddefnyddio cemegolion)

5.1 Dull o lacio gwallt o'r math Affricanaidd sy'n lleihau'r patrwm cyrliog naturiol, gan adael y gwallt yn ysgafnach a hydrin. Caiff y broses yma ei gynnal ar wallt hyd at 5 cm (2 fodfedd) o hyd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAATH10

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwasanaethau llacio; paratoi; normaleiddio