Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi’i gudynnu
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r sgiliau penodol sy ynghlwm â steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu. Mae angen arddangos ystod eang o dechnegau ac effeithiau trin gwallt penodol yn y safon hon ac fe all hyn gynnwys ychwanegu gwallt ac addurnwaith.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw safon uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Fe fydd angen ichi hefyd gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu
steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth steilio a thrin gwallt wedi'i gudynnu * *
*
*
cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon
amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw
sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau gwastraff cynhyrchion
7.2 lleihau'r niwed i offer steilio
7.3 lleihau'r risg o draws-heintiad
7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith
7.5 sicrhau defnydd adnoddau glân
7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan ac eraill
7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn ateb gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol
dilyn cyfarwyddiadau gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a **chynhyrchion
gwaredu deunyddiau gwastraff
cwblhau steilio o fewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu
*
*
cadarnhau gyda'ch cleient yr olwg a gytunwyd wrth ymgynghori cyn ac wrth drin y gwallt
paratoi gwallt eich cleient mewn modd sy'n addas ar gyfer yr olwg a gytunwyd gyda'ch cleient
ymgorffori a sadio gwallt ychwanegol, pan y'i defnyddir, yn yr olwg a ddymunir
asio gwallt naturiol ac ychwanegol pan fo angen
cynnal a chadw tensiwn addas a chyson trwy gydol y broses steilio
sicrhau bod cymorth ar gael pan fo angen
cyfuno ac addasu'ch technegau trin gwallt mewn modd arloesol i gyflawni'r olwg a ddymunir
sicrhau'r gwallt, gan osgoi anesmwythdra i'r cleient, fel bod unrhyw binnau, teclyn gafael neu fandiau ynghudd oni bai eu bod yn rhan o ofynion y steil
personoleiddio eich technegau trin gwallt i gymryd i ystyriaeth y ffactorau sy'n dylanwadu ar gyflawniad yr olwg a ddymunir
defnyddio technegau trin gwallt mewn modd syn osgoi niwed i'r gwallt, croen a chroen y pen
ymgorffori a sadio addurnwaith, pan gaiff ei ddefnyddio, yn yr olwg a ddymunir
sicrhau bod yr olwg orffenedig yn cyfarfod â'r siâp, cyfeiriad, cydbwysedd a foliwm a fwriadwyd ac a gytunwyd â'ch cleient
taenu cynhyrchion steilio a gorffennu addas sy'n ategu a gwella'r olwg a ddymunir
sicrhau bod yr olwg orffenedig yn ategu nodweddion eich cleient ac yn gwella'u delwedd bersonol nhw yn ogystal â'r salon
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth steilio
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y dylech eu dilyn
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y dewis o **ddillad diogelwch a ddylai fod ar gael i'ch cleientiaid
sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus
pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch **yn eich gweithle
dulliau o lanhau, diheintio a steryllu a ddefnyddir mewn salonau
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion amgylcheddol a chynaladwy **
dulliau o weithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn
y dulliau cywir o waredu gwastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steilio
Steilio a thrin yn greadigol gwallt wedi'i gudynnu
*
*
pwysigrwydd paratoi'r gwallt sy wedi'i gudynnu yn gywir cyn y steilio a'r trin
y gweithdrefnau paratoi sy'n ofynnol ar gyfer y gwahanol dechnegau trin gwallt
sut i greu gwahanol dechnegau trin
dulliau delio â, rheoli a sicrhau gwallt sy wedi'i gudynnu yn ystod y broses trin
y gwiriadau gweledol sy'u hangen yn ystod steilio a thrin y cudynnau a pham bod hyn yn bwysig
pwysigrwydd cynnal a chadw'r tensiwn cywir wrth drin gwallt wedi'i gudynnu
y goblygiadau posib o densiwn gormodol ar y gwallt a chroen y pen
y mathau o gynhyrchion, offer a chyfarpar sy ar gael i steilio a thrin gwallt sy wedi'i gudynnu a sut i'w defnyddio
y mathau o eitemau anghonfensiynol y gellir eu defnyddio fel addurnwaith wrth drin gwallt
sut y gellir defnyddio addurnwaith a gwallt ychwanegol i greu a gwella gwahanol fathau o olwg cudynnog
sut mae'r gwahanol ffactorau'n effeithio ar y technegau trin a ddefnyddir a'r olwg orffenedig
pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod eich cleient yn fodlon â'r olwg orffenedig
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion am y cynhyrchion a'r gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Technegau trin
1.1 plethu
1.2 plethen ŷd
1.3 plethen saethben
1.4 twistio fflat
1.5 setio rhôl
1.6 lapio
2. Ffactorau
2.1 yr olwg a ddymunir
2.2 yr achlysur ar gyfer y steil
2.3 maint y cudyn
2.4 hyd y cudyn
2.5 dwysedd y cudyn
2.6 tensiwn
3. Cyngor ac argymhellion
3.1 sut i gynnal a chadw'u golwg
3.2 cyfnod amser rhwng gwasanaethau
3.3 cynhyrchion a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy
2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)
2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent cemegol isel
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel
2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith
3. Cyngor ac argymhellion
*
*
3.1 Gwasanaethau ychwanegol
3.2 Cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
1. Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd gwaith hyblyg
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd bositif
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunan-reoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau rhagorol
1.13 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
1.15 sgiliau arweinyddiaeth
Ymddygiadau
- Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon
1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient mewn modd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn gwrtais a chynnig cymorth bob amser
1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau
1.7 addasu ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiadau cleientiaid
1.8 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth
1.9 dewis y dull mwyaf addas i gyfathrebu gyda'r cleient
1.10 cadarnhau gyda'r cleient eich bod wedi deall yn llawn eu disgwyliadau
1.11 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestinau a sylwadau'r cleientiaid
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi gwybodaeth bellach pan fo'n briodol
1.13 cael hyd i wybodaeth yn ddiymdroi a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 adnabod gwybodaeth sy efallai'n gymhleth i'r cleient a gwneud yn siŵr eu bod yn deall yn llawn
1.16 esbonio'n glir i'r cleient unrhyw resymau pam na ellir cyfarfod â'u hanghenion neu eu disgwyliadau
Sgiliau
Geirfa
1. Plethen ŷd
Plethen tri chudyn sy'n eistedd ar ben ei bôn. Gelwir hon hefyd yn rhes wialen.
2. Plethen Saethben
Plethen pedwar cudyn a wneir trwy blethu pedwar darn o wallt dros ei gilydd I greu golwg 'pen saeth'.
3. Twistiau fflat
Lle caiff y gwallt ei rolio a'i dwistio â llaw yn fflat ar groen y pen.
4. Lapio
Term cyffredinol ydi hwn a ddefnyddir pan gaiff adrannau o wallt eu lapio gyda gwahanol fathau o ddeunydd megis edau, gwallt dynol, gwallt synthetig, gwlân,, glanhawyr pibell, ffoil, a phlastigau. Gelwir y dechneg hon hefyd yn 'beindio'.