Cynorthwyo gyda gwasanaethau llacio
Trosolwg
Mae'r safon yma yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol ynglŷn â thynnu llacwyr cemegol a normaleiddio gwallt sy wedi'i lacio. Caiff y gwaith ei wneud o dan oruchwyliaeth y Cynllunydd.
Er mwyn gweithredu'r safon hon, fe fydd angen ichi gynnal a chadw iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd hefyd angen ichi gynnal gwisg a gwedd bersonol broffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
cynnal dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio
tynnu llacwyr cemegol a normaleiddio'r gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio * *
cynnal eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient i gyfarfod â gofynion y salon
amddiffyn dillad eich cleient wrth ddefnyddio llacwyr cemegol
gwisgo cyfarpar diogelwch personol wrth ddefnyddio llacwyr cemegol
gosod eich cleient i gyfarfod â gofynion y gwasanaeth heb achosi anesmwythdra iddyn nhw
sicrhau bod eich osgo a'ch lleoliad wrth weithio yn lleihau blinder a'r risg o anaf
cadw eich man gwaith yn lân a thaclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
8.1 lleihau gwastraff siampŵ normaleiddio
8.2 lleihau risg traws-heintiad
8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gwaith
8.4 sicrhau defnydd adnoddau glân
8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi eich hunan a chleientiaid
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch a'ch gwisg a gwedd bersonol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu wneuthurwyr ynglŷn â defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion
dilyn cyfarwyddiadau'r cynllunwyr gwallt trwy gydol y gwasanaeth
gwaredu deunyddiau gwastraff
ail-gyflenwi lefelau isel adnoddau, lle bo'r angen, er mwyn lleihau'r tarfu ar eich gwaith eich hun ac ar gleientiaid
Tynnu llacwyr cemegol a normaleiddio gwallt
tynnu cemegolion mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o niwed i'r gwallt a chroen y pen
sicrhau bod eich dulliau gweithio'n lleihau'r risg o gemegolion yn cael eu taenu dros groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos
addasu tymheredd, pwysedd a chyfeiriad y dŵr er mwyn diogelu cyflwr y gwallt a chroen y pen
gadael y gwallt a chroen y pe yn lân a rhydd o gemegolion a lleithder gormodol
cyfeirio unrhyw broblem at y person perthnasol i weithredu
blotio'r gwallt i dynnu unrhyw leithder gormodol cyn taenu cynhyrchion normaleiddio
paratoi a thaenu'r cynhyrchion normaleiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a'r cynllunydd
gadael y gwallt yn rhydd o unrhyw olion o'r cynnyrch niwtraleiddio
taenu a thynnu'r cyflyrydd, pan gaiff ei ddefnyddio, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr a'r cynllunydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal a chadw dulliau effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swyddogaeth
gofynion eich salon ynglŷn â pharatoi cleient
y dewis o ddillad a chynhyrchion diogelwch a ddylai fod ar gael i chi a'r cleientiaid
be ydi dermatitis cyffwrdd a sut i osgoi ei ddatblygu wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau llacio
sut all lleoliad eich cleient a chi eich hun effeithio ar y deilliant a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam ei bod mor bwysig i osod eich offer, cynhyrchion a deunyddiau o fewn cyrraedd rhwydd i'w defnyddio
pam ei bod mor bwysig i gadw'ch man gwaith yn lân a thaclus
dulliau gweithio'n ddiogel a glanwaith ac sy'n lleihau'r risg o draws-heintiad a thraws-bla
gofynion eich salon a chyfreithiol ynglŷn â gwaredu deunyddiau gwastraff
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynhyrchion sy raid ichi eu dilyn
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau eich cynllunydd
pwysigrwydd hylendid a chyflwyniad personol wrth gynnal a chadw iechyd a diogelwch yn eich gweithle
y person y dylech riportio lefelau isel o adnoddau
eich terfannau awdurdod eich hunain ar gyfer datrys problemau llacio
*
*
Tynnu llaciwr cemegol a normaleiddio gwallt
*
*
- rôl a phwysigrwydd:
15.1 triniaethau ôl-lacio yn ystod y broses llacio
15.2 normaleiddio siampŵau yn ystod y broses llacio
sut y gall pwysedd a thymheredd isel ac uchel effeithio gwallt wrth dynnu llacwyr
pwysigrwydd tynnu lleithder gormodol cyn taenu cynhyrchion normaleiddio
pwysigrwydd sicrhau bod y gwallt a chroen y pen yn lân ac yn rhydd o gemegolion
pwysigrwydd sicrhau bod eich dulliau gweithio'n lleihau'r risg o gemegolion yn cael eu taenu ar groen a dillad y cleient a'r mannau cyfagos
pam ei bod yn bwysig i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'r cynllunydd a'r hyn all ddigwydd o beidio â'u dilyn
y mathau ac achosion problemau a all ddigwydd wrth lacio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion normaleiddio
1.1 siampŵ normaleiddio
1.2 triniaethau ôl-lacio
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
Gwerthoedd
- Mae'r Prif Werthoedd canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro:
*
*
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 cyfarfod â safonau gwisg a gwedd y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn cyfarfod â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd gwaith hyblyg
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal a chadw gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd bositif
1.9 agwedd broffesiynol
1.10 sgiliau cyfathrebu llafar a di-eiriau da
1.11 cynnal a chadw dulliau gweithio effeithiol, glanwaith a diogel
1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, cyflenwyr neu wneuthurwyr ar gyfer defnydd diogel cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
1.13 cadw at fesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth y gweithle
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol yn greiddiol i gyflwyniad a chyflawniad gwasanaethau yn y sector trin gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y cleientiaid yn derbyn argraff bositif o'r salon a'r unigolyn fel ei gilydd
1.1 cyfarfod â safonau ymddygiad y salon
1.2 croesawu'r cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
1.3 cyfathrebu gyda'r cleient yn gwrtais a moesgar
1.4 adnabod a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 ymateb yn ddiymdroi ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.6 hysbysu'r cleient yn gyson o'r datblygiadau diweddaraf a thawelu eu meddyliau
1.7 ymateb yn ddiymdroi i gleient sy'n ceisio cymorth
1.8 darganfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
1.9 delio â phroblemau o fewn sgôp eich cyfrifoldebau a'ch swyddogaeth
1.10 dangos parch i gleientiaid a chydweithwyr bob amser ac ymhob amgylchiad
1.11 ceisio cymorth ar unwaith gan uwch-aelod o staff pan fo angen
1.12 rhoi'r wybodaeth sy'i angen ar gleient ynglŷn â'r gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
Sgiliau
Geirfa
**1. Cynhyrchion Normaleiddio
**
1.1 Triniaethau a siampŵau ôl-lacio ydi'r rhain. Weithiau fe'u hadnabyddir fel 'sefydlogyddion' neu gynhyrchion 'niwtraleiddio' ar gyfer y broses llacio.