Paratoi a dadansoddi gwybodaeth a data am y rhai sy’n cymryd rhan er mwyn hysbysu perfformiad
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â'r medrusrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr uwch ar gyfer paratoi a dadansoddi gwybodaeth a data er mwyn hysbysu anghenion, nodau ac amcanion perfformio i amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan. Mae'r dadansoddiad yma'n offeryn y byddwch chi, fel ymarferydd uwch yn ei ddefnyddio i hysbysu anghenion, nodau ac amcanion perfformio'r bobl sy'n cymryd rhan. Byddwch yn defnyddio technegau uwch i ddarparu gwybodaeth bwysig am eich pobl sy'n cymryd rhan, a ddefnyddir i roi strategaethau realistig ar gyfer pennu nodau ar waith a'u helpu i wneud y gorau o'u potensial i berfformio. Bydd yn gwneud i'r rhai sy'n cymryd rhan ganolbwyntio ar agweddau allweddol o'u perfformiad a helpu cyfeirio eu hyfforddiant i'r meysydd lle credir y mae ei angen.
Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd uwch sydd â chyfrifoldeb dros amrywiaeth o bobl sy'n cymryd rhan ac sydd ag anghenion penodol, lle gofynnir am lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau technegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis amgylchedd addas i ryngweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan er mwyn trafod ac edrych ar eu hanghenion, nodau ac amcanion.
- trafod gyda'r rhai sy'n cymryd rhan sut gall dadansoddiad fod o gymorth i ddarparu cyfeiriad mewn meysydd o angen penodol.
- datblygu hinsawdd gymhellol gadarnhaol er mwyn cefnogi anghenion seicolegol a grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan
- sefydlu ffyrdd effeithiol o ymgysylltu a datblygu perthynas sy'n ffafriol i'r broses
- hyrwyddo gwerthusiad gonest o'ch pobl sy'n cymryd rhan er mwyn hwyluso canlyniad mwy cynhyrchiol
- defnyddio amrywiaeth o strategaethau er mwyn dod o hyd i wybodaeth berthnasol sy'n defnyddio dull person-ganolog
- cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ac eraill ar gyflymder, mewn modd ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffterau ac anghenion
- nodi a chasglu gwybodaeth am y rhai sy'n cymryd rhan a'r amgylchedd sy'n ddilys, diledryw, dibynadwy, cadarn, cyfredol a digonol
- annog y rhai sy'n cymryd rhan i roi dadansoddiad o'u hanghenion perfformio, nodau ac amcanion tybiedig
- defnyddio datblygiadau a chynnyrch technolegol i gefnogi eich dadansoddiad
- dadansoddi gwybodaeth a chanlyniadau'r rhai sy'n cymryd rhan yn feirniadol er mwyn eu defnyddio fel meincnod
- nodi anghytundebau barn rhyngoch chi eich hun a'r rhai sy'n cymryd rhan
- rhoi strategaethau i ymyrryd ar waith gan ddibynnu ar union amgylchiadau, anghenion a hoffterau'r rhai sy'n cymryd rhan.
- nodi dulliau o gyflwyno a hyfforddi sy'n briodol i holl anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
- cynllunio strategaeth effeithiol ar gyfer pennu nodau a'i rhoi ar waith ar sail gwybodaeth am y rhai sy'n cymryd rhan a'ch dadansoddiad chi ohoni
- gwerthuso risgiau posibl a datblygu strategaethau realistig er mwyn lliniaru'r risgiau hynny
- nodi mesurau dibynadwy a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan o ran cyflawni'r nodau a gytunwyd.
- gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
yr amgylcheddau mwyaf addas ar gyfer rhyngweithio â phobl sy'n cymryd rhan
damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, llythrennedd corfforol a modelau o seicoleg sy'n ynghlwm wrth wneud dadansoddiad o anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
- pwysigrwydd grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth y neu hanghanion, nodau ac amcanion
- damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol
- pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar bobl sy'n cymryd rhan
- deallusrwydd emosiynol a diwylliannol
- pam fod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan ddeall pwyigrwydd y dadansoddiad
- y strategaethau a'r thechnegau ar gyfer ymgysylltu a datblygu perthynas yn ystod y dadansoddiad
- sut i wneud dadansoddiad o'r rhai sy'n cymryd rhan mewn modd effeithiol
- amrywiaeth eang o offer cyfathrebu, strategaethau a thechnegau addas fydd yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gwrdd â'u hanghenion, nodau ac amcanion
- dulliau o wahaniaethu er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu pobl sy'n cymryd rhan/cleientiaid
- beth yw dull person-ganolog a sut i gymhwyso hyn ar gyfer dadansoddi rhywun sy'n cymryd rhan
- y strategaethau a'r technegau ar gyfer cael gwybodaeth berthnasol gan y rhai sy'n cymryd rhan
- dulliau o ddadansoddi ac ymholiad wedi eu llunio i fesur galluoedd gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, ffisiolegol, ffactorau bioseicogymdeithasol, ymddygiadol, seicomodurol, cymhellion, datblygiad technegol a chynaliadwyedd
- sut a pham i annog y rhai sy'n cymryd rhan i ddefnyddio lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn ystod y dadansoddiad
- amrywiaeth o ddatblygiadau a cynnyrch technolegol i gefnogi eich dadansoddiad
- technegau a strategaethau ar gyfer dadansoddiad beirniadol o'r wybodaeth am y rhai sy'n cymryd rhan a'r canlyniadau ar sail meincnodi a gwerthoedd clodwiw yng nghyd-destun amgylchiadau'r rhai sy'n cymryd rhan
- egwyddorion newid ymddygiad
- rhychwant o ffactorau cymhellol all effeithio ar allu rhywun sy'n cymryd rhan i berfformio
- sut i roi strategaethau ymyrryd ar waith
- pwysigrwydd pennu nodau mewn modd effeithiol
- sut i ddatblygu strategaeth effeithiol ar gyfer pennu nodau
- pwysigrwydd adolygu perfformiad y rhai sy'n cymryd rhan ar sail y canlyniadau cychwynnol
- amserlenni addas ar gyfer gwneud adolygiad effeithiol o berfformiad y rhai sy'n cymryd rhan
- rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAAEAF5, SKAASPC2, SKAASPC3