Rheoli gwelliant parhaus ym mherfformiad cyffredinol eich sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â rheoli gwellianr parhaus ym mherfformiad cyffredinol eich sefydliad. Yr ydych yn sefydlu systemau i fesur perfformiad sefydliadol a chreu cynlluniau gweithredu er mwyn gwneud gwelliannau, casglu adborth a syniadau gan gydweithwyr a/neu eraill. Yn y cyd destun yma gall eraill fod yn fudd-ddeiliaid allweddol, partneriaid, neu bobl sy'n cymryd rhan y mae eich sefydliad yn ymwneud â hwy. Mae'r pwyslais ar nodi newidiadau a'u rhoi ar waith a fydd yn ychwanegu gwerth yng ngolwg y rhai sy'n cymryd rhan ac eraill.
I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol sylweddol, gyda rhywfaint o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fasnachwr llawrydd/unigol.
Mae'r safon yma ar gyfer pob rheolwr ac ymarferydd uwch.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chydweithwyr a/neu eraill pan ddaw i reoli gwelliant parhaus
- amlinellu mesurau dilys a dibynadwy er mwyn gwerthuso perfformiad eich sefydliad
- sefydlu systemau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth ar berfformiad eich sefydliad yn ei gyfanrwydd
- nodi achos ac effeithiau heriau sefydliadol
- nodi cyfloeoedd lle gellir gwella perfformiad gan ddefnyddio gwybodaeth am berfformiad eich sefydliad yn ei gyfanrwydd
- sefydlu diwylliant sefydliadol lle mae gan bobl rwydd hynt i wneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
- annog cydweithwyr a/neu eraill i roi adborth ar berfformiad eich sefydliad ac awgrymu gwelliannau
- meincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn sefydliadau eraill y gellir ei gymharu â hwy
- nodi gwelliannau i'ch sefydliad, y rhai sy'n cymryd rhan ynddo a budd-ddeiliaid eraill
- creu cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar ganfyddiadau o adborth a meinicnodi.
- cytuno ar gamau ar gyfer gwelliant parhaus gyda'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau
- rhoi camau i wella perfformiad sefydliadol ar waith
- rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut a gwnaethpwyd gwelliannau ar draws eich sefydliad, neu sut y gellir eu gwneud
- edrych i weld bod unrhyw welliannau a wnaethpwyd yn cydweddu â gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gweledigaeth, amcanion, cynlluniau, strwythur, gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad
sut i ymgysylltu â chydweithwyr a/neu eraill o ran rheoli gwelliant parhaus
- yr egwyddorion sydd y tu ôl i welliant sefydliadol
- sut i sefydlu systemau a mesurau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth ar berfformiad y sefydliad yn ei gyfanrwydd
- sut i ddefnyddio canfyddiadau i nodi cyfleoedd lle gellir gwella perfformiad sefydliadol
- sut i feincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn eraill a chymryd camau yn seiliedig ar y canfyddiadau
- pwysigrwydd derbyn adborth gan gydweithwyr a/neu eraill ar berfformiad eich sefydliad, a sut i gael gafael ar yr adborth yma a'i ddadansoddi
- pwysigrwydd datblygu diwylliant sy'n gwella'n barhaus a sut i gael eraill i fod â rhan yn hyn
- pwysigrwydd canfod achos ac effeithiau problemau a newidiadau
- sut mae eich sefydliad yn ychwanegu gwerth drwy ddarparu ei gynnyrch, gwasanaethau a phrosesau
- y ffyrdd o fesur effaith gwelliannau
- y rhychwant o ffynonellau gwybodaeth a thechnegau ar gyfer casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector y mae eich sefydliad yn gweithio ynddo
- y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector sy'n ymwneud â gwelliant parhaus
- y bobl sy'n cymryd rhan yn eich sefydliad a gwerth diwylliant cwsmer-ganolog
- y mesurau o berfformiad sy'n berthnasol i'ch sefydliad chi eich hun
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt