Hyfforddi a mentora’r rhai sy’n cymryd rhan i achosi newid effeithiol mewn ymddygiad
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â hyfforddi a mentora'r rhai sy'n cymryd
rhan, ar gyfer datblygu a mentora'r rhai sy'n cymryd rhan, er mwyn datblygu a chynnal newid effeithiol mewn ymddygiad.
Byddwch yn cael dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng mentora a hyfforddi. Rydych yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i wella drwy eu hyfforddi i nodi eu cryfderau a'u cymhelliannau a sut allant wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r rhain. Yn yr achos yma mae perfformiad yn cynnwys anghenion ac amcanion y rhai sy'n cymryd rhan i achosi newid mewn ymddygiad er mwyn cyflawni nodau a ddymunir. Yr ydych yn cefnogi'r rhai sy'n sy'n cymryd rhan i ddadansoddi eu perfformiad a nodi, datblygu, profi a mireinio sgiliau newydd ac ymddygiadau amgen fel hyfforddwr. Fel mentor, yr ydych yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i'r rhai sy'n cymryd rhan a hwyluso eu hangen i ddatblygu a gwneud cynnydd.
Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr uwch o fewn hamdden gweithgar.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- helpu pobl sy'n cymryd rhan nodi eu hanghenion, nodau ac amcanion ar gyfer hyfforddi a mentora
- hyrwyddo pwysigrwydd newid effeithiol mewn ymddygiad er mwyn cefnogi anghenion, nodau ac amcanion pobl sy'n cymryd rhan
- diffinio eich disgwyliadau eich hun a rhai pobl sy'n cymryd rhan o'r broses hyfforddi a mentora
- cyfathrebu gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyflymder, mewn modd ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion
- cytuno ar gontractau hyfforddi a mentora sy'n ymwneud â meysydd penodol ar gyfer datblygiad, y bylchau rhwng perfformiad cyfredol a'r hyn sydd ei angen, a chymhelliannau'r rhai sy'n cymryd rhan
- amlinellu'r gefnogaeth y gall pobl sy'n cymryd rhan ei disgwyl gennych chi, a'r ymrwymiad ellwch chi ei disgwyl ganddynt hwy
- nodi'r heriau i berfformiad a chefnogi pobl sy'n cymryd rhan i'w goresgyn
- cadw cofnodion cyfrinachol o'ch trafodaethau gyda phobl sy'n cymryd rhan yn unol â gofynion cyfreithiol
- cytuno ar amserlenni ar gyfer adolygu cynnydd a sut gellir mesur hynny
- edrych ar y sgiliau a'r ymddygiadau mae angen i bobl sy'n cymryd rhan eu datblygu yn newid er mwyn cwrdd â'u hanghenion, nodau ac amcanion
- edrych ar ffactorau all lesteirio cynnydd rhywun sy'n cymryd rhan a sut i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn
- cynllunio strategaethau gyda'r rhai sy'n cymryd rhan y gallant eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau newydd
- edrych gyda'r rhai sy'n cymryd rhan ar unrhyw risgiau sy'n ynghlwm wrth y sgiliau a'r ymddygiadau maent newydd eu datblygu
- nodi a hwyluso gallu'r rhai sy'n cymryd rhan i gymhwyso strategaethau er atal risg
- annog a grymuso pobl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a chynnal eu hunan ymwybyddiaeth a'u perfformiad eu hunain
- annog pobl sy'n cymryd rhan i adfyfyrio ar eu cynnydd a gwneud eu meddyliau a'u teimladau'n eglur
- monitro a chofnodi cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol
- rhoi adborth penodol wedi'i lunio i wella sgiliau'r rhai sy'n cymryd rhan, atgyfnerthu ymddygiadau effeithiol a gwella eu cymhelliant i gyflawni eu hanghenion, nodau ac amcanion
- gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
- dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. nodi nodweddion hyfforddi a mentora a manteision y ddau ddull
yr amrywiaeth o fodelau, offer a thechnegau hyfforddi neu fentora sydd ar gael, a sut i ddethol a chymhwyso'r rhain
egwyddorion newid ymddygiad effeithiol
egwyddorion sylfaenol seicoleg chwaraeon tra'n deall anghenion yr un sy'n cymryd rhan
y sgiliau mae hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol eu hangen, a sut i gymhwyso'r rhain
sut i sefydlu cytundeb hyfforddi gyda'r rhai sy'n cymryd rhan a beth ddylid ei gynnwys yn y cytundeb, gan gynnwys ystyriaethau moesegol
pwysigrwydd rhoi cyfloedd i'r rhai sy'n cymryd rhan i drafod eu hanghenion, nodau ac amcanion
y gwahanol ddulliau a thechnegau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i drafod perfformiad gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
y mathau o rwystrau all lesteirio cynnydd y rhai sy'n cymryd rhan a sut i'w goresgyn
amrywiaeth o strategaethau all gefnogi rhywun sy'n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau newydd
sut i helpu pobl sy'n cymryd rhan i asesu a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â sgiliau ac ymddygiadau newydd
sut i roi adborth penodol i'r rhai sy'n cymryd rhan wedi ei lunio ar gyfer gwella eu sgiliau, atgyfnerthu ymddygiadau effeithiol a gwella eu cymhelliant
pam ei fod yn bwysig bod y rhai sy'n cymryd rhan yn adfyfyrio ar eu cynnydd a sut i'w helpu i wneud hyn
sut i rymuso pobl sy'n cymryd rhan i gymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad eu hunain
rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon yma'n cysylltu â SKAAEAF7, SKAASPC1, SKAASPC2, SKAASPC3