Datblygu a rheoli sefydliad cwsmer-ganolog

URN: SKAAEAF4
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddwr personol uwch,Awyr agored uwch,Hyfforddwr chwaraeon uwch,Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon yma'n ymwneud â datblygu a rheoli sefydliad cwsmer-ganolog. Byddwch yn datblygu a rheoli diwylliant cwsmer-ganolog o fewn eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys trefnu adnoddau addas a chydweithio gydag eraill i gynnal safonau gwasanaeth cwsmer. Byddwch hefyd yn monitro perfformiad gwasanaeth cwsmer, sicrhau adborth a dadansoddi data er mwyn nodi gwelliannau a newidiadau a argymhellir i brosesau, systemau a safonau.

I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol sylweddol, gyda rhywfaint o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fasnachwr llawrydd/unigol.

Mae'r safon yma ar gyfer pob rheolwr ac ymarferydd uwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu safonau mesuradwy o wasanaeth cwsmer, gan gymryd i ystyriaeth ddisgwyliadau cwsmeriaid ac adnoddau eich sefydliad

  2. adolygu prosesau a systemau drwy eich holl sefydliad er mwyn sicrhau eu bod yn gwsmer-ganolog

  3. datblygu safon gwasanaeth cwsmer

  4. trefnu adnoddau i gwrdd â safonau gwasanaeth cwsmer, gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol lefelau o alw a sefyllfaoedd annisgwyl tebygol

  5. mesur medrusrwydd ynoch chi eich hun ac eraill er mwyn sicrhau bod y lefel gofynnol o wasanaeth cwsmer yn cael ei gyflawni

  6. sefydlu perthynas gydweithredol gyda sefydliadau neu adrannau eraill er mwyn cynnal a datblygu safonau gwasanaeth cwsmer

  7. datblygu diwylliant sydd wedi'i ganoli ar wasanaeth cwsmer o fewn eich sefydliad

  8. monitro adborth cwmeriaid a safonau gwasanaeth ar ysbeidiau priodol

  9. dehongli a dadansoddi'r wybodaeth a'r data a gasglwyd gennych, ar sail safonau gwasanaeth cwsmer eich sefydliad

  10. nodi cyfleoedd i wella safonau gwasanaeth cwsmer ar sail adborth a monitro

  11. rhoi ar waith newidiadau a argymhellir i brosesau, systemau neu safonau i wella gwasanaeth cwsmer

12. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau

  1. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. hawliau cyfreithiol cwsmeriaid
  2. ymrwymiad eich sefydliad i wasanaeth cwsmer
  3. cwsmeriaid eich sefydliad a'u disgwyliadau ar gyfer gwasanaeth cwsmer
  4. sut i sefydlu safonau clir a mesuradwy o wasanaeth cwsmer, gan ystyried disgwyliadau'r cwsmeriaid ac adnoddau'r sefydliad
  5. pwysigrwydd safon gwasanaeth cwsmer a diwylliant cwsmer-ganolog a moeseg
  6. sut mae safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmer yn cael eu defnyddio ar gyfer cwrdd ag anghenion y cwsmer
  7. sicrhau eich bod yn trefnu adnoddau er mwyn cwrdd â safonau gwasanaeth cwsmer
  8. pwysigrwydd sicrhau eich bod chi eich hun ac eraill yn deall y safonau gwasanaeth cwsmer a ddisgwylir i gael eu cyflawni
  9. pwysigrwydd cydweithredu gyda sefydliadau neu adrannau i gynnal a gwella lefelau uchel o wasanaeth cwsmer
  10. sut i ddatblygu diwylliant sy'n canolbwyntio ar wasanaeth cwsmer o fewn eich sefydliad
  11. pryd a sut i fonitro'r safonau o wasanaeth cwsmer a gyflawnir
  12. y mathau o wybodaeth a data am wasanaeth cwsmer a sut i'w dadansoddi er mwyn nodi cyfleoedd i wella gwasanaeth cwsmer
  13. pwysigrwydd gwneud neu argymhell newidiadau i brosesau, systemau a safonau i wella gwasanaeth cwsmer, a sut i wneud hynny
  14. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
  15. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr awyr agored uwch, Hyfforddwr personol uwch, Hyfforddwr chwaraeon uwch, Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd

Cod SOC

3443

Geiriau Allweddol

rheoli; canolbwyntio ar y cwsmer, cwsmer, sefydliad, diwylliant, gwelliannau