Datblygu diwylliant eich sefydliad
Trosolwg
Mae gan bob sefydliad, beth bynnag fo'i faint a'i hanes, ddiwylliant (a ddiffinir yn syml fel 'y ffordd yr ydym yn gwneud pethau yma'). Mae diwylliant sefydliad yn seiliedig ar ragdybiaethau a gwerthoedd am sefydliadau, bywyd gwaith a chydberthnasau. Mae'r gwerthoedd hyn yn dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd a thuag at gwsmeriaid, a sut maent yn ymwneud â'u gwaith. Efallai nad oes yna'r fath beth â diwylliant 'cywir' neu 'anghywir'. Fodd bynnag, rhaid i ddiwylliant sefydliad fod yn unol â'i weledigaeth a strategaeth gyflawn. Os nad yw diwylliant a strategaeth yn cydweddu, mae'n annhebygol y cyflawnir y weledigaeth.
I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol sylweddol, gyda rhywfaint o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fasnachwr llawrydd/unigol.
Mae'r safon yma ar gyfer pob rheolwr ac ymarferydd uwch.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cytuno ar werthoedd a rhagdybiaethau sy'n annog ymddygiad sy'n gyson â gweledigaeth a strategaeth cyflawn eich sefydliad ac anghenion a budd y budd-ddeiliaid allweddol
gwneud yn siwr bod eich ymddygiad personol, gweithredoedd a geiriau wastad yn atgyfnerthu'r gwerthoedd a'r rhagdybiaethau hyn
cyfathrebu gwerthoedd a gytunwyd i bobl ar draws eich sefydliad
dylanwadu ar bolisïau, rhaglenni a systemau'r sefydliad er mwyn cefnogi gwerthoedd a gytunwyd
herio ymddygiadau sy'n gwrthdaro â gwerthoedd eich sefydliad
monitro ac adolygu ymddygiadau, polisïau, rhaglenni a systemau yn erbyn gwerthoedd eich sefydliad
nodi gwelliannau i ymddygiad, polisïau, rhaglenni a systemau
rhoi ar waith newidiadau ar gyfer gwelliant parhaus
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y cysyniad o ddiwylliant fel ag y mae'n berthnasol i sefydliadau
gwahanol ddiffiniadau o ddiwylliant sefydliadol
pwysigrwydd gwerthoedd o ran bod yn sail i berfformiad yr unigolyn a'r sefydliad
ffactorau mewnol ac allanol sy'n dylanwadu ar ddiwylliant sefydliad, gan gynnwys diwylliannau cenedlaethol
y berthynas rhwng diwylliant sefydliadol, strategaeth a pherfformiad
yr egwyddorion a'r dulliau o reoli newid diwylliannol o fewn sefydliadau
y prif fathau o ddiwylliant sefydliadol yn eich sector a'u cryfderau a'u cyfyngiadau
8. gweledigaeth a strategaeth eich sefydliad
diwylliant eich sefydliad ar hyn o bryd
dulliau effeithiol o gyfathrebu gwerthoedd, a chefnogi'r ffordd maent yn cael eu cymhwyso o fewn eich sefydliad
11. ffyrdd effeithiol o ddelio ag ymddygiadau sydd mewn gwrthdaro â gwerthoedd a gytunwyd a rhagdybiaethau
- pwysigrwydd monitro ac adolygu ymddygiadau, polisïau, rhaglenni a strategaethau
13. ffyrdd o nodi gwelliannau a'u rhoi ar waith
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt