Hyrwyddo a chyfrannu tuag at amgylcheddau ac arferion gwaith iach, diogel a sicr
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â hyrwyddo a chyfrannu tuag at amgylcheddau ac arferion gwaith iach, diogel a sicr. Yr ydych yn sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol ac arferion gwaith ym maes eich cyfrifoldeb yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, a gofynion eich sefydliad.
Yr ydych yn ymgynghori gyda staff a chynrychiolwyr eraill ar faterion sy'n ymwneud â iechyd a diogelwch, gan sicrhau bod dealltwriaeth lawn o risg a mantais unrhyw weithgaredd arfaethedig, a bod yna systemau asesu mewn lle er mwyn nodi ac asesu peryglon a risgiau. Yr ydych yn gallu rheoli iechyd a diogelwch eich sefydliad o ddydd i ddydd, gan fonitro a chofnodi manylion perthnasol megis amodau, lleoliad a'r dewis o weithgaredd fel bo'n briodol ar gyfer y canlyniadau a ddymunir o'r gweithgareddau. Yr ydych hefyd yn gweithredu er mwyn rheoli neu leihau'r perygl heb gymrodeddu manteision yr amgylchedd waith a'r arferion drwy sicrhau bod adnoddau ar gael, eu bod yn ddiogel a bod y defnydd ohonynt a'r modd y cant eu cynnal a'u cadw yn cael ei gofnodi yn unol â gofynion cyfreithiol a rhai'r gwneuthurwyr.
I ddibenion y safon yma, gall 'sefydliad' ac 'amgylchedd waith' olygu endid hunan-gynhaliol megis cwmni yn y sector preifat, elusen neu awdurdod lleol, uned weithredol sylweddol, gyda rhywfaint o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy neu fasnachwr llawrydd/unigol.
Argymhellir y safon yma I reolwyr ac ymarferwyr uwch yn y sector hamdden weithgar.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
sicrhau bod yr amgylcheddau ac arferion gwaith ym maes eich cyfrifoldeb ym cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, rhai'r gwneuthurwyr a rhau cyfundrefnol o ran iechyd a diogelwch a'u bod yn cael eu hadolygu pan fo angen
gwirio cydymffurfiad â gofynion iechyd a diogelwch eich sefydliad yn dilyn unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol, newid i'r amgylchedd, arferion neu ddeddfwriaeth
ymgynghori gyda chynrychiolwyr ar faterion iechyd a diogelwch, yn unol â gofynion deddfwriaethol a chyfundrefnol
sefydlu, monitro a chynnal system ar gyfer adnabod peryglon iechyd a diogelwch ym maes eich cyfrifoldeb
rhoi ar waith system ar gyfer asesu risg-mantais ym maes eich cyfrifoldeb
llunio gweithdrefnau gweithredu, sy'n hwyluso cydbwysedd priodol o risg a mantais i'r rhai sy'n cymryd rhan.
deall y gofynion cyfreithiol a'r rhai mae sefydliadau eu hangen er mwyn cadw gwybodaeth yn ddiogel pan yn llunio neu adolygu amgylcheddau ac arferion gwaith
dyrannau digon o adnoddau ar draws maes eich cyfrifoldeb er mwyn delio â materion, iechyd, diogelwch a diogeledd
dangos eich ymrwymiad personol i iechyd, diogelwch, diogeledd a chynhyrchiant drwy eich gweithredoedd
adolygu ac ymgynghori â staff ynglŷn â gofynion iechyd a diogelwch ym maes eich cyfrifoldeb a gwneud argymhellion ar gyfer hysbysu datblygiadau yn y dyfodol
gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle, eich cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau personol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
sut i gadw i fyny gyda datblygiadau deddfwriaethol a datblygiadau eraill sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch
- y damcaniaethau, y sefyllfa gyfreithiol, a dulliau o ddatblygu asesiad risg
- arwyddocad asesiad risg-mantais a sut i wneud penderfyniadau risg-mantais effeithiol sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth o'r sefyllfa a'i gofynion
- sut i nodi risgiau i ddiogelwch y rhai sy'n cymryd rhan, cyfarpar, adnoddau a gwybodaeth a sut i'w lliniaru.
- sut a phryd i ddod o hyd i arbenigedd ac ymgynghori â'r arbenigedd yma er mwyn rheoli materion sy'n ymwnud ag iechyd, diogelwch a diogeledd
- y ffyrdd o ddatblygu diwylliant agored a thryloyw o ddiogelwch ym maes eich cyfrifoldeb sy'n rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf heb gymrodeddu manteision yr arfer gwaith
- sut i lunio a defnyddio asesiadau risg ar gyfer nodi peryglon ac asesu risgiau, y camau ddylid eu cymryd i'w rheoli neu eu lleihau, a'r mathau o adnoddau sydd eu hangen
- sut i gydbwyso a rheoli mewn modd effeithiol mantais gweithgaredd yn erbyn y risgiau, er mwyn sicrhau datblygiad effeithiol
- sut i sefydlu systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd am berfformiad iechyd, diogelwch a diogeledd ym maes eich cyfrifoldeb
- sut a phryd i adolygu'r gofynion ysgrifenedig ar gyfer iechyd a diogelwch ym maes eich cyfrifoldeb a chynhyrchu/darparu canfyddiadau i hysbysu cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol
- y cynlluniau gweithredol ym maes eich cyfrifoldeb ac adnoddau a ddyrennir i faes eich cyfrifoldeb ac ar ei draws ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd
- y cyfrifoldebau sydd wedi eu dyrannau dros iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich maes a'ch sefydliad
- rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
- deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt