Datblygu fel ymarferydd cyflogaeth gyda chefnogaeth myfyriol

URN: SKA SE08
Sectorau Busnes (Suites): Cyflogaeth gyda Chefnogaeth
Datblygwyd gan: BASE
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Safon ar gyfer beth yw hon?

* *

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r modd y mae'r ymarferydd cyflogaeth gyda chefnogaeth yn datblygu ei gymhwyster a'i ymarfer ei hun trwy arweiniad dan oruchwyliaeth, adolygu a myfyrio.

* *

Ar gyfer pwy mae'r Safon?

* *

Mae'r safon ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cofnodi eich myfyrdodau am eich gwerthoedd, ymddygiad, agweddau ac ymroddiad fel ymarferydd cyflogaeth gyda chefnogaeth er mwyn gwella eich datblygiad proffesiynol a phersonol

  2. gweithio o fewn ffiniau eich cymhwysedd fel ymarferydd cyflogaeth gyda chefnogaeth a'ch perthynas gyda gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn rhoi cefnogaeth deilwng i unigolion a chyflogwyr

  3. ceisio adborth ar eich perfformiad gan geiswyr swyddi, cyflogwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid er mwyn gwella eich ymarfer eich hun

  4. cynnal a diweddaru eich gwybodaeth am gyflogaeth gyda chefnogaeth er mwyn datblygu eich ymarfer eich hun

  5. adolygu a diweddaru eich datblygiad proffesiynol a phersonol er mwyn gwella eich ymarfer eich hun

  6. cofnodi deilliannau datblygiad proffesiynol parhaus yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r  sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. modelau, offer a thechnegau myfyrio

  2. pwysigrwydd myfyrio'n feirniadol ar eich gwerthoedd, eich ymddygiad, eich agweddau a'ch ymroddiad eich hun a sut maent yn effeithio ar eich ymarfer

  3. pam ei bod yn bwysig deall eich cymhwysedd eich hun yn drylwyr

  4. sut i dderbyn adborth gwrthrychol ar eich perfformiad gan geiswyr gwaith, cyflogwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid

  5. diben canllawiau proffesiynol ar gyfer datblygu eich rôl  

  6. sut i ddod o hyd i gymunedau yn y maes sy'n gallu darparu cyngor a chefnogaeth

  7. sut i ddefnyddio canllawiau proffesiynol i osod blaenoriaethau ar gyfer eich cynllun datblygu proffesiynol a'i adolygu

  8. pwysigrwydd diweddaru eich gwybodaeth eich hun o gyflogaeth gyda chefnogaeth

  9. cyfleoedd sydd ar gael i gefnogi eich datblygiad proffesiynol a phersonol

  10. sut i ddiweddaru eich cynllun datblygiad proffesiynol parhaus gan gymryd adborth i ystyriaeth, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

Er mwyn i berson sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn gymwys i wneud y gwaith, rhaid iddo ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar werthoedd arbennig.  Mae disgwyl i ymarferwyr ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn ymwybodol o ac i fabwysiadu dull o weithio sy'n ddibynnol ar werthoedd a moeseg. Cydnabyddir hefyd y gallai fod angen gosod y gwerthoedd, yn ogystal â'r NOS, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol, cymdeithasol a gwleidyddol lle cyflawnir y gweithgareddau cyflogaeth gyda chefnogaeth.

Mae ymarferwyr cyflogaeth gyda chefnogaeth yn dilyn yr athroniaeth:

  1. Y gall pobl gydag anableddau a/neu anfanteision wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gweithle.

  2. Y dylai pobl gydag anableddau a/neu anfanteision gael mynediad at swyddi go iawn sy'n

• talu cyflog ar y raddfa arferol am y math hwnnw o waith

• galluogi'r person a gyflogir i gael yr un telerau ac amodau â gweddill y gweithlu

• golygu fod y swydd yn helpu'r person i wireddu ei amcanion a'i ddyheadau

• swydd a werthfawrogir gan reolwyr a chydweithwyr

• gofyn am yr un oriau ac amseroedd gwaith â gweddill y gweithlu, gydag amodau gwaith diogel.

  1. Bod ymarferwyr yn glynu at yr athroniaeth 'dim gwrthodiad' o ran cyflogaeth gyda chefnogaeth, fel y gall unrhyw un sydd eisiau gweithio fod mewn gwaith, gyda'r swydd iawn a chefnogaeth addas.

  2. Nad ydy cyflogaeth gyda chefnogaeth yn glynu at fodel o fod yn barod at waith, ond yn hytrach ddilyn trefn o 'leoli, hyfforddi a chynnal'.

  3. Y dylid chwilio am waith cyn gynted ag y bo modd.

  4. Bod pobl yn cael eu hannog i ddewis drostynt eu hunain, a bod â rheolaeth wrth geisio gwireddu eu dyheadau gyrfa.  Dylai pob cefnogaeth fod yn addas i'r unigolyn, gan gymryd yn ganiataol fod pob opsiwn yn arwain at gyflogadwyedd llwyddiannus.

  5. Bod yna bartneriaeth wirioneddol rhwng yr unigolyn, ei ofalwyr teuluol, cyflogwyr, cefnogwyr cymunedol a'r darparwr cyflogaeth gyda chefnogaeth.

  6. Bod pobl yn cael cefnogaeth i fod yn aelodau llawn a gweithredol o'u gweithluoedd a chymunedau ehangach, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

  7. Bod gwasanaethau cefnogaeth yn cydnabod pwysigrwydd y cyflogwr fel cwsmer cyflogaeth gyda chefnogaeth yn ei hawl ei hun, a bod ganddo ofynion sy'n rhaid eu bodloni.

  8. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn gwneud defnydd o Sefydlu Gwerth Swyddogaeth Gymdeithasol (SRV) gan gydnabod fod gweithio yn rôl gymdeithasol werthfawr, a bod cael eich cyflogi yn gallu gwyrdroi dibrisiant cymdeithasol, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn dan sylw.

  9. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod fod anabledd yn gynnyrch y rhwystrau corfforol, sefydliadol ac agwedd a geir o fewn cymdeithas.  Er mwyn diddymu gwahaniaethu, mae angen newid agwedd a ffordd o feddwl yn y modd y trefnir cymdeithas, gan ddileu rhwystrau i gyflogaeth yn yr achos hwn.

  10. Y dylai cyflogaeth gyda chefnogaeth ysgogi datblygiad gyrfa unigolion drwy gynnig cyfleoedd am hyfforddiant, a chwilio am agoriadau ar gyfer cynyddu cyfrifoldeb.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cyflogaeth gyda Chefnogaeth: Cyflogaeth gyda chefnogaeth yw'r term ar gyfer cefnogaeth o ansawdd uchel, sydd wedi'i deilwrio'n benodol ar gyfer pobl ag anableddau a/neu anfanteision, sy'n eu galluogi i geisio, cyrchu a chadw cyflogaeth yn y farchnad lafur agored.   Mae'r patrwm o weithredu sy'n 'lleoli, hyfforddi a chynnal' yn un nad yw'n dibynnu ar gyfnodau hir o hyfforddiant cyn-alwedigaethol na lefel sylfaenol o gymhwyster neu brofiad.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

British Association for Supported Employment:

http://base-uk.org/ ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru

 

Scottish Union of Supported Employment:

http://www.susescotkand.co.uk/

 

Northern Ireland Union of Supported Employment:

http://www.niuse.org.uk​

 

European Union of Supported Employment:

http://www.euse.org/


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

LSIS

URN gwreiddiol

LSI SE08

Galwedigaethau Perthnasol

Ymarferwyr Cyflogaeth gyda Chefnogaeth, Hyfforddwyr Swyddi, Cynghorwyr Gyrfa ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Rheolwyr Llinell, Goruchwylwyr ac Arweinyddion Tîm, Gweithwyr Cyswllt Iechyd, Gweithwyr Lles

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyflogaeth gyda chefnogaeth