Cynghori cyflogwyr ynglŷn â’r manteision, y prosesau a’r dulliau o recriwtio a chadw gweithlu amrywiol
Trosolwg
Safon ar gyfer beth yw hon?
Mae'r safon hon ynglŷn ag ymgysylltu gyda chyflogwyr i'w galluogi i ddeall manteision datblygu prosesau a dulliau o recriwtio a chadw gweithlu amrywiol. Mae'n cynnwys rhoi cefnogaeth i gyflogwyr wrth adolygu eu harferion cyflogaeth, hyrwyddo amrywiaeth eu gweithlu, tra ar yr un pryd fodloni eu hanghenion busnes.
Yng nghyd-destun y safon hon, mae'r term 'ceisiwr gwaith' yn golygu unigolyn sy'n chwilio am swydd gyflogedig o ryw fath.
* *
Ar gyfer pwy mae'r Safon?
* *
Mae'r safon ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael mynediad at ffynonellau gwybodaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol am y farchnad lafur
2. hyrwyddo'r achos busnes dros weithlu amrywiol er mwyn denu eu hymroddiad a'u hymrwymiad i brosesau cyflogaeth gyda chefnogaeth
gwyneud cysylltiad cychwynnol â chyflogwyr er mwyn canfod cyfleoedd gwaith posib
darparu cefnogaeth i gyflogwyr i oresgyn rhwystrau canfyddedig a gwirioneddol i gyflogi a chadw gweithlu amrywiol
cynghori cyflogwyr ar sut i addasu a/neu deilwrio swyddi i gyfarfod ag anghenion ceiswyr gwaith unigol
cynnig addasiadau rhesymol y gallai cyflogwyr eu gwneud i hwyluso recriwtio a dethol, cefnogi, mentora a rheoli gweithlu amrywiol
cynghori cyflogwyr ar sut i fodloni gofynion deddfwriaeth gyfredol am gyflogaeth a chydraddoldeb, yn genedlaethol a rhyngwladol, ar gyfer y gweithlu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
ffynonellau gwybodaeth am y farchnad yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a sut i gael mynediad atynt
cyflogwyr allweddol yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol a'u diddordeb mewn cyflogaeth gyda chefnogaeth
yr achos busnes dros recriwtio a chadw gweithlu amrywiol gan gyflogwyr
sut i wneud cysylltiad cychwynnol gyda chyflogwyr ar draws gwahanol sectorau mewn modd sy'n eu denu a'u diddori
y prif bryderon a rhwystrau canfyddedig i gyflogwyr wrth recriwtio a chadw gweithlu amrywiol a sut i fynd i'r afael â'r rhain
sut i sicrhau ymroddiad y cyflogwr a chadw'i ymrwymiad i'r broses cyflogaeth gyda chefnogaeth
y math o gyngor a hyfforddiant ymwybyddiaeth y gallai cyflogwyr fod ei angen i ddeall a chefnogi gofynion ceiswyr gwaith
ffyrdd y gellir addasu swyddi a phrosesau recriwtio a dethol i fodloni anghenion cyflogwyr a cheiswyr gwaith
y prosesau y gall cyflogwyr eu mabwysiadu i gefnogi gweithwyr sy'n mynd yn sâl, anabl neu'n dioddef straen yn y gwaith
sut i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt ddatblygu eu diwylliant sefydliadol er mwyn croesawu cynhwysiant ac amrywiaeth
y mathau o addasiadau rhesymol y gellir annog cyflogwyr i'w gwneud er mwyn denu, cefnogi, mentora a rheoli gweithlu amrywiol
deddfwriaeth gyfredol am gyflogaeth a chydraddoldeb, yn genedlaethol a rhyngwladol, ar gyfer y gweithlu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Er mwyn i berson sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn gymwys i wneud y gwaith, rhaid iddo ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar werthoedd arbennig. Mae disgwyl i ymarferwyr ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn ymwybodol o ac i fabwysiadu dull o weithio sy'n ddibynnol ar werthoedd a moeseg. Cydnabyddir hefyd y gallai fod angen gosod y gwerthoedd, yn ogystal â'r NOS, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol, cymdeithasol a gwleidyddol lle cyflawnir y gweithgareddau cyflogaeth gyda chefnogaeth.
Mae ymarferwyr cyflogaeth gyda chefnogaeth yn dilyn yr athroniaeth:
Y gall pobl gydag anableddau a/neu anfanteision wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gweithle.
Y dylai pobl gydag anableddau a/neu anfanteision gael mynediad at swyddi go iawn sy'n
• talu cyflog ar y raddfa arferol am y math hwnnw o waith
• galluogi'r person a gyflogir i gael yr un telerau ac amodau â gweddill y gweithlu
• golygu fod y swydd yn helpu'r person i wireddu ei amcanion a'i ddyheadau
• swydd a werthfawrogir gan reolwyr a chydweithwyr
• gofyn am yr un oriau ac amseroedd gwaith â gweddill y gweithlu, gydag amodau gwaith diogel.
Bod ymarferwyr yn glynu at yr athroniaeth 'dim gwrthodiad' o ran cyflogaeth gyda chefnogaeth, fel y gall unrhyw un sydd eisiau gweithio fod mewn gwaith, gyda'r swydd iawn a chefnogaeth addas.
Nad ydy cyflogaeth gyda chefnogaeth yn glynu at fodel o fod yn barod at waith, ond yn hytrach ddilyn trefn o 'leoli, hyfforddi a chynnal'.
Y dylid chwilio am waith cyn gynted ag y bo modd.
Bod pobl yn cael eu hannog i ddewis drostynt eu hunain, a bod â rheolaeth wrth geisio gwireddu eu dyheadau gyrfa. Dylai pob cefnogaeth fod yn addas i'r unigolyn, gan gymryd yn ganiataol fod pob opsiwn yn arwain at gyflogadwyedd llwyddiannus.
Bod yna bartneriaeth wirioneddol rhwng yr unigolyn, ei ofalwyr teuluol, cyflogwyr, cefnogwyr cymunedol a'r darparwr cyflogaeth gyda chefnogaeth.
Bod pobl yn cael cefnogaeth i fod yn aelodau llawn a gweithredol o'u gweithluoedd a chymunedau ehangach, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Bod gwasanaethau cefnogaeth yn cydnabod pwysigrwydd y cyflogwr fel cwsmer cyflogaeth gyda chefnogaeth yn ei hawl ei hun, a bod ganddo ofynion sy'n rhaid eu bodloni.
Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn gwneud defnydd o Sefydlu Gwerth Swyddogaeth Gymdeithasol (SRV) gan gydnabod fod gweithio yn rôl gymdeithasol werthfawr, a bod cael eich cyflogi yn gallu gwyrdroi dibrisiant cymdeithasol, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn dan sylw.
Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod fod anabledd yn gynnyrch y rhwystrau corfforol, sefydliadol ac agwedd a geir o fewn cymdeithas. Er mwyn diddymu gwahaniaethu, mae angen newid agwedd a ffordd o feddwl yn y modd y trefnir cymdeithas, gan ddileu rhwystrau i gyflogaeth yn yr achos hwn.
Y dylai cyflogaeth gyda chefnogaeth ysgogi datblygiad gyrfa unigolion drwy gynnig cyfleoedd am hyfforddiant, a chwilio am agoriadau ar gyfer cynyddu cyfrifoldeb.
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Teilwrio swyddi: Gellir teilwrio swyddi drwy ddethol a chyfuno dyletswyddau o un neu fwy o swyddi presennol i lunio swydd o'r newydd.
Addasu: Gellir addasu swyddi ar sail cyfatebiaeth unigolyddol rhwng cryfderau a diddordebau ceisiwr gwaith, ac anghenion busnes canfyddadwy'r cyflogwr.
Amrywiaeth: Anelu at gydnabod, parchu a gwerthfawrogi'r gwahaniaethau rhwng gallu pobl i gyfrannu a chyrraedd eu potensial llawn drwy hybu diwylliant cynhwysol i bawb.
Addasiad rhesymol: Mae Cyfraith Cydraddoleb yn cydnabod y gall sicrhau cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl olygu newid sut mae cyflogaeth wedi'i strwythuro, cael gwared ar rwystrau corfforol a/neu ddarparu cefnogaeth ychwanegol i weithiwr anabl neu ymgeisydd am swydd - dyma'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.
Cyflogaeth gyda Chefnogaeth: Cyflogaeth gyda chefnogaeth yw'r term ar gyfer cefnogaeth o ansawdd uchel, sydd wedi'i deilwrio'n benodol ar gyfer pobl ag anableddau a/neu anfanteision, sy'n eu galluogi i geisio, cyrchu a chadw cyflogaeth yn y farchnad lafur agored. Mae'r patrwm o weithredu sy'n 'lleoli, hyfforddi a chynnal' yn un nad yw'n dibynnu ar gyfnodau hir o hyfforddiant cyn-alwedigaethol na lefel sylfaenol o gymhwyster neu brofiad.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
British Association for Supported Employment:
http://base-uk.org/ ar gyfer Lloegr, yr Alban, a Chymru
Scottish Union of Supported Employment:
http://www.susescotland.co.uk/
Northern Ireland Union of Supported Employment:
http://www.niuse.org.uk
European Union of Supported Employment:
http:www.euse.org/