Creu a chytuno ar gynlluniau datblygu i geiswyr gwaith gael a chadw swydd

URN: SKA SE04
Sectorau Busnes (Suites): Cyflogaeth gyda Chefnogaeth
Datblygwyd gan: BASE
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Safon ar gyfer beth yw hon?

Mae'r safon hon ynglŷn â gweithio gyda cheiswyr gwaith i greu a chytuno ar gynlluniau datblygu sy'n bodloni eu hanghenion cyflogaeth, personol ac ariannol.

Yng nghyd-destun y safon hon, mae'r term 'ceisiwr gwaith' yn golygu unigolyn sy'n chwilio am swydd gyflogedig o ryw fath.

* *

* *

Ar gyfer pwy mae'r Safon?

* *

Mae'r safon ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal sesiynau cynllunio gyda cheiswyr gwaith a'u cylchoedd cefnogaeth i ganfod llwybr cyflogaeth ar eu cyfer, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn

  2. gofalu bod gan geiswyr gwaith yr wybodaeth a'r profiad i sicrhau fod ganddynt ddewis a rheolaeth dros y broses o chwilio am, a chael swydd gyflogedig

  3. cytuno gyda cheiswyr gwaith pa gyflogwyr a sectorau gwaith i'w targedu ar gyfer mathau penodol o waith cyflogedig

  4. cytuno gyda cheiswyr gwaith ar gynlluniau datblygu penodol, mesuradwy, cyraeddadwy a synhwyrol ar gyfer cael swydd gyflogedig o fewn terfynau amser

  5. adolygu a diweddaru'r cynlluniau datblygu ar gyfer cael a chadw swydd gyda'r ceiswyr gwaith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i alluogi ceiswyr gwaith, ac eraill maent yn dewis eu cynnwys, i gyfrannu i drafodaethau am gyflogaeth sy'n gyson â'u sgiliau a'u galluoedd

  2. sut i gynnwys teulu, cylchoedd cefnogaeth ac unigolion mewn cynllunio, gwneud penderfyniadau, chwilio am swydd a datblygiad swydd

  3. dulliau a ddefnyddir i alluogi ceiswyr gwaith i wneud eu penderfyniadau eu hunain

  4. dulliau ar gyfer ysgrifennu cynlluniau Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Synhwyrol ac o fewn Terfyniad amser

  5. dulliau o gynnwys ceiswyr gwaith mewn cynllunio cyflogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

Er mwyn i berson sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn gymwys i wneud y gwaith, rhaid iddo ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar werthoedd arbennig.  Mae disgwyl i ymarferwyr ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn ymwybodol o ac i fabwysiadu dull o weithio sy'n ddibynnol ar werthoedd a moeseg. Cydnabyddir hefyd y gallai fod angen gosod y gwerthoedd, yn ogystal â'r NOS, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol, cymdeithasol a gwleidyddol lle cyflawnir y gweithgareddau cyflogaeth gyda chefnogaeth.

Mae ymarferwyr cyflogaeth gyda chefnogaeth yn dilyn yr athroniaeth:

  1. Y gall pobl gydag anableddau a/neu anfanteision wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gweithle.

  2. Y dylai pobl gydag anableddau a/neu anfanteision gael mynediad at swyddi go iawn sy'n

• talu cyflog ar y raddfa arferol am y math hwnnw o waith

• galluogi'r person a gyflogir i gael yr un telerau ac amodau â gweddill y gweithlu

• golygu fod y swydd yn helpu'r person i wireddu ei amcanion a'i ddyheadau

• swydd a werthfawrogir gan reolwyr a chydweithwyr

• gofyn am yr un oriau ac amseroedd gwaith â gweddill y gweithlu, gydag amodau gwaith diogel.

  1. Bod ymarferwyr yn glynu at yr athroniaeth 'dim gwrthodiad' o ran cyflogaeth gyda chefnogaeth, fel y gall unrhyw un sydd eisiau gweithio fod mewn gwaith, gyda'r swydd iawn a chefnogaeth addas.

  2. Nad ydy cyflogaeth gyda chefnogaeth yn glynu at fodel o fod yn barod at waith, ond yn hytrach ddilyn trefn o 'leoli, hyfforddi a chynnal'.

  3. Y dylid chwilio am waith cyn gynted ag y bo modd.

  4. Bod pobl yn cael eu hannog i ddewis drostynt eu hunain, a bod â rheolaeth wrth geisio gwireddu eu dyheadau gyrfa.  Dylai pob cefnogaeth fod yn addas i'r unigolyn, gan gymryd yn ganiataol fod pob opsiwn yn arwain at gyflogadwyedd llwyddiannus.

  5. Bod yna bartneriaeth wirioneddol rhwng yr unigolyn, ei ofalwyr teuluol, cyflogwyr, cefnogwyr cymunedol a'r darparwr cyflogaeth gyda chefnogaeth.

  6. Bod pobl yn cael cefnogaeth i fod yn aelodau llawn a gweithredol o'u gweithluoedd a chymunedau ehangach, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

  7. Bod gwasanaethau cefnogaeth yn cydnabod pwysigrwydd y cyflogwr fel cwsmer cyflogaeth gyda chefnogaeth yn ei hawl ei hun, a bod ganddo ofynion sy'n rhaid eu bodloni.

​ 

  1. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn gwneud defnydd o Sefydlu Gwerth Swyddogaeth Gymdeithasol (SRV) gan gydnabod fod gweithio yn rôl gymdeithasol werthfawr, a bod cael eich cyflogi yn gallu gwyrdroi dibrisiant cymdeithasol, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn dan sylw.

  2. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod fod anabledd yn gynnyrch y rhwystrau corfforol, sefydliadol ac agwedd a geir o fewn cymdeithas.  Er mwyn diddymu gwahaniaethu, mae angen newid agwedd a ffordd o feddwl yn y modd y trefnir cymdeithas, gan ddileu rhwystrau i gyflogaeth yn yr achos hwn.

  3. Y dylai cyflogaeth gyda chefnogaeth ysgogi datblygiad gyrfa unigolion drwy gynnig cyfleoedd am hyfforddiant, a chwilio am agoriadau ar gyfer cynyddu cyfrifoldeb.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cylchoedd Cefnogaeth: Mae Cylch Cefnogaeth yn grŵp o bobl sy'n helpu rhywun i gyflawni ei amcanion personol mewn bywyd. Cânt eu defnyddio'n aml ar gyfer cynllunio person-ganolog, gyda'r Cylch yn gweithredu fel cymuned o amgylch yr unigolyn hwnnw (yr 'unigolyn ffocws') sydd, am ba bynnag reswm, yn methu cyflawni'r hyn y mae eisiau mewn bywyd ar ei ben ei hun ac yn penderfynu gofyn i eraill am gymorth.

Llwybr Cyflogaeth: Llwybr clir a diffiniedig i gyflogaeth, a allai gynnwys hunangyflogaeth.  Mae'n dangos pa weithgareddau a phrofiadau allai fod o help wrth ddewis gyrfa a chael swydd gyflogedig.

Datblygiad Swydd: Mae hwn yn cyfeirio at ganfod swydd ddewisol rhywun trwy gyswllt â chyflogwyr. Mae'n cynnwys pob agwedd ar ganfod swyddi addas a chyflogwyr posib, cysylltu â chyflogwyr ar ran ceisiwr gwaith, cael swydd a, lle bo angen, trafod addasiadau rhesymol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

British Association for Supported Employment:

http://base-uk.org/ ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru

 

Scottish Union of Supported Employment:

http://www.susescotland.co.uk/

 

Northern Ireland Union of Supported Employment:

http://www.niuse.org.uk

 

European Union of Supported Employment:

http://www.euse.org/


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

LSIS

URN gwreiddiol

LSI SE05

Galwedigaethau Perthnasol

Ymarferwyr Cyflogaeth gyda Chefnogaeth, Hyfforddwyr Swyddi, Cynghorwyr Gyrfa ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Rheolwyr Llinell, Goruchwylwyr ac Arweinyddion Tîm, Gweithwyr Cyswllt Iechyd, Gweithwyr Lles

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyflogaeth gyda Chefnogaeth